Pam astudio yma?
Pam dewis astudio ym Mhrifysgol 鶹?
Rhagoriaeth academaidd ac ymchwil
Wedi'i sefydlu ym 1884, mae Prifysgol 鶹 yn cyfuno rhagoriaeth academaidd draddodiadol ag ymchwil ac offer blaengar ac mae wedi'i henwi yn y 20 uchaf ar gyfer Ansawdd Ymchwil - Complete University Guide 2022
Ystod o Arbenigedd
Ceir tri Choleg yn y Brifysgol sy’n cynnwys tri ar ddeg o Ysgolion Academaidd, yn ogystal â thros hanner cant o ganolfannau ymchwil arbenigol, gan ei gwneud yn bosibl darparu dros 150 o gyrsiau ôl-radd sy’n cynnwys y Celfyddydau, y Dyniaethau a’r Gwyddorau.
Boddhad myfyrwyr
Ymysg y 10 Uchaf am foddhâd myfyrwyr - Complete University Guide 2022 a 1af yng Nghymru am foddhâd myfyrwyr – NSS 2021
Datblygiad Academaidd
Rydym yn credu’n gryf mewn cefnogi datblygiad academaidd ein hôl-raddedigion. Mae ein Rhaglen Datblygu Ymchwilwyr Cam Cynnar (ERDP) yn darparu hyfforddiant a gweithdai a fydd yn eich helpu i ddatblygu a dal gafael ar y sgiliau ymchwil, galwedigaethol ac entrepreneuraidd allweddol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion eich gyrfa yn y dyfodol.
Gwasanaethau Cefnogi
O’r funud y cyrhaeddwch, byddwch yn derbyn cymaint o gymorth a chefnogaeth ag sy’n bosibl gyda materion iechyd a lles yn ogystal â’ch gwaith academaidd. Yn ein canolfan Gwasanaethau Cefnogi Myfyrwyr cewch gyngor a chyfarwyddyd ar faterion yn ymwneud ag arian a thai i gefnogaeth ag anabledd, cwnsela a darpariaeth ffydd yn lleol.
Gosodiad Ysblennydd
Gall y cydbwysedd rhwng eich gwaith a’ch bywyd personol fod yn allweddol i lwyddiant eich astudiaeth ôl-radd. Mae 鶹 wedi’i lleoli rhwng mynyddoedd, llynnoedd a choedwigoedd Parc Cenedlaethol Eryri a milltiroedd o arfordir dramatig. Mae’n un o’r lleoliadau astudio mwyaf deniadol ym Mhrydain, ac yn lle gwych ar gyfer pob math o chwaraeon a gweithgareddau awyr agored.
Lleoliad cyfleus
Mae 鶹 wrth wraidd rhwydwaith cludiant yr ardal, gyda chysylltiadau cyflym â char neu drên i â chi i Lerpwl a Manceinion mewn dim ond 90 munud. Mae lleoliad 鶹 ar y prif lwybr o Lundain i Gaergybi yn golygu bod y gwasanaeth fferi rheolaidd o Borthladd Caergybi i Ddulyn yn ddim ond 20 munud i ffwrdd, tra bydd trên uniongyrchol yn mynd â chi i ganol Llundain mewn ychydig dros 3 awr.
* heb gyfrif sefydliadau arbenigol a phrifysgolion oedd yn cyflwyno mewn un Uned Asesu yn unig.