Module PCC-3009:
Niwroestheteg:
Neuroaesthetics: Combining the Sciences and the Arts 2025-26
PCC-3009
2025-26
School of Psychology & Sport Science
Module - Semester 1
20 credits
Module Organiser:
Awel Vaughan-Evans
Overview
Mi fydd y modiwl yma yn cyflwyno’r maes ymchwil o ‘niwroestheteg’ i fyfyrwyr. Mi fydd y modiwl yn canolbwyntio ar bedwar prif bwnc (Celf, Cerddoriaeth, Dawns, a Llenyddiaeth), ac yn eu cyflwyno o safbwynt niwrowyddoniaeth gwybyddol, a safbwynt gymhwysol. Caiff pob pwnc ei drafod am ddwy wythnos: Mi fydd yr wythnos gyntaf yn canolbwyntio ar ymchwil sy’n ymdrin ag effaith celf/cerddoriaeth/dawns/llenyddiaeth ar y boblogaeth gyffredinol, ac yn cyflwyno dulliau casglu data ar-lein megis EEG, fMRI a thracio llygaid. Mi fydd yr ail wythnos yn canolbwyntio ar ymchwil cymhwysol, ac yn amlinellu therapïau gwahanol a ddefnyddir gyda phoblogaethau penodol. Nod y darlithoedd yma yw cyflwyno dulliau ymchwil a safbwyntiau gwahanol i fyfyrwyr, ac i amlygu rhai o’r prif fanteision ac anfanteision o gynnal ymchwil groes-ddisgyblaethol.
Yn ogystal â’r darlithoedd, a fydd yn darparu trosolwg bras o bob pwnc, ac yn cyflwyno dulliau casglu data gwahanol, mi fydd myfyrwyr yn mynychu seminarau yn wythnosol. Yn ystod y seminarau yma, mi fydd myfyrwyr yn trafod a gwerthuso papurau ymchwil yn gritigol. Nod y seminarau yma yw datblygu sgiliau cyfathrebu myfyrwyr, ac i annog myfyrwyr i werthuso a gwerthfawrogi dulliau ymchwil a safbwyntiau gwahanol.
Mi fydd y modiwl yn canolbwyntio ar bedwar prif bwnc (Celf, Cerddoriaeth, Dawns, a Llenyddiaeth), ac yn eu cyflwyno o safbwynt niwrowyddoniaeth gwybyddol, a safbwynt gymhwysol. Caiff pob pwnc ei drafod am ddwy wythnos: Mi fydd yr wythnos gyntaf yn canolbwyntio ar ymchwil sy’n ymdrin ag effaith celf/cerddoriaeth/dawns/llenyddiaeth ar y boblogaeth gyffredinol, ac yn cyflwyno dulliau casglu data ar-lein megis EEG, fMRI a thracio llygaid. Mi fydd yr ail wythnos yn canolbwyntio ar ymchwil cymhwysol, ac yn amlinellu therapïau gwahanol a ddefnyddir gyda phoblogaethau penodol.
Assessment Strategy
Rhagorol (A- i A**) Cyflwyniad rhagorol o wybodaeth gynhwysfawr am niwroestheteg mewn modd clir, cryno a chywir. Dealltwriaeth ragorol o'r manteision a'r anfanteision sy'n gysylltiedig ag ymchwil drawsddisgyblaethol. Defnydd rhagorol o dystiolaeth i gefnogi'r pwyntiau a wnaed. Sgiliau cyflwyno llafar rhagorol, gan ddangos dealltwriaeth glir, gwaith annibynnol a meddwl critigol. Cyfathrebwyd prif bwyntiau'r papur yn glir ac yn effeithiol, a dangoswyd y gallu i ateb cwestiynau'n hyderus. Datblygiad rhagorol a rhesymegol o ddadleuon beirniadol mewn aseiniadau ysgrifenedig, tystiolaeth o ddarllen ychwanegol a dehongliad gwreiddiol. Defnydd rhagorol o astudiaethau a drafodwyd yn y seminarau, yn ogystal ag ymchwil ychwanegol, i gefnogi'r pwyntiau a wnaed. Cyflwyniad rhagorol o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos dealltwriaeth wirioneddol o niwroestheteg, a gwerthusiad rhagorol o gymwysiadau damcaniaethol ac ymarferol y maes.
Da (B- i B+) Cyflwyniad da o wybodaeth gadarn am niwroestheteg mewn modd clir, cryno a chywir. Dealltwriaeth dda o'r manteision a'r anfanteision sy'n gysylltiedig ag ymchwil drawsddisgyblaethol. Defnydd da o dystiolaeth i gefnogi'r pwyntiau a wnaed. Sgiliau cyflwyno llafar da, gan ddangos dealltwriaeth weddol glir, gwaith annibynnol a meddwl critigol. Cyfathrebwyd prif bwyntiau'r papur yn glir ac yn effeithiol, a dangoswyd y gallu i ateb cwestiynau'n hyderus. Datblygiad da a rhesymegol o ddadleuon beirniadol mewn aseiniadau ysgrifenedig, tystiolaeth o ddarllen ychwanegol a dehongliad gwreiddiol. Defnydd da o astudiaethau a drafodwyd yn y seminarau, yn ogystal ag ymchwil ychwanegol, i gefnogi'r pwyntiau a wnaed. Cyflwyniad da o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos dealltwriaeth wirioneddol o niwroestheteg, a gwerthusiad da o gymwysiadau damcaniaethol ac ymarferol y maes.
Boddhaol (C- to C+) Cyflwyniad boddhaol o wybodaeth am niwroestheteg mewn modd weddol glir, ond gydag ychydig o anghywirdeb. Dealltwriaeth foddhaol o'r manteision a'r anfanteision sy'n gysylltiedig ag ymchwil drawsddisgyblaethol. Defnydd boddhaol o dystiolaeth i gefnogi'r pwyntiau a wnaed. Sgiliau cyflwyno llafar boddhaol, gan ddangos dealltwriaeth o brif elfennau’r pwnc, ond gydag ychydig iawn o feddwl critigol. Cyfathrebwyd rhai o brif bwyntiau'r papur, a dangoswyd y gallu i ateb cwestiynau'n hyderus. Datblygiad boddhaol o ddadleuon beirniadol mewn aseiniadau ysgrifenedig, ond roedd diffyg cydlyniad i’r dadleuon. Defnydd boddhaol o astudiaethau a drafodwyd yn y seminarau i gefnogi'r pwyntiau a wnaed, gydag ychydig iawn o dystiolaeth o ymchwil ychwanegol. Cyflwyniad boddhaol o gwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol, gan ddangos ychydig o ddealltwriaeth o niwroestheteg, a gwerthusiad boddhaol o gymwysiadau damcaniaethol ac ymarferol y maes.
Gwael (D- i D+) Gwybodaeth am egwyddorion allweddol yn unig. Llawer o wallau a gwendidau o ran cyflwyniad a chywirdeb. Ychydig o ddealltwriaeth o'r manteision a'r anfanteision sy'n gysylltiedig ag ymchwil drawsddisgyblaethol. Ychydig o ddefnydd o dystiolaeth i gefnogi'r pwyntiau a wnaed. Sgiliau cyflwyno llafar gwael, gan ddangos ychydig o wybodaeth am brif elfennau'r maes pwnc. Cyflwynwyd rhai o brif bwyntiau'r papur, ond roedd llawer o wallau. Dangoswyd y gallu i ateb rhai cwestiynau. Cyflwynwyd dadleuon mewn aseiniadau ysgrifenedig, ond nid oeddent yn llifo, ac nid oedd unrhyw dystiolaeth o ddehongliad gwreiddiol na meddwl critigol. Ychydig iawn o ddefnydd o dystiolaeth i gefnogi'r pwyntiau a wnaed, ac ychydig o dystiolaeth o ddarllen ychwanegol. Cyflwynwyd cwestiynau ymchwil cymharol ddiddorol a pherthnasol, ond roedd diffyg dealltwriaeth gadarn o niwroestheteg. Dim gwerthusiad o gymwysiadau damcaniaethol ac ymarferol y maes.
Learning Outcomes
- Cyfleu pwyntiau allweddol papur ymchwil yn effeithiol.
- Cynnig cwestiynau ymchwil diddorol a pherthnasol
- Deall rhai o fanteision a heriau ymchwil trawsddisgyblaethol.
- Gwahaniaethu rhwng, a gwerthfawrogi, gwerth arwyddocâd clinigol ac ystadegol
- Gwerthuso'n feirniadol ymchwil gyfredol ym maes niwroestheteg.
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Cynnig Ymchwil. Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu cynnig ymchwil yn ymwneud ag un o'r pedwar prif bwnc dan sylw. Rhaid i'r cynnig dynnu ar y llenyddiaeth bresennol, a chynnwys goblygiadau damcaniaethol a/neu ymarferol cadarn.
Weighting
30%
Due date
12/01/2026
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Gwaith cartref. Bob wythnos, bydd gofyn i fyfyrwyr ddarllen papurau ymchwil a osodwyd cyn mynychu'r seminar. Ar ôl darllen y papurau, bydd gofyn i fyfyrwyr gwblhau taflen fer (gan nodi sylwadau penodol a/neu gwestiynau am y papurau ymchwil). Rhaid cyflwyno'r taflenni yma i drefnydd y modiwl yn ystod y seminarau wythnosol. Caiff yr asesiad hwn ei raddio ar sail eithriad. Mae hyn yn golygu, os byddwch yn cwblhau'r gwaith hwn, ni fydd eich gradd yn cael ei heffeithio. Fodd bynnag, os na fyddwch yn cwblhau'r gwaith hwn, bydd eich gradd yn gostwng.
Weighting
10%
Due date
05/12/2025
Assessment method
Individual Presentation
Assessment type
Crynodol
Description
Cyflwyniad Llafar. Gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno cyflwyniad llafar o bapur ymchwil a osodwyd o flaen grŵp o fyfyrwyr a threfnydd y modiwl. Hyd: Cyflwyniadau 8 munud gyda 2 funud o gwestiynau
Weighting
30%
Due date
08/12/2025
Assessment method
Coursework
Assessment type
Crynodol
Description
Dadansoddiad beirniadol (critical review). Bydd gofyn i fyfyrwyr ysgrifennu dadansoddiad beirniadol o bapur ymchwil a osodwyd. Ni ddylai'r papur hwn fod wedi'i drafod yn y dosbarth, ond dylai myfyrwyr ddefnyddio'r pwyntiau a drafodwyd yn y seminarau i hwyluso eu hysgrifennu.
Weighting
30%
Due date
10/11/2025