Neuadd John Phillips (dôl gorllewinol)
Mae'r safle hwn yn ardal laswelltog ar lethr graddol sy'n cynnwys cymysgedd amrywiol o rywogaethau o laswelltau a pherlysiau, gan gynnwys Cardamine pretensis (blodau llefrith), Veronica chamaedrys (llygaid doli), a Bellis perennis (llygaid y dydd). Mae’r amrywiaeth hwn o blanhigion yn creu cynefin pwysig i beillwyr a phryfed bach, ac mae hefyd yn darparu bwyd a deunydd nythu i adar.