Penodiadau Lleol i Fwrdd Seafish y DU
Mae dau o Ogledd Cymru sy’n gweithio mewn proffesiynau su’n ymwneud â’r môr wedi cael eu penodi i Fwrdd Awdurdod y Diwydiant Pysgod Môr (Seafish) gan y pedwar Gweinidog Pysgodfeydd y DU.
Bydd Yr Athro Mike Kaiser o Prifysgol Âé¶¹Íø yn aelod anweithredol o Seafish o 1 Ebrill 2012 tan 31 Mawrth 2015. Penodwyd ef yn gyntaf ac mae wedi gwasanaethu ar y Bwrdd ers 2008.
Dywedodd yr Athro Kaiser: 'Rwyf wrth fy modd o gael fy ail-benodi i Fwrdd Seafish gan fod gan y sefydliad rôl allweddol i'w chwarae yn nyfodol diogelwch bwyd ar gyfer y DU. Mae Seafish yn darparu cyswllt hanfodol rhwng diwydiant, gwyddoniaeth a pholisi; felly bydd yn fraint helpu i gyfeirio cylch gwaith Seafish.'
Bydd yr Athro Kaiser yn gwasanaethu ochr yn ochr ag is-gadeirydd newydd, Jane Ryder a chwe aelod anweithredol arall : Clare Dodgson, Peter Hajipieris, Philip Huggon, Michael Parc, Stephen Parry a James Wilson. Mae John Whitehead wedi cael ei ail-benodi Cadeirydd y Bwrdd Seafish.
Mae’r Athro Mike Kaiser hefyd wedi ei benodi fel aelod annibynnol o'r Cydbwyllgor Gwarchod Natur (JNCC), gan Richard Benyon, Gweinidog dros yr Amgylchedd Naturiol a Morol. Bydd y penodiad yn rhedeg o 1 Ebrill 2012 am dair blynedd.
Mae Mike Kaiser yn Athro Ecoleg Cadwraeth Forol yn Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Âé¶¹Íø. Mae hefyd yn cadeirio Fforwm Rhanddeiliaid Pysgodfeydd Morol Defra ac mae'n aelod panel o Weithgor Bwrdd Môr Sefydliad Gwyddor Ewropeaidd ar 'Ecosystemau Morol Gwerthfawrogi'.
Ar ôl ennill ei ddoethuriaeth ymunodd â CEFAS lle bu’n arwain tîm ymchwil yn astudio effeithiau gweithgareddau dynol (pysgota a dyframaeth) ar yr amgylchedd morol. Ymunodd â Phrifysgol Âé¶¹Íø fel darlithydd lle ymhelaethodd y meysydd hyn i gwmpasu canlyniadau cymdeithasol ac economaidd gwahanol ddulliau o reoli gweithgareddau pysgota. Mae wedi ennill Medal y Gymdeithas Pysgodfeydd Ynysoedd Prydain a dyfarnwyd Cadair Bersonol mewn Ecoleg Cadwraeth Forol iddo.
Yn ymuno ag ef ar Fwrdd Seafish, James Wilson sy’n ffermio cregyn gleision yr Afon Menai ac sydd wedi graddio o Brifysgol Âé¶¹Íø. Mae hefyd yn Gyfarwyddwr Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfa Afon Menai ac yn Gyfarwyddwr Cynhyrchwyr Cregyn Gleision Âé¶¹Íø Cyf (Âé¶¹Íø Mussel Producers Ltd) a Chadeirydd Pwyllgor Molysgiaid Cymdeithas Pysgod Cregyn Prydain Fawr.
Dywedodd James Wilson: "Rwy'n amlwg yn falch iawn mod innau hefyd wedi cael fy newis unwaith eto i eistedd ar y bwrdd. Mae’r blynyddoedd i ddod yn edrych fel rhai cyffrous o ran y ffordd yr ydym yn meddwl am ac yn defnyddio’n moroedd, dylai fod rôl ganolog i Seafish yn natblygiad y weledigaeth ac ymagwedd."
Mae James Wilson wedi bod yn rhan o'r datblygiad helaeth o bysgodfeydd gregyn gleision yng Nghymru a Gogledd Iwerddon yn ystod y degawd diwethaf. Mae’n wyddonydd morol o ran ei addysg, ac wedi gweithio yn y gorffennol i Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Pysgotwyr; yr asiantaeth wladwriaeth Wyddelig sy'n gyfrifol am bysgota a dyframaeth sef Bwrdd Iascaigh Mhara (BIM); y Ganolfan Economeg a Rheoli Adnoddau Dyframaethu (CEMARE) yn Ewrop; ochr yn ochr â DFO / FOC a Chenhedloedd Cyntaf ar arfordir Môr Tawel Canada. Ef oedd un o apwyntiadau Llywodraeth Cymru ar Bwyllgor Pysgodfeydd y Gogledd Orllewin a Gogledd Cymru Môr.
Dyddiad cyhoeddi: 19 Mawrth 2012