Newyddlenni
Bwrsariaethau cenedlaethol am dalent beirianyddol i fyfyrwyr Âé¶¹Íø
Mae Bwrsari Horizon yr Institution of Engineering and Technology Engineering Horizons Bursary yn cynnig cefnogaeth ariannol hirdymor i 75 o fyfyrwyr a phrentisiaid yn y DU
Mae Truly Capell o Folkstone yn un o dair o fyfyrwyr peirianeg electronig sydd wedi derbyn bwrsariaethau cenedlaethol.Mae tair myfyrwraig o Brifysgol Âé¶¹Íø wedi derbyn Bwrsari Peirianneg Gorwelion (Horizons Bursaries) gan yr Institution of Engineering and Technology (IET). Dyfernir y bwrsariaethau i fyfyrwyr sydd yn frwd dros beirianneg ac yn astudio cwrs gradd mewn peirianneg neu dechnoleg sydd wedi’i achredu gan yr IET.
Rhoddwyd 75 o fwrsariaethau i fyfyrwyr a phrentisiaid yn ail flwyddyn y cynllun. Mae’r cynllun yn gymorth i fyfyrwyr sy’n cychwyn ar brentisiaeth neu gwrs gradd, sydd hefyd efo cymhwyster fel BTEC, HND, Diploma i Addysg Uwch neu gymhwyster galwedigaethol, yn ogystal â rhai mewn amgylchiadau heriol. Mae’r nawdd o £1,000 am hyd ar bedwar blwyddyn a bydd deilyddion hefyd yn elwa o fentora a lleoliadau profiad gwaith drwy rwydweithiau helaeth yr IET.
Mae Truly Capell, Megan Owen ac Abigail Hughes oll yn astudio yn Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Âé¶¹Íø.
Mae Truly Capell yn ei hail flwyddyn yn astudio Control and Instrumentation Engineering, a daw o Folkestone, Swydd Gaint.
Bwriada Truly defnyddio ei bwrsari i deithio o amgylch i weld cymaint o enghreifftiau o’i phwnc gradd mewn gweithrediad ag sydd bosib a chanddi ddiddordeb penodol mewn gweld systemau rheolaeth CERN, yn y Swistir.
Meddai Truly:
“Rwy’n wir mwynhau astudio ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø. Mae’r darlithwyr yn gefnogol ac yn hwyluso, ac yn frwdfrydig dros yr hyn y maent yn ei ddysgu, sydd yn gymorth i chi aros yn frwd a chael y gorau o’ch astudio.â€
Daw Megan o Lanfechell, Ynys Môn i astudio Peirianneg Electronig
Daw Megan o Lanfechell, Ynys Môn i astudio Peirianneg Electronig ac meddai:
"Rwy’n credu y bydd y bwrsari o fudd ar gyfer prynu llyfrau ychwanegol sydd ei hangen yn ystod y tair blynedd nesaf ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, tra rwyf yn astudio ar gyfer cymhwyster MEng. Mae astudio ym Mangor wedi bod yn brofiad positif i mi, oherwydd agwedd bositif a sylwgar y darlithwyr, ac mae hyn wedi fy nghynorthwyo i wneud cynnydd tuag at statws MEng."
Mae Abigail Hughes, o Rhyl yn astudio Peirianneg Electronig (BEng).
Meddai: "Bydd y bwrsari o gymorth mawr yn ariannol pan ddaw at deithio ar draws y DU i weithgareddau rhwydweithio Peirianneg, sydd yn oll bwysig wrth gael at wybodaeth o bwys pan ddaw at geisio am interniaethau haf, cynlluniau ar gyfer graddedigion neu leoliadau gwaith. Bydd y Mae Abigail wir yn mwynhau ei chwrs peirianneg electronig ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.fwrsariaeth hefyd yn fy ngalluogi i fforddio’r holl werslyfrau cwrs, sydd eu hangen ar gyfer astudio personol ac adolygu ar gyfer arholiadau."
Ychwanegai: "Rwy’n wir mwynhau pob agwedd ar astudio peirianneg electronig ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, o’r darlithoedd diddorol at gynnal gwaith yn y labordy, fel adeiladu cylchedau, cynnal arbrofion microelectroneg a phrofi cylcheddau. Mae’n gwrs heriol iawn ond yn wobrwyol drwy ennill gwybodaeth hanfodol a fydd yn fy nhrawsnewid mewn i beiriannydd electronic y dyfodol.â€
Meddai Nick Winser, Llywydd yr IET: “Rydym yn falch i gael cefnogi prentisiaid a myfyrwyr talentog sydd wedi goresgyn anawsterau a heriau personol i ddilyn addysg mewn peirianneg am yr ail flwyddyn yn olynol.
“Rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn parhau i dyfu a byddwn yn adeiladu ar y nifer sydd yn ennill bwrsari, sydd yn frwd dros beirianneg, ac sydd yn awyddus i hybu peirianneg i eraill.â€
Mae’r buddsoddiad yn cael ei wneud ar y cyd gyda Sefydliad Exilarch, Ymddiriedoaleth Peirriannwyr / Engineers Trust (Worshipful Company of Engineers), The Manly Trust, Nigel a Ruth Fine, Mr & Mrs Tubbs, y Grid Cenedlaethol a Siemens
Mae cynllun Bwrsariaethau Peirianneg Horizons yr IET ar agor i fyfyrwyr yn y DU sydd yn gwneud cais i ymuno â neu sydd eisoes yn astudio cyrsiau gradd peirianneg a thechnoleg achredydol gan yr IET ( heblaw am fyfyrwyr blwyddyn olaf). Byd dy rhai dethol yn derbyn o leiaf £1,000 y flwyddyn yn ystod cyfnod astudio.
Dylai darpar fyfyrwyr wneud cais am Fwrsari Peirianneg Horizons ar lein yn fuan. Gweler:
Dyddiad cyhoeddi: 21 Chwefror 2018