Ehangwch eich sgiliau, archwiliwch bynciau newydd, neu cymrwch y cam nesaf yn eich gyrfa gyda chyrsiau byr a DPP Prifysgol 鶹. P’un a ydych yn edrych am gyrsiau byrion, cymhwyster proffesiynol, neu’r cam gyntaf tuag at radd, rydym yn cynnig ystod o gyfleoedd sydd wedi’u cynllunio i ffitio o amgylch eich ymrwymiadau chi.
Os ydych chi’n ddysgwr unigol neu’n fusnes sy’n awyddus i fuddsoddi mewn datblygiad staff, rydym yma i’ch helpu. Porwch ein cyrsiau heddiw neu gwnewch gais i gyfarfod aelod o’r tîm er mwyn trafod cyfleoedd hyfforddi pwrpasol.
• Hyblyg a Hygyrch – Astudiwch ar-lein neu ar y campws, gyda rhai cyrsiau wedi’u teilwra i’ch amserlen chi.
• Dysgwch gan Arbenigwyr – Dysgwch gan academyddion a gweithwyr proffesiynol y diwydiant.
• Cydnabyddedig ac Achrededig – Mae micro-gymwysterau a thystysgrifau DPP yn ffordd effeithiol o dystiolaethu eich dysgu.
• Ffocws ar Ddysgu Gydol Oes – Mae dysgu gydol oes, hygyrch yn ganolog i’n darpariaeth - o uwchsgilio yn y gweithle i ddatblygiad personol.
• Cyrsiau Byr a Micro-gymwysterau – Cymwysterau cydnabyddedig ar gyfer datblygiad proffesiynol a phersonol sy’n deillio o’n rhaglenni gradd.
• Hyfforddiant DPP – Ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n dymuno uwchsgilio, ailsgilio, neu ennill oriau a thystysgrifau DPP.
• Dosbarthiadau Nos, Cyrsiau Ar-lein ac Ysgolion Haf – Opsiynau hyblyg ac amrywiol.
• MOOCs – Cyrsiau ar-lein, am ddim i ehangu eich gwybodaeth.
• Hyfforddiant pwrpasol i Fusnesau – Rhaglenni wedi’u teilwra i helpu sefydliadau i ddatblygu arweinyddiaeth, mynd i’r afael â heriau sector, ac uwchsgilio’r gweithlu.
Croeso i Brifysgol 鶹, lle rydym yn rhagori mewn cyfleoedd dysgu gydol oes hyblyg.
0:00
Ydych chi'n barod i ddatblygu eich sgiliau,
0:08
i roi hwb i’ch gyrfa,
0:09
neu’n syml iawn, ydych chi’n awyddus i ddysgu rhywbeth newydd?
0:10
Mae ein Cyrsiau Byr a’n rhaglenni Datblygiad Proffesiynol
0:13
wedi eu dylunio i ffitio o’ch amgylch chi.
0:17
Gallwch ddysgu wrth eich pwysau ac ar eich telerau eich hun.
0:22
Mae dewis eang o bynciau ar gael ar-lein
0:23
neu yma ar ein campws ym Mangor.
0:27
Ymunwch â chymuned o ddysgwyr brwd
0:29
a manteisiwch ar ein tiwtoriaid rhagorol.
0:30
Ewch draw i’r wefan heddiw,
0:33
a daliwch ati i ddysgu efo Prifysgol 鶹.
0:35
Ein Cyrsiau
Microgymwysterau a chyrsiau byr gyda chredyd:
Iechyd Emosiynol, Iechyd Meddwl a Llesiant
Microgymhwyster: Arweiniaeth Gynaliadwy mewn Addysg 1: Gwneud y newid
Microgymhwyster: Arweiniaeth Gyanliadwy Mewn Addysg 2: Gweithredur Cynllun
Sgiliau Ymchwil ac Ymholi Uwch
Ymarfer ystafell ddosbarth cynhwysol
Ymarfer Cydweithredol a Phroffesiynol
Cyrsiau di-gredyd:
Egwyddorion a Methodoleg Addysgu Dysgwyr â Gwahaniaeth Dysgu Penodol (Dyslecsia)
Addysg Weithredol:
Mae Addysg Weithredol Ysgol Busnes 鶹 yn cynnig ystod o raglenni dysgu o bell arloesol. Mae'r holl fodiwlau ar y MBA Bancwr Siartredig a'r MBA Troseddau a Chydymffurfiaeth Ariannol ar gael i'w hastudio fel modiwl annibynnol.
Wedi'i anelu at weithwyr proffesiynol canol gyrfa sy'n gweithio yn y diwydiant gwasanaethau ariannol neu reoleiddio. Rhoddir ystyriaeth i unigolion sydd ag ychydig iawn o brofiad neu gymwysterau.
Modiwlau ôl-raddedig sy'n cynnwys credydau
Micro-gymwysterau:
Micro-gymwysterau:
Cyflymu Arbenigedd (MICRO-GYMHWYSTER)
DATBLYGU TALENT (MICRO-GYMHWYSTER)
Seicoleg Perfformiad Unigol (micro-gymhwyster)
Y Ddeuad Hyfforddi (micro-gymhwyster)
PERFFORMIO DAN BWYSAU (micro-gymhwyster)
HYFFORDDIANT SGILIAU SEICOLEGOL (MICRO-GYMHWYSTER)
Deall Personoliaeth (MICRO-GYMHWYSTER)
Seicoleg Perfformiad Tîm (MICRO-GYMHWYSTER)
Cyrsiau Di-gredyd
Micro-gymwysterau:
cyrsiau DPP ar gyfer gweithwyr Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Atal Heintiau 1 (cwrs micro-gymhwyster)
Atal Heintiau 2 (cwrs micro-gymhwyster)
Awdurdodiad Annibynnol ar gyfer Trallwyso Cydrannau Gwaed
ECWITI IECHYD A HAWLIAU DYNOL (Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant (ILA-4007))
NEWID YMDDYGIADOL IACH (Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant (ILA-4008))
IECHYD MEDDWL A LLES (ILA-4009)
Cyrsiau DPP Di-gredyd:
MOOC AR YR YMARFER A’R YMDDYGIADAU GORAU I ATATL HEINTIA
CWRS DPP ADDYSG GLINIGOL FFISIOTHERAPI
YSGRIFENNU ER MWYN CYHOEDDI' I YMARFERWYR IECHYD A GOFAL
HYFFORDDIANT HYRWYDDWR GWEITHLE EGNÏOL
Rhaglenni ol-radd:
cymhwyster ymarfer arbenigol nyrsio cymunedol (SPQ): Meddygaeth Teulu (pgdip)
cymhwyster ymarfer arbenigol nyrsio cymunedol (SPQ): Iechyd Meddwl (pgdip)
cymhwyster ymarfer arbenigol nyrsio cymunedol (SPQ): Anableddau Dysgu (pgdip)
Mae Ieithoedd i Bawb yn cynnig amrywiaeth o ddosbarthiadau gyda’r nos mewn tair iaith:
Mae’r cyrsiau iaith 10 wythnos hyn wedi’u cynllunio i weddu i amrywiaeth o lefelau – o ddechreuwyr llwyr i ddysgwyr sydd am adnewyddu sgiliau iaith sydd wedi darfod neu barhau o astudiaethau TGAU/UG.
Mae dysgu iaith yn weithgaredd pleserus a heriol, ac yn eich annog i ehangu eich gorwelion, agor drysau i ddiwylliannau eraill ac ehangu eich cylch cymdeithasol.
Mae’r dosbarthiadau wedi’u cynllunio i weddu i amrywiaeth o lefelau – o ddechreuwyr llwyr (A1) i ddysgwyr uwch (B1) sy’n dymuno datblygu eu sgiliau iaith. Gallwch ddarganfod mwy am y lefelau gwahanol yma.
Bydd y modiwlau ar gael ar sail archwilio yn unig – hynny yw, ni fydd unrhyw asesiad ffurfiol o’r modiwl ac ni fydd unrhyw gredydau’n cael eu dyfarnu ar ôl cwblhau’r modiwl.
Cynhelir cyrsiau yn amodol ar niferoedd lleiaf. Mae rhai cyrsiau’n boblogaidd iawn – os bydd cyrsiau’n orlawn, bydd cofrestru’n cael ei weithredu ar sail y cyntaf i’r felin. Yr oedran lleiaf yw 18.
Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin – Cyrsiau i Bob Lefel
P’un a ydych chi’n ddechreuwr neu’n awyddus i ddatblygu eich sgiliau Cymraeg ymhellach, mae Prifysgol 鶹 yn cynnig rhaglen strwythuredig ac effeithiol i gefnogi oedolion sy’n dysgu Cymraeg.
- Mynediad – Yn cyflwyno geirfa, patrymau iaith sylfaenol ac ymadroddion pob dydd, gyda phwyslais ar siarad yr iaith.
- Lefelau Eraill – Mae cyrsiau lefelau eraill yn cynnwys cyrsiau Mynediad Lefel 2, Sylfaen, Canolradd, ac Lefel Uwch 1, 2 a 3. Rydym hefyd yn cynnig cyrsiau gloywi sydd wedi’u teilwra ar gyfer siaradwyr Cymraeg newydd sydd wedi cwblhau lefel Uwch. Nod cyffredinol y cyrsiau ydy datblygu sgiliau siaradwyr i ddefnyddio’r Gymraeg yn hyderus.
Cynhelir cyrsiau mewn cymunedau ar draws Gwynedd, Môn a Chonwy, yn ogystal ag ar-lein ar wahanol adegau i gyd-fynd â’ch anghenion.
I gofrestru ewch i a dilyn dolen 'dod o hyd i gwrs'.
Cysylltwch am wybodaeth bellach: 01248 383928 / dysgucymraeg@bangor.ac.uk
Rhaglenni Ôl-raddedig
MA addysgu cyrsiau sy'n seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar
MA dulliau seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar
MSc Cwnsela
MSc Niwro-ddelweddu
PGDip Cwnsela Plant a Phobl Ifanc (4-18 oed)
Micro-gymwysterau:
Cyflwyniad i Ddadansoddi Niwroddelweddu
Deall Personoliaeth (MICRO-GYMHWYSTER)
HYFFORDDIANT SGILIAU SEICOLEGOL (MICRO-GYMHWYSTER)
Seicoleg Perfformiad Unigol (micro-gymhwyster)
PERFFORMIO DAN BWYSAU (micro-gymhwyster)
Seicoleg Perfformiad Tîm (MICRO-GYMHWYSTER)
Y Ddeuad Hyfforddi (micro-gymhwyster)
Cyrsiau Datblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
Asesiad Cymhwysedd: Hwyluso Ymwybyddiaeth Ofalgar
CWRS NIWROANATOMI SWYDDOGAETHOL: VISCERAL MIND (YSGOL HAF)
Darganfod y meddwl dynol: Cyfres Gweminarau
Egwyddorion a Methodoleg Addysgu Dysgwyr â Gwahaniaeth Dysgu Penodol (Dyslecsia)
Rhaglenni Ôl-radd:
ma MEWN ADDYSG I’R PROFFESIYNAU MEDDYGOL AC IECHYD
PGCERT MEWN ADDYSG I’R PROFFESIYNAU MEDDYGOL AC IECHYD
Addysg i’r Proffesiynau Meddygol ac Iechyd PGDip
Micro-gymwysterau:
ASESU MEWN ADDYSG I’R PROFFESIYNAU MEDDYGOL AC IECHYD
CWRICWLWM MEWN ADDYSG I’R PROFFESIYNAU MEDDYGOL AC IECHYD
DULLIAU CYFOES AT ADDYSG I’R PROFFESIYNAU MEDDYGOL AC IECHYD
Ffarmacogenomeg a Gofal Iechyd Haenedig
Cyrsiau DPP:
Rhaglen Seminarau Ymchwil Ysgol Feddygol Gogledd Cymru
Cyrsiau Di-gredyd
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw gyrsiau yn rhedeg yn y pwnc.