Newyddlenni
Cymru'n arwain y ffordd ym maes gwyddoniaeth goleuni
Cafodd project cyffrous newydd i Gymru gyfan ei lansio yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd yn ddiweddar. Mae’r project, CAMPUS (CApability Matrix for Photonics Up Skilling neu Matrics Galluoedd Gwella Sgiliau Ffotoneg), dan arweiniad Ysgol Peirianneg Electronig Prifysgol Âé¶¹Íø, yn canolbwyntio ar gydweithio efo cwmnïau o Gymru. Nod y project yw sicrhau bod ymchwil arbenigol ac offer datblygol, cyfleusterau a staff ar gael yn arbennig i gwmnïau ffotoneg yng Nghymru er mwyn sefydlu Cymru fel arweinydd yn y maes.
Fel yr esboniodd yr Athro Alan Shore, sy’n arwain y project o y Brifysgol:
Ystafell Lân yn yr Ysgol Peirianneg Electronig“Ffotoneg yw gwyddoniaeth trin golau. Mae’r diwydiant wedi bod yn amlwg yng Nghymru o’r dechrau. Amcangyfrifwyd mewn adroddiad diweddar gan y Comisiwn Ewropeaidd fod gwerth y farchnad Ewropeaidd ar gyfer Ffotoneg tua £58.5 biliwn, sef 21% o farchnad y byd. Yn fyd-eang, mae'r diwydiant yn gyfrifol am werthiannau o tua £3 triliwn a 30 miliwn o swyddi. Mae gan Gymru’n 6% o ran o'r farchnad hynod bwysig hon. Mae ffotoneg yn berthnasol i bob sector o'r farchnad, o gynhyrchu sgriniau teledu a chwaraewyr ‘blue ray’ neu dvd i oleuo cartrefi a’r electroneg mewn ceir, yn ogystal â maes meddygaeth, lle mae laserau’n cael eu defnyddio i drin pob math o anhwylderau, a dyfeisiau delweddu’n cael eu defnyddio ar gyfer diagnosteg. Mae’n anodd credu bod tua un rhan o dair o gost car yn deillio o’r elfennau ffotoneg sydd ynddo; o’r goleuadau ‘led’ at sgriniau arddangos ac yn y blaen... Mae'r diwydiant yn arbennig o bwysig wrth i ddefnyddio llai o drydan i gael dyfodol mwy cynaliadwy gael sylw cynyddol. Gall gynnig electroneg a goleuo sydd yn defnyddio llai o ynni, a gall hyn fod o bwys strategol.â€
Blwch Menig Nitrogen: Llun gan Glyn DaviesMae'r project CAMPUS wedi agor drysau sefydliadau Addysg Uwch Cymru i gwmnïau o Gymru, gan ddarparu offer arbenigol i’w defnyddio ar draws Cymru. Mae'r math o offer sydd bellach ar gael mor arbenigol fel y byddai’n rhaid i’r cwmnïau fuddsoddi'n drwm er mwyn prynu dim ond un darn o’r offer. Bellach, trwy Brifysgol Âé¶¹Íø a'i phartneriaid, mae’n bosibl i gwmnïau ar draws Cymru ddefnyddio’r offer.
Mae cynllun o’r arbenigedd sydd ar gael i’w weld ar wefan Âé¶¹Íø bangor.ac.uk / ee o dan yr adran fusnes. Dylai unrhyw gwmni sy'n dymuno cymryd rhan gysylltu â'r Athro Alan Shore yn Ysgol Peirianneg Electronig y Brifysgol ar 01248 382618, e-bost k.a.shore@bangor.ac.uk.
Dyddiad cyhoeddi: 24 Awst 2012