DDARLITHYDD MEWN GWYDDORAU CHWARAEON AC YMARFER YM MHRIFYSGOL BANGOR A FFISIOTHERAPYDD
Seren Evans
A allwch ddisgrifio eich swydd bresennol a sut y cawsoch y swydd ar ôl graddio?
Ar hyn o bryd, rwy'n ddarlithydd Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, ac rwyf hefyd yn ymchwilydd ôl-ddoethurol i World Rugby. Rwyf hefyd yn gweithio'n glinigol ar hyn o bryd fel ffisiotherapydd, ac yn brif swyddog meddygol i dimau merched a genethod Rygbi Gogledd Cymru ac Undeb Rygbi Cymru dan 18 oed. Ar ôl graddio, cefais fy ngwrthod gan nifer o brifysgolion i astudio ffisiotherapi, ond daeth cyfle i wneud doethuriaeth cyfrwng Cymraeg gydag ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg; project ymchwil rygbi oedd hwn, ac ar ôl dod yn rhan o’r tîm yn Rygbi Gogledd Cymru fel therapydd tylino chwaraeon gwirfoddol yn ystod fy ngradd israddedig, roedd fy nghais yn llwyddiannus. Yn dilyn fy noethuriaeth, roeddwn yn dal eisiau bod yn ffisiotherapydd a gwneud defnydd llawn o’r ymchwil roeddwn wedi ei wneud - felly es ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Wrecsam tra'n gweithio fel darlithydd ym Mangor. Ar ôl graddio, rydych yn annhebygol iawn o gael swydd ym maes chwaraeon fel ffisiotherapydd yn syth bin, ond roedd fy nghefndir ymchwil mewn chwaraeon a’r profiadau a gefais ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø yn amhrisiadwy i gael swydd ffisiotherapydd gydag Undeb Rygbi Cymru.
Sut gwnaeth eich gradd gyfrannu at ddatblygiad eich gyrfa?
Roedd fy ngradd yn rhan enfawr o lunio fy ngyrfa, nid yn unig o ran gwybodaeth academaidd ond hefyd trwy’r profiadau ymarferol a’r cyfleoedd rhwydweithio a ddarparwyd gan y radd. Trwy gydol fy astudiaethau israddedig, bûm yn ymwneud yn helaeth â lleoliadau cymhwysol, gan weithio gyda Rygbi Gogledd Cymru fel therapydd tylino chwaraeon gwirfoddol. Rhoddodd y profiad ymarferol hwn ddealltwriaeth wych i mi o ofynion gweithio ym maes chwaraeon elît a helpodd fi i feithrin cysylltiadau a ddaeth yn hanfodol i ddilyniant fy ngyrfa yn ddiweddarach. Yn ogystal, gwnaeth fy ymchwil doethurol mewn gwyddor rygbi ganiatáu i mi ddatblygu dealltwriaeth drylwyr o ddulliau atal anafiadau, adsefydlu a pherfformiad athletwyr - gwybodaeth sydd wedi bod yn hanfodol yn fy ngwaith fel ffisiotherapydd ac ymchwilydd.
Beth oedd yr her fwyaf y gwnaethoch ei hwynebu wrth ddechrau eich gyrfa, a sut wnaethoch ei goresgyn?
Yr her fwyaf a wynebais i ddechrau oedd cael fy ngwrthod gan brifysgolion lluosog i astudio ffisiotherapi. Roedd yn siom fawr, ond yn hytrach na chymryd nad oedd modd i mi symud ymlaen, es i lawr llwybr amgen a gwneud doethuriaeth cyfrwng Cymraeg trwy’r Coleg Cymraeg. Dyma un o'r penderfyniadau gorau i mi ei wneud, gan ei fod wedi caniatáu i mi ennill arbenigedd ymchwil ac aros yn rhan annatod o amgylchedd rygbi perfformiad uchel. Hyd yn oed ar ôl fy noethuriaeth, roedd gen i'r her o gymhwyso fel ffisiotherapydd, ac es i'r afael â hyn trwy astudio ym Mhrifysgol Wrecsam tra'n gweithio fel darlithydd ym Mangor. Roedd goresgyn y rhwystrau hyn yn gofyn am ddyfalbarhad, hyblygrwydd, a pharodrwydd i fanteisio ar gyfleoedd newydd y tu hwnt i’r llwybr traddodiadol. Mae cael eich gwrthod yn gyfle i newid cyfeiriad.
A oes unrhyw sgiliau penodol o'ch cwrs yr ydych yn eu defnyddio'n rheolaidd yn eich swydd?
Pan ofynnir y cwestiwn hwn fel arfer, rydym yn meddwl am y wybodaeth a’r arbenigedd a enillwyd wrth astudio, ond y sgiliau mwyaf defnyddiol a enillais yn ystod fy mlynyddoedd o astudio ym Mangor yw meddwl yn feirniadol a datrys problemau ac mae’r ddau ohonynt yn hanfodol yn fy ngwaith ymchwil a chlinigol. Mae gallu asesu a dehongli data, boed o adroddiadau am anafiadau neu fetrigau perfformiad, yn fy helpu i wneud penderfyniadau gwybodus am ofal athletwyr a strategaethau adsefydlu. Mae cyfathrebu yn sgil pwysig arall - boed i esbonio cysyniadau anafiadau cymhleth i athletwyr a hyfforddwyr, darlithio i fyfyrwyr, neu gydweithio â chydweithwyr mewn timau rhyngddisgyblaethol. Yn ogystal, rhoddodd y profiadau ymarferol yn ystod fy astudiaethau sylfaen gadarn i mi i weithio gydag athletwyr, rheoli anafiadau a chymhwyso ymarfer sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn y byd go iawn.
Pa mor bwysig fu rhwydweithio yn nilyniant eich gyrfa?
Yn syml, heb y cyfleoedd rhwydweithio a gefais, ni fyddwn yn gwneud yr hyn rwy’n ei wneud heddiw. Agorodd fy ngwaith gwirfoddol cychwynnol gyda Rygbi Gogledd Cymru ddrysau a arweiniodd yn y pen draw at fy noethuriaeth ac ers hynny, mae pob cyfle wedi adeiladu ar y cyfle blaenorol. Mae meithrin cysylltiadau yn y gymuned rygbi a gwyddor chwaraeon wedi fy helpu i gael swyddi gydag Undeb Rygbi Cymru a World Rugby, yn ogystal ag yn y byd academaidd. Y tu hwnt i gwrdd â phobl, cynnal perthynas â phobl a phrofi eich gwerth yn yr amgylcheddau hynny yw'r hyn sy'n help i symud ymlaen yn eich gyrfa. Mae’r diwydiant chwaraeon yn fach, a gall meddu ar enw da a rhwydwaith wneud y gwahaniaeth rhwng sicrhau cyfle a cholli allan.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i raddedigion diweddar sy'n ymuno â'r farchnad swyddi?
Byddwch yn rhagweithiol a manteisiwch ar bob cyfle a ddaw - boed hynny'n wirfoddoli, interniaethau neu leoliadau. Y gwir amdani yw y gall dod o hyd i waith ym maes chwaraeon elît fod yn gystadleuol, a bydd cael profiad ymarferol yn eich gosod ar wahân i eraill, ac er efallai nad yw gwirfoddoli'n ymddangos yn ddelfrydol, os byddwch yn ymrwymo eich hun bydd yn talu ar ei ganfed yn y diwedd. Hefyd, peidiwch â bod ofn cymryd llwybr anghonfensiynol; weithiau, daw'r cyfleoedd gorau o fod yn agored i lwybrau gwahanol. Parhewch i ddysgu, byddwch yn hyblyg, a cheisiwch feithrin cysylltiadau yn y diwydiant - bydd y cysylltiadau hynny'n amhrisiadwy yn y tymor hir.
A oes unrhyw gymwysterau proffesiynol neu dystysgrifau y byddech yn argymell i rywun eu cael?
Os ydych eisiau gweithio fel ffisiotherapydd chwaraeon, yn amlwg mae'n hanfodol cofrestru gyda’r HCPC a’r PDC. I'r rhai mewn gwyddor chwaraeon, mae achrediad BASES yn uchel ei barch. Mae cymwysterau ychwanegol fel tylino chwaraeon, tapio a strapio, neu reoli trawma brys (e.e. RFU neu WRU Inmediate Care in Sport) yn hynod werthfawr mewn swyddi ochr cae. Os yw ymchwil o ddiddordeb i chi, gall datblygu sgiliau dadansoddi data, biomecaneg, neu gryfder a chyflyru agor drysau i gyfleoedd rhyngddisgyblaethol.
Ble mae’r cyfleoedd gyrfa mwyaf ym maes chwaraeon ac ymarfer ar hyn o bryd?
Mae galw cynyddol am arbenigedd mewn atal anafiadau, adsefydlu ac optimeiddio perfformiad, yn enwedig ym maes iechyd merched, yn enwedig gyda datblygiadau mewn technoleg chwaraeon a dadansoddeg data. Mae monitro athletwyr, olrhain GPS a phrotocolau dychwelyd i chwarae yn dod yn fwy soffistigedig, gan greu cyfleoedd i'r rhai sydd â sgiliau dadansoddi a chymhwyso cryf. Mae chwaraeon merched hefyd yn ehangu'n gyflym, sy'n golygu mwy o swyddi ym maes cryfder a chyflyru, ffisiotherapi a dadansoddi perfformiad. Yn ogystal, mae integreiddio gwyddor chwaraeon i leoliadau iechyd ehangach - megis presgripsiwn ymarfer corff i boblogaethau clinigol - yn cynnig llwybrau gyrfa cyffrous y tu hwnt i chwaraeon elît traddodiadol.