Fy ngwlad:

Casgliadau Arbennig Printiedig

Mae’r term Casgliadau Arbennig yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio casgliadau di-brint a phrintiedig sydd yn meddu ar nodweddion sy’n eu gwneud yn wahanol i fathau eraill o gasgliadau.

Enghraifft o gasgliad arbennig printiedig yw Casgliad Owen Pritchard. Dyma gasgliad a grewyd gan Dr Owen Pritchard rhwng 1884 a 1920 ac a gyflwynwyd yn rhodd i’r Brifysgol yn 1920. Mae’r casgliad yn cynnwys nifer o eitemau a gynhyrchwyd gan y gweisg preifat yn ystod diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a chychwyn yr ugeinfed ganrif.

Cliciwch ar y casgliadau a enwir isod am ragor o wybodaeth :

CASGLIAD ARTHURAIDD, GAN GYNNWYS CASGLIAD ARTHURAIDD SIR FFLINT, HARRIES

Mae enw da Prifysgol 鶹 yn y maes astudiaethau Arthuraidd yn cael ei gydnabod ar lefel rhyngwladol. Mae wedi datblygu dros yr hanner can mlynedd diwethaf trwy waith ysgolheigion Arthuraidd blaenllaw megis Yr Athro P.J.C. Field, a Dr Raluca Radulescu. Prifysgol 鶹 yw’r unig sefydliad yn y byd sydd yn cynnig MA mewn Astudiaethau Llenyddiaeth Arthuraidd, ac felly yn denu myfyrwyr o wledydd a chyfandiroedd eang - Brazil, Siapan, UDA ac Ewrop.

Yn ddiweddar, rhoddwyd casgliad Arthuraidd Llyfrgelloedd Sir y Fflint i Lyfrgell Prifysgol 鶹.  Mae’r casgliad bellach o dan ofal, cadwraeth a rheolaeth y Gwasanaeth Llyfrgell ac Archifau ond fe’i cyflwynwyd yn wreiddiol i Lyfrgelloedd Sir Fflint ym 1952 gan E. R. Harries, cyn Lyfrgellydd y Sir. Ychwanegwyd at y casgliad gan Wasanaethau Llyfrgell Sir y Fflint a Chlwyd. Heddiw, mae’n cynnwys dros 2,000 o eitemau o ddiddordeb i ymchwilwyr yn ogystal â darllenwyr cyffredin.  Mae’r casgliad yn ehangu casgliad presennol 鶹, ac yn ychwanegu at ein casgliad o lyfrau prin.  Bydd yr ysgolheigion a oedd gynt yn gorfod teithio i’r Wyddgrug yn ogystal â 鶹, nawr yn manteisio ar y cyfle o allu ymgynghori â’r holl adnoddau mewn un lleoliad.

Os hoffech weld y casgliad cysylltwch â: s.a.robinson@bangor.ac.uk Ffon: 01248 383276

CASGLIAD BRANGWYN

Mae casgliad Brangwyn yn cynnwys tua 250 o lyfrau a 200 o brintiadau. Mae’n cynnwys llyfrau personol Frank Brangwyn, yr arlunydd, ynghyd â phortffolio o’i weithiau, ac maent yn adlewyrchu ei ddiddordebau a’r dylanwadau arno. Mae hefyd nifer o brintiadau o weithiau arlunwyr eraill. Mae nifer fawr o’r llyfrau wedi cael eu cyflwyno i Brangwyn ac wedi cael eu llofnodi gan yr awduron. Mae hefyd bedwar gwaith gan William Brangwyn (tad Frank Brangwyn) a oedd yn ddylunydd dodrefn eglwysig. Mae’r casgliad yn rhoi golwg inni ar y byd celf yn nechrau’r ugeinfed ganrif.  

One of Frank Brangwyn's artistic works depicting men at work in a sawmill

 

CASGLIAD Y GADEIRLAN

Mae yn y casgliad dros 4,500 o lyfrau diwinyddol neu grefyddol sy’n cael eu cadw ar ran Cadeirlan 鶹, a llwyddwyd i’w derbyn er gwaethaf y ffaith ein bod yn cystadlu gyda Phrifysgolion eraill yng Nghymru. Prif nodwedd Llyfrgell y Gadeirlan yw cyfoeth y llyfrau printiedig cynnar sy’n nodedig oherwydd eu nifer. Argraffwyd 1,100 o’r llyfrau cyn 1700, ac maent yn cynnwys pedwar Incunabula, dau ddeg tri o lyfrau Llythyren Ddu, a samplau o’r gweisg cynnar enwog ar y Cyfandir.

 

 

CERDDI BANGOR

An unique collection of over two thousand eighteenth and nineteenth century Welsh ballads. A number of these ballads originated from the collection of Myrddin Fardd. The “cerdd” in Wales carried out the function of the modern newspaper for a whole century. As such, it is an invaluable tool for researchers looking into the social history of the time.

For further details consult, J.H. Davies, A Bibliography of Welsh Ballads, 1911

Due to the fragile condition of this collection, Cerddi 鶹 are available for consultation on microfilm only.

Page from Cerddi 鶹 featuring a poem about Gelert
CLIMBERS' CLUB

Sefydlwyd y clwb cenedlaethol yma yn 1898 a’i amcanion yw i annog mynydda a dringo, ac i hyrwyddo diddordebau cyffredinol mynyddwyr a’r awyrgylch fynyddol.
Mae  llyfrgell y Climbers’ Club yn gasgliad o lyfrau sy’n ymwneud â dringo a mynydda a gasglwyd rhwng y 1930au a’r 1950au gan aelodau’r clwb ac, yn wreiddiol, roedd ym meddiant yr Alpine Club.
Chwalwyd y casgliad yn y 1960au ond gwnaethpwyd penderfyniad i’w ail-adeiladu yn y 1970au drwy gasglu llyfrau o amryw leoliadau ar draws y wlad.
Cartrefwyd y casgliad newydd yng Nghanolfan Fynydd Genedlaethol Plas y Brenin yng Nghapel Curig, ond oherwydd rhesymau diogelwch a storio fe’i trosglwyddwyd i ofal Prifysgol 鶹 yn 2012.

CASGLIAD GREGYNOG

Rydym wedi bod yn casglu llyfrau gan Wasg Gregynog ers nifer o flynyddoedd. Sefydlwyd Gwasg Gregynog yn 1922, a hi yw’r unig wasg sydd wedi goroesi o “Oes Aur” mudiad y Wasg Breifat Brydeinig. Rydym yn parhau i’w casglu heddiw. Mae gennym yn y Llyfrgell Gymraeg gopi o’u cyhoeddiad Cymraeg cyntaf, sef “Cerddi Ceiriog”, 1925. Mae gennym hefyd gopi o “Penillion Omar Khayyam”, 1928, cyfieithiad Syr John Morris Jones a fu’n Athro Cymraeg yma ym Mangor.

Photo of pages from a Gregynog press book called 'Caneuon Ceiriog'
BONEDDIGES HERBERT LEWIS

Mae’r Foneddiges Ruth Herbert Lewis yn adnabyddus am ei gwaith arloesol yn casglu a chyhoeddi caneuon gwerin Cymreig ac fel aelod blanllaw o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru. Gwasanaethodd fel Ysgrifenyddes o’r Gymdeithas honno rhwng 1914 a 1924 ac fel Cadeirydd rhwng 1927 a 1930 cyn dod yn Lywydd yn 1930 hyd ei marwolaeth yn 1946.

Dyma ei chasgliad personol o lyfrau sy’n cynnwys 182 o eitemau am alawon gwerin a llen gwerin o gychwyn y bedwaredd ganrif ar bymetheg hyd yr ugeinfed ganrif.

Rhoddwyd y casgliad i’r Llyfrgell gan Ruth Facer, wyres y Foneddiges Herbert, yn 2005.

CASGLIAD OWEN PRITCHARD

Ffurfiwyd y casgliad gan Dr Owen Pritchard rhwng 1884 a 1920, ac fe’i cyflwynwyd ganddo i’r coleg yn 1920. Mae Casgliad yn cynnwys llawer o weithiau a argraffwyd gan weisg preifat yn niwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ac yn gynnar yn yr ugeinfed ganrif. Yn y casgliad trawiadol hwn mae llyfrau a argraffwyd i William Morris, gan gynnwys ysgrifeniadau, darlithoedd ar wleidyddiaeth, ac ailargraffiadau o bapurau’n ymwneud â’r mudiad Celf a Chrefft. Y gyfrol “Love is Enough, or the Freeing of Pharamond”, a gyhoeddwyd gan Ellis a White in 1873, yw’r argraffiad cyntaf yn Lloegr o’r ddrama foes a gyhoeddwyd i Morris yn 1872 gan Roberts o Boston.

PINNACLE CLUB

Clwb Prydeinig o ddringwyr benywaidd yw’r Pinnacle Club a’i amcanion yw annog datblygiad dringo a mynydda ymhlith merched, a dod a phawb sydd â diddordeb yn y gweithgareddau hyn at ei gilydd. Er mwyn hybu ymdrechion y clwb, crewyd llyfrgell fechan, i’w defnyddio gan yr aelodau.
Mae oddeutu 350 o lyfrau i’w canfod yn y casgliad ac amryw gylchgronnau ar bynciau yn ymwneud â dringo a mynydda ynghyd â hanes dringwyr benywaidd sy’n dyddio’n ôl i’r 1920au.
Oherwydd lleoliad anaddas y llyfrgell yn y gorffennol, fe’i trosglwyddwyd i ofal Prifysgol 鶹 yn ystod Haf 2013.

 

BEIBLAU CYMRAEG

Mae gan y Llyfrgell gasgliad o Feiblau sy’n cynnwys copïau o’r holl Feiblau a ysgrifennwyd yn Gymraeg. Mae’r deunyddiau nodedig canlynol yn y casgliad:   
     
Y Beibl Cyssegr-lan, sef Yr Hen Destament, a’r Newydd. Copi o’r cyfieithiad llawn  cyntaf o’r Beibl i’r Gymraeg gan yr Esgob William Morgan. Y cyfieithiad hwn a osododd y safon i Gymraeg ysgrifenedig.

Testament Newydd ein arglwydd Jesu Christ. Yn 1563, cyfarwyddwyd y pedwar Esgob Cymreig ynghyd ag Esgob Henffordd i gyfieithu’r Beibl i’r Gymraeg erbyn 1566 – gorchwyl amhosibl. Serch hynny, erbyn 1567 roedd William Salesbury, gydag Esgob Richard Davies o Dyddewi, a Thomas Huet, codwr canu Tyddewi, wedi cyhoeddi cyfieithiad o’r Testament Newydd.

Llyfr y Psalmau Edmund Prys 1544-1623. Roedd Edmund Prys wedi ei drwytho yn y traddodiad barddol Cymraeg, a phan oedd yn Archddiacon Meirionnydd, cyfieithodd y Salmau i Gymraeg syml a rhythmig. O ganlyniad gallai eglwyswyr fod yn rhan o’r gwasanaeth unwaith eto. Hyd yn oed heddiw, mae salm o’i waith yn llyfr salmau pob enwad. 

Photo of the pages of a very early Welsh bible
CASGLIAD LLENYDDOL CYMRAEG PLANT

Casgliad hanesyddol o lenyddiaeth plant ynghyd â deunydd Cymraeg a ysgrifenwyd ar gyfer plant – ffeithiol, llyfrau lluniau, barddoniaeth, dramáu, llyfrau ffeithiol, gwerslyfrau, cyfresi darllen, hwiangerddi a chylchgronnau.

Daeth y casgliad i feddiant Prifysgol 鶹 drwy rodd oddi wrth:

Cyngor Llyfrau Cymru
Casgliad Castell Brychan
David Greenslade Caerdydd
Coleg Santes Fair, 鶹
Coleg Normal

Arianwyd peth o’r gwaith catalogio gan gronfa ymddiriedaeth Eira Mary Davies.

Mae’r casgliad yn cynnwys oddeutu 11,100 o eitemau.

PAPURAU NEWYDD CYMRAEG

Mae papurau newydd yn ffynhonnell amhrisiadwy, ac fe’i defnyddir yn helaeth gyda phob math o ymchwil, boed academaidd neu arall, i bynciau megis hanes lleol a theuluol, hanes cymdeithasol, hysbysebu a chwaraeon. Y casgliad sydd yn y Llyfrgell Gymraeg ym Mangor yw’r un mwyaf cynhwysfawr yng Nghymru.

Mae’r manylion llawn am yr holl bapurau a gyhoeddwyd yng Nghymru neu sydd â chysylltiadau Cymreig yn  '. Mae’r rhestr hon, sydd yn nhrefn yr wyddor, o ddaliadau 鶹 yn cynnwys:

  • Teitl llawn gan gynnwys amrywiadau
  • Dyddiad cyhoeddi
  • Man cyhoeddi  
  • Nodiadau cefndirol
  • Cysylltiadau i’r cofnodion catalog o ddaliadau ym Mangor

A B C D DD E F FF G NG H I J L LL M N O P PH R RH S T TH U W Y

Chwilio Catalog y Llyfrgell am Lyfrau Prin a Chasgliadau Arbennig Printiedig

Fideo: Fideo Catalog Archives

Dyma fideo byr ar sut i chwilio catalog ar-lein y llyfrgell er mwyn darganfod llyfrau prin ac eitemau o’n casgliadau arbennig printiedig.

Y ffordd symlaf o chwilio'r catalog yw teipio term chwilio yn y blwch chwilio. Fe welwch, wrth i chi deipio, fod opsiynau cwmpasau chwilio yn ymddangos o dan y blwch chwilio. Mae’r cwmpasau chwilio yn pennu pa ddeunyddiau fydd yn ymddangos yn eich canlyniadau, felly gan ein bod yn chwilio am eitemau printiedig o fewn casgliadau Prifysgol 鶹, dylech ddewis y cwmpawd chwilio Chwiliad 鶹.

Unwaith y byddwch wedi teipio eich termau chwilio a dewis cwmpawd chwilio Chwiliad 鶹, bydd y catalog yn chwilio am eitemau sy'n cyd-fynd â'ch termau ac allweddeiriau. Yma gallwn weld bod y catalog wedi dychwelyd 24 eitem.

Gallwch hidlo'ch canlyniadau, i gynnwys eitemau o'n casgliadau arbennig printiedig yn unig, trwy ddewis Archifau, o dan yr opsiynau Llyfrgell ar ochr dde'r sgrin.

Efallai y gwelwch fod y catalog yn cynnig dolen ‘sawl lleoliad’, os byddwch yn clicio ar y ddolen efallai y gwelwch fod copi ar gael i’w fenthyg yn y llyfrgell a fyddai efallai yn fwy cyfleus i chi ei ddefnyddio. Gwelwn yma fod un copi ar gael yn yr Archifau fel llyfr prin, ond bod copi arall ar gael yn y Llyfrgell Gymraeg a gellir ei fenthyg. Os oes gennych gerdyn benthyg, gallwg bigo i’r llyfrgell i fenthyg y llyfr el y dymunwch yn hytrach a gorfod trefnu amser penodol i’w weld yn yr archifdy gyda copi prin.

Mae yna ffilterau eraill y gallwch eu defnyddio. Os ydych yn cael gormod o ganlyniadau, er enghraifft, gallwch osod ystod dyddiad trwy deipio eich dyddiadau o dan yr hidlydd ‘Dyddiad Creu’, ac yna clicio Mireinio.

Os nad ydych yn cael digon o ganlyniadau, ceisiwch newid eich termau chwilio.  Efallai rhowch gynnig ar y sillafiadau Cymraeg a Seisnigedig. Er enghraifft, mae chwilio am Gastell Carnarvon yn dod â chanlyniadau chwilio gwahanol i fyny (227 yma) i'r rhai a ymddengys os chwiliwch am Castell Caernarfon gyda’r sillafiad cywir Cymreig (105 o ganlyniadau yma).

Bydd clicio ar deitl eitem yn y catalog yn rhoi mwy o fanylion i chi am y llyfr hwnnw megis manylion y cyhoeddiad a’r nodweddion ffisegol, nifer y tudalennau, maint yr eitem ac ati.

Unwaith y byddwch wedi dod o hyd i’r eitem yr hoffech ei weld, gwnewch nodyn o’r awdur, teitl a dyddiad cyhoeddi, os yw ar gael, a hefyd y rhif yr galwad. E-bostiwch y rhain i archifau@bangor.ac.uk gyda’r dyddiad yr hoffech ddod i weld yr eitem, a bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi yn fuan i gadarnhau.

Gobeithio bod y fideo hwn wedi bod yn ddefnyddiol i chi, os oes gennych unrhyw ymholiadau neu bryderon, anfonwch e-bost atom i archifau@bangor.ac.uk