Pam Astudio Cerddoriaeth?
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned fywiog o gyfansoddwyr, ysgolheigion a cherddorion o bob cwr o'r byd, byddwch yn elwa o'r cyfleoedd i rannu syniadau a chreadigrwydd mewn amrywiol ddulliau cerddorol. Mae ein cyfleusterau gyda'r gorau yn y byd, gan gynnwys pum stiwdio electroacwstig o'r radd flaenaf, casgliadau unigryw yn yr archifau a'r llyfrgell, cyfleusterau ymarfer 24 awr, offerynnau gwych, a neuaddau cyngerdd godidog. Cewch eich dysgu a'ch goruchwylio gan gerddolegwyr, cyfansoddwyr ac ymarferwyr byd-enwog, ac mi gewch eich sbarduno a'ch ysgogi'n ddeallusol gan siaradwyr ac artistiaid gwadd. Y tu allan i'r cwrs, cewch ymuno Γ’ chorau, cerddorfeydd ac ensembles eraill, a gallwch elwa o'r llu o gyfleoedd sydd ar gael ichi fel aelod o brifysgol draddodiadol fywiog.
Profiad Myfyrwyr
Mae ein myfyrwyr yn siarad am eu profiad yn Prifysgol ΒιΆΉΝψ hyd yn hyn ac yn rhannu cyngor ar pam y dylech ystyried astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol ΒιΆΉΝψ
00:00.00 - 00:05.00
Fy enw i yw Dai Mito ac rwyf wedi Astudio Cyfansoddi Cerddoriaeth a Chelf Sonig
00:05.00 - 00:14.00
Dwi wedi mwynhau creu cerddoriaeth yn enwedig cerddoriath i film distaw
00:15.00 - :00:27.00
mae yn llefydd gwych yn y Prifysgol, fel esiampl ystafell Piano, Stiwdio ac hefyd digonedd o llyfrau yn y llyfrgell. mae hyn yn help mawr i fy astudiaethau
00:27.00 - :00:37.00
Mae rhaid i mi creu cerddoriaeth benodol a effeithiau sain, mae yn defnyddiol hefo y fordd rydw i yn meddwl
00:37.00 - 00:57.000
syd i wneud i teledu, film a gemau. fyswn i yn hoffi gweithio yn wneud golygu, recordio a creu i cwmi Japaneaidd gorfforaeth ddarlledu, fel y BBC
00:57.00 - 01:00.00
breuddwyd fawr yw hon.
Cyfleoedd Gyrfa o Cerddoriaeth
Mae astudio ar lefel Meistr ym Mangor yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer gyrfa arbenigol mewn cerddoriaeth. Mae graddedigion ein graddau Meistr wedi mynd ymlaen i weithio fel cyfansoddwyr proffesiynol, perfformwyr, addysgwyr, awduron, darlledwyr, ymchwilwyr a rheolwyr mewn amrywiol sefydliadau celfyddydol. Aeth nifer rhagddynt i astudio graddau PhD, ac yna i yrfaoedd o fri mewn prifysgolion a conservatoires ledled y byd.
Ein Hymchwil o fewn Cerddoriaeth
Mae ein staff yn ymchwilwyr dygn ac maent yn canlyn amrywiaeth dda o ddiddordebau ymchwil mewn cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio. Yn yr RAE diwethaf (2014), barnwyd bod bron i draean o'n hymchwil 'gyda'r gorau yn y byd', a drwyddi draw, barnwyd bod 81% o'n gweithgarwch ymchwil 'gyda'r gorau yn y byd' neu'n 'rhagorol yn rhyngwladol' (h.y. wedi cael y ddwy radd uchaf, sef 3* a 4*).
β Cryfderau/Arbenigeddau Ymchwil
Mae ein staff yn cynnal ymchwil ac yn darparu goruchwyliaeth i raddau PhD mewn Cerddoleg, Cyfansoddi, Perfformio ac Iechyd a Lles. O fewn y meysydd eang hynny, mae gennym gryfderau allweddol o ran:
- Cerddoriaeth Gynnar
- Cerddoriaeth yr 20fed aβr 21ain ganrif
- Golygu Cerddoriaeth
- Cerddoriaeth Cymru
- Cyfansoddi Acwsmatig ac Electroacwstig
- Cerddoriaeth Ffilm
- Y Celfyddydau Sonig
- Perfformio Cyfoes
- Perfformio Rhyngweithiol gydag Electroneg.
Mae'r rhan fwyaf o'r staff yn weithgar mewn mwy nag un maes ac yn aml maent yn ymwneud Γ’ phrojectau ymchwil gyda chydweithwyr sy'n gweithio mewn disgyblaethau eraill.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.