Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:
Llyfrgell y gyfraith

Graddau Y Gyfraith Ôl-raddedig Trwy Ddysgu

Mae astudio am radd ôl-radd yn y Gyfraith ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø yn golygu y byddwch yn astudio cwrs a fydd yn eich paratoi ar gyfer y dyfodol gan geisio dyfnhau eich gwybodaeth ac ehangu eich sgiliau cyfreithiol. Mae ein rhaglenni gradd LLM arbenigol wedi'u dylunio i roi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi heddiw.

Pa gwrs LLM yw’r un iawn i chi?

O fewn Ysgol y Gyfraith ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø mae gennym gyfres o raglenni LLM y gall myfyrwyr ddewis ohonynt. Mae ein cyrsiau LLM yn seiliedig ar ein ymchwil academaidd ac maent yn feysydd y mae gennym arbenigedd penodol ynddynt. Dyma drosolwg cryno o'r rhaglenni LLM rydym yn eu cynnig.

Mae ein cwrs blaenllaw, LLM y Gyfraith, yn cynnig amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol i fyfyrwyr er mwyn cadw eu harbenigedd yn eang. Mae dulliau ymchwil cyfreithiol yn greiddiol i’r cwrs, a bydd myfyrwyr yn cael cyfle i ganolbwyntio ar faes ymchwil penodol yn y traethawd hir

Gan adlewyrchu rhagoriaeth Ysgol y Gyfraith Âé¶¹Íø mewn cyfraith ryngwladol ar draws y sbectrwm o hawliau dynol, cyfraith ddyngarol, cyfraith trosedd ryngwladol, cyfraith newid hinsawdd a'r amgylchedd, mae ein cwrs LLM Hawliau Dynol Ryngwladol a Chyfraith Trosedd Ryngwladol yn ddewis gwych i'r rhai sydd eisiau gwneud gwahaniaeth.

Mewn cydweithrediad â'r Adran Droseddeg, mae ein cwrs LLM y Gyfraith a Throseddeg yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ddatblygu eu harbenigedd troseddegol ar yr un pryd â’i gymhwyso mewn enghreifftiau cyfreithiol, gyda thraethawd hir sy'n canolbwyntio ar y gyfraith.

Gradd ar y cyd rhwng Ysgol Busnes Âé¶¹Íø ac Ysgol y Gyfraith Âé¶¹Íø yw’r radd Y Gyfraith a Rheolaeth. Mae wedi’i hachredu gan y Sefydliad Rheolaeth Siartredig, ac yn darparu cymhwyster deuol o radd Meistr Prifysgol Âé¶¹Íø a chymhwyster Lefel 7 mewn Rheolaeth Strategol ac Arweinyddiaeth.

Merch yn llyfrgell Prifysgol Âé¶¹Íø
Student in Âé¶¹Íø Library
Myfyriwr yn edrych ymlaen yn sefyll mewn ystafell llys ffug ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø

Beth yw Gradd LLM a Meistr yn y Gyfraith?

Rhaglen ôl-radd yn y gyfraith yw Meistr yn y Gyfraith y byddech yn ei hastudio fel arfer ar ôl cwblhau gradd israddedig yn y gyfraith. Mae rhaglenni ôl-radd o'r fath yn aml yn canolbwyntio ar feysydd penodol o astudiaethau cyfreithiol ac yn eich galluogi i fod yn arbenigol iawn mewn maes penodol o'r gyfraith. Bydd astudio gradd Meistr yn y Gyfraith yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd proffesiynol.

Pam astudio gradd LLM neu radd Meistr yn y Gyfraith?

Er nad yw cael gradd ôl-radd yn hanfodol i ddilyn gyrfa yn y gyfraith, gall gynnig nifer o fanteision. Bydd astudio Gradd Meistr yn y Gyfraith yn:

  • rhoi mantais gystadleuol i chi yn y farchnad swyddi;
  • mireinio eich sgiliau a'ch gwybodaeth gyfreithiol ymhellach;
  • eich helpu i benderfynu ym mha faes cyfreithiol yr hoffech arbenigo;
  • rhoi cyfle i chi ddatblygu maes ymchwil cyfreithiol er mwyn parhau i wneud astudiaethau doethurol.
     
Student looking ahead with graduation cap
Van Anh Le - Âé¶¹Íø Law graduate

VAN ANH LE

Ar ôl graddio o Brifysgol Âé¶¹Íø, bûm yn gweithio fel Cymrawd Addysgu yn y maes Cyfraith Eiddo Deallusol yn Ysgol y Gyfraith Durham ac Ysgol y Gyfraith Warwick. Cefais fy enwebu am un o Wobrau Warwick am Ragoriaeth mewn Addysgu. Rydw i'n ddyledus iawn i'm cyn-oruchwyliwr PhD, a wnaeth fy annog i wneud cais am ysgoloriaeth ymchwil yn ystod fy PhD a cefnogi’n llwyr wrth i mi chwilio am waith.

DYSGWCH FWY AM VAN ANH

A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.

Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol fel myfyriwr Gyfraith . 

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr? 

  • Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr Gyfraith llwyddiannus ym Mangor? 
  • Beth allai wneud i baratoi at astudioGyfraith ym Mangor? 
  • Sut ydw i yn gwybod mai Gyfraith ym Mangor yw’r dewis iawn i mi? 

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.

Meysydd pwnc eraill sydd yn berthnasol

Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.