Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:
Nyrs mewn dosbarth

Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant

Llun o fyfyrwyr yn cerdded y tu allan i ddrws ail lawr adeilad Pontio.

Croeso i AHEPW

Esiampl o addysg ac arloesedd trawsnewidiol sy’n flaenllaw ym maes gofal iechyd. Rydym yn ymrwymo i ail-lunio dyfodol iechyd a llesiant, yng Nghymru a ledled y byd. Mae’r academi, sef yr ALPHAcademi gynt, yn cynrychioli ymrwymiad dwfn i hyrwyddo tegwch iechyd, hyrwyddo llesiant, a hyrwyddo mesurau ataliol i fyd iachach. Mae ar groesffordd addysg, ymchwil ac ymarfer, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni ôl-radd cynhwysfawr, cyrsiau unigol, a modiwlau dysgu hyblyg mewn Iechyd Ataliol, Iechyd y Boblogaeth, ac Arweinyddiaeth. Mae cyfuniad nodedig o ddysgu ar-lein ac yn y cnawd sy’n darparu ar gyfer anghenion amrywiol gweithwyr proffesiynol sy'n yn ogystal â phrofiad addysgol cyfoethog.

Yn ogystal, rydym yn darparu gweithdai ar-lein am ddim, gwasanaethau ymgynghorol, a thîm o weithwyr proffesiynol, ymchwilwyr, ac addysgwyr o fri sy'n dod â'u harbenigedd amrywiol i'r rhaglenni. Gyda’n gilydd, rydym yn cychwyn ar daith i rymuso’r dysgwyr i arwain newid trawsnewidiol ym myd iechyd a llesiant.

Mae’r Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant yn rhan annatod o rwydwaith o Academïau Dysgu Dwys a ariennir gan Lywodraeth Cymru—hyb cydweithredol sy’n ymroddedig i feithrin sgiliau, meithrin arbenigedd, cyfnewid gwybodaeth, a throsi ymchwil yn atebion diriaethol, yn y byd go iawn.

Ymunwch â ni mewn project cyffrous a ninnau’n braenaru'r tir ar gyfer dyfodol iachach a thecach.

Gweithdai ar-lein

Astudio gyda Ni

Postgraduate courses in Prevention, Population Health and Leadership
Fideo: Postgraduate courses in Prevention, Population Health and Leadership with AHEPW
0:02
Datblygwch eich gyrfa gyda'r Academi ar gyfer Tegwch, Atal a Lles Iechyd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.

0:09
Sylw i weithwyr gofal iechyd proffesiynol ac arweinwyr iechyd y cyhoedd! Hyrwyddo tegwch ac atal iechyd gyda’n MSc mewn ‘Atal, Iechyd y Boblogaeth, ac Arwain

0:20
Mae ein cwrs yn cynnig dysgu hyblyg i gyd-fynd â'ch amserlen, gan gydbwyso gwaith, teulu ac addysg.

0:24
Cydweithio ag arweinwyr diwydiant ac academaidd mewn amgylchedd arloesol, beirniadol.
0:30
Cofrestrwch ar gwrs AHEPW Prifysgol Âé¶¹Íø i ddatgloi eich potensial.

0:36
Holwch nawr ar gyfer Dechrau Medi 2024
Ysgoloriaethau ar gael.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â:
Ewch i www.bangor.ac.uk/ahepw
ahepw@bangor.ac.uk

Gwrandewch ar y bennod ddiweddaraf o 'Let Talk Preventative Healthcare'...

Cysylltwch â ni

Cysylltwch â ni os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglÅ·n â chyfleoedd astudio, cyllid, gweithio gyda’r adran neu brojectau: AHEPW@bangor.ac.uk 

Partneriaid

Academiau Dysgu Dwys Cymru
Welsh Government logo
logo of betsi cadwaladr

Fron Heulog, Âé¶¹Íø, LL57 2EF

BLE RYDYM NI

Fron Heulog, Âé¶¹Íø, LL57 2EF

Mae’r Academi Tegwch Iechyd, Iechyd Ataliol a Llesiant, fel rhan o Brifysgol Âé¶¹Íø, wedi ymrwymo i gydnabod a gwerthfawrogi gwahaniaethau pobl, i feithrin y cryfderau y mae’r gwahaniaethau hynny yn eu cynnig i’r Brifysgol, ac i gefnogi’r holl staff a myfyrwyr i wneud y gorau o’u potensial. Rydym wedi ymrwymo i greu cymuned amrywiol o fyfyrwyr ac yn annog ceisiadau yn arbennig gan gymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol.