Dr Britta Ismer
Agorodd Âé¶¹Íø nifer o ddrysau i mi.
Dr Britta Ismer
Rheolwr Tîm Clinigol yn ICON
Astudiodd: BSc Bioleg Canser, 2013
Roeddwn yn gwybod fy mod eisiau astudio pwnc y gallwn ei ddefnyddio yn ddiweddarach mewn bywyd i helpu pobl. Roedd gen i ddiddordeb mewn Bioleg erioed, ond doeddwn i ddim eisiau dysgu am anifeiliaid na phlanhigion; roedd gen i ddiddordeb mewn sut mae'r corff yn gweithio, sut rydw i'n gweithio.
"Pan welais fod Âé¶¹Íø yn cynnig Bioleg Canser, roeddwn yn gwybod mai dyna oeddwn eisiau ei wneud.
"Gwnaeth fy nghwrs ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø roi'r wybodaeth sylfaenol i mi am Fioleg Canser, ac rwyf wedi adeiladu arni ers hynny. Gwnaeth fy nghwrs fy ngalluogi i arbenigo yn gynnar iawn mewn pwnc roeddwn yn ei fwynhau ac eisiau datblygu gyrfa ynddo. Agorodd nifer o ddrysau i mi fel fy mod wedi gallu arbenigo yn y maes mor gynnar a chael fy nerbyn i wneud PhD yn y Ganolfan Ymchwil Canser enwog yn yr Almaen.
"Yn fy swydd bresennol, rwy'n arwain ac yn rheoli gweithrediad un neu fwy o astudiaethau clinigol, o ddechrau’r astudiaethau i ryddhau cronfeydd data. Fel aelod craidd o'r Tîm Astudio, mae gen i oruchwyliaeth ranbarthol, rwy’n ysgogi’r broses o wneud penderfyniadau, yn darparu arweinyddiaeth, ac yn hyrwyddo ansawdd a rhagoriaeth gyson. Mae'n rhaid i mi asesu risgiau a phenderfynu ar y strategaethau lliniaru gorau a sicrhau bod fy nhîm clinigol yn cwrdd â'r disgwyliadau penodol, er mwyn sicrhau ein bod yn cadw ein cleifion yn ddiogel a chadw data a gesglir at safonau rheoliadol.
"Trwy astudio, dysgais sut i gymell fy hun a gwneud fy ngorau bob amser. Dysgais fod gwaith caled yn talu ar ei ganfed.
“Trwy wirfoddoli gyda RAG a bod yn rhan o Glwb Athletau Âé¶¹Íø, dysgais sut i ysgogi pobl a sut i ymwneud ag eraill. Dysgais sut i ddatrys problemau a rheoli gwrthdaro, i ffurfio timau anhygoel."