Mae yn cynnig nifer o fanteision i’r Ysgol a’i chymuned. Mae'n dangos ein hymrwymiad i symud ymlaen ag agenda cydraddoldeb ac amrywiaeth ar sail rhyw ac yn gwreiddio egwyddorion Athena Swan yn llawn yn niwylliant Ysgol Busnes Âé¶¹Íø. Mae gweithio tuag at wobr efydd Athena Swan wedi amlygu ein cryfderau gan gynnwys y ffaith bod staff benywaidd Ysgol Busnes Âé¶¹Íø yn llwyddo i gael dyrchafiadau mewnol. Mae hefyd wedi ein helpu i osod targedau newydd ar gyfer gwella cynwysoldeb e.e. rydym yn anelu at gael gwell cydbwysedd rhwng y rhywiau yn holl agweddau ar arweinyddiaeth a threfniadaeth yr Ysgol. Mae’r Siarter Athena Swan yn fframwaith a ddefnyddir ledled y byd i gefnogi a thrawsnewid cydraddoldeb rhyw mewn ymchwil ac addysg uwch.
Enillodd Ysgol Busnes Âé¶¹Íø y wobr efydd Athena Swan ym mis Tachwedd 2019.
Gwybodaeth am Athena Swan
Sefydlwyd yn 2005 ac mae'n seiliedig ar ddeg egwyddor allweddol yn ymwneud â'r agenda cydraddoldeb. Sefydlwyd y siarter yn wreiddiol er mwyn annog a chydnabod yr ymrwymiad i hyrwyddo gyrfaoedd merched ym meysydd gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg, mathemateg a meddygaeth (STEMM) ond mae bellach yn cydnabod gwaith a wneir i fynd i’r afael â chydraddoldeb rhyw yn ehangach.
Dyfernir y wobr Athena Swan gan Uned Her Cydraddoldeb Advance HE, ac mae'r wobr yn ddilys am bum mlynedd. Cafodd y cais am y wobr ei baratoi a’i gyflwyno gan Dîm Hunanasesu Athena Swan yr Ysgol.
Mae Tîm Hunanasesu Ysgol Busnes Âé¶¹Íø yn cynnwys yr aelodau staff academaidd canlynol.
Mae Tîm Hunanasesu Ysgol Busnes Âé¶¹Íø yn cynnwys yr aelodau staff academaidd canlynol.