Ymunwch â Dr Carl Mather, Darlithydd mewn Busnes a Marchnata, ar gyfer Sesiwn Blasu ar-lein AM DDIM
A yw rhai pobl yn cael eu geni i arwain neu a ellir dysgu arweinyddiaeth? Yn y sesiwn hon, byddwn yn gofyn llwyth o gwestiynau: beth mae arweinwyr yn ei wneud mewn gwirionedd? A ydyn nhw'r un peth â rheolwyr? Sut olwg sydd ar arweinydd? Pa nodweddion sydd gan arweinydd? Beth sy'n gwneud arweinydd da? Beth sydd raid iddyn nhw fod yn dda ynddo? Pam y dylem ni ymddiried ynddyn nhw? Sut allwn ni eu dewis? A allech chi fod yn arweinydd? A all unrhyw un? Byddwn yn gwneud ein gorau i ateb y cwestiynau hyn a chwrdd â rhai cymeriadau diddorol. Rhybudd difetha - mae pobl wedi bod yn ceisio ateb y cwestiynau hyn ers dwy fil o flynyddoedd!
Cewch weld ein Hysbysiadau Preifatrwydd yma. Trwy gyflwyno'r ffurflen gofrestru rydych yn cytuno â thelerau defnyddio a hysbysiad preifatrwydd y Brifysgol. Cewch gysylltu â ni ar unrhyw adeg i dynnu'ch cydsyniad yn ôl neu newid eich dewisiadau cydsyniad.
Caiff y sesiwn ei chyflwyno trwy gyfrwng y Saesneg.
Archwiliwch y gyfres Sesiynau Blasu: