Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:

Addysgu wedi'i Gyfoethogi’n Ddigidol

Gwybodaeth am Addysgu wedi'i Gyfoethogi’n Ddigidol

Yn nhirwedd addysg sy’n datblygu’n gyflym, mae technolegau addysgu ar-lein wedi dod yn hollbwysig wrth gyflwyno profiadau dysgu effeithiol. Mae'r symudiad tuag at addysgeg ddigidol yn mynnu bod addysgwyr yn hyddysg wrth ddefnyddio'r technolegau hyn, yn ogystal â’u bod yn addasu eu dulliau addysgu i ymgysylltu myfyrwyr mewn rhith amgylcheddau. Mae gwella galluoedd a hyder staff yn y maes hwn yn hollbwysig i feithrin awyrgylch addysgol cynhyrchiol. Mae’r dudalen hon yn archwilio rhai o’r agweddau sylfaenol ar ddod yn gyfarwydd â thechnolegau addysgu ar-lein, gan ganolbwyntio ar ddatblygu addysgeg ddigidol a gwella sgiliau a hyder staff.

Ar y dudalen hon

Pecyn Cymorth Addysgu wedi’i Gyfoethogi’n Ddigidol: canllawiau, adnoddau ac offer digidol i wella eich ymarfer addysgu

Astudiaethau Achos Addysgu wedi’u Cyfoethogi’n Ddigidol: enghreifftiau o arfer addysgu wedi'i wella'n ddigidol o bob rhan o'r brifysgol

Pecyn Cymorth Addysgu wedi’i Gyfoethogi’n Ddigidol

Mae’r Pecyn Cymorth Addysgu Wedi’i Gyfoethogi’n Ddigidol yn cynnwys dolenni at ganllawiau, adnoddau ac offer digidol i wella eich ymarfer addysgu, yn ogystal â chanllawiau cyfeirio hanfodol i’ch cynorthwyo wrth weithio’n ddigidol ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.

Defnyddiwch y dolenni isod i fynd i'n gwefan SharePoint Pecyn Cymorth Addysgu Wedi’i Gyfoethogi’n Ddigidol ac i weld adnoddau sy’n berthnasol i’r pwnc sydd o ddiddordeb i chi.

Meddalwedd Addysgu Hanfodol

Canllaw i feddalwedd addysgu allweddol a ddefnyddir ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.

Meddalwedd Addysgu Hanfodol

Canllaw i feddalwedd addysgu allweddol a ddefnyddir ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.

Gwella eich Addysgu a’ch Cwricwlwm gydag Offer Digidol

Ysbrydoliaeth ac arweiniad i gyfoethogi eich addysgu a’ch cwricwlwm, a'r offer a'r systemau digidol sydd ar gael ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.

Gwella eich Addysgu a’ch Cwricwlwm gydag Offer Digidol

Ysbrydoliaeth ac arweiniad i gyfoethogi eich addysgu a’ch cwricwlwm, a'r offer a'r systemau digidol sydd ar gael ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.

Hanfodion Digidol

Gwybodaeth ymarferol hanfodol ar gyfer gweithio ar-lein. 

Hanfodion Digidol

Gwybodaeth ymarferol hanfodol ar gyfer gweithio ar-lein. 

Systemau Âé¶¹Íø ar gyfer Staff Addysgu

Gwybodaeth am systemau a chronfeydd data Prifysgol Âé¶¹Íø sy'n berthnasol i staff addysgu.

Systemau Âé¶¹Íø ar gyfer Staff Addysgu

Gwybodaeth am systemau a chronfeydd data Prifysgol Âé¶¹Íø sy'n berthnasol i staff addysgu.

Hyfforddiant ac Uwchsgilio

Manylion cyfleoedd hyfforddi sydd ar y gweill, a dolenni i recordiadau o ddigwyddiadau hyfforddi sydd wedi bod.

Hyfforddiant ac Uwchsgilio

Manylion cyfleoedd hyfforddi sydd ar y gweill, a dolenni i recordiadau o ddigwyddiadau hyfforddi sydd wedi bod.

Astudiaethau Achos Addysgu wedi’u Cyfoethogi’n Ddigidol