Diwylliannau’n Dod Ynghyd: Prynhawn o Draddodiadau Tsieineaidd gyda Myfyrwyr ELCOS!
Roedd yn bleser croesawu Canolfan Iaith Saesneg i Fyfyrwyr Tramor (ELCOS) Prifysgol Âé¶¹Íø ar 31 Mai. Mwynhaodd ein gwesteion brynhawn hynod ddifyr yn ymgolli mewn gweithgareddau diwylliannol Tsieineaidd. Buont yn cymryd rhan mewn arferion traddodiadol megis caligraffeg ac yn mwynhau sŵn hyfryd cerddoriaeth guzheng. Y sesiwn Tai Chi oedd uchafbwynt y diwrnod, a dysgodd y cyfranogwyr am athroniaeth yr hen grefft ymladd a'r manteision i iechyd.
"Roedd yn gyfle gwych i rannu treftadaeth ac i bawb ddysgu oddi wrth ei gilydd.†meddai Anthony Brooks o ELCOS. 'Roedd yn galonogol gweld creu cysylltiadau ac ehangu safbwyntiau."
Yn ogystal â’r gweithgareddau bu’r digwyddiad yn fodd i feithrin cyfnewid diwylliannol ystyrlon a phontio rhaniadau byd-eang. Trwy gymryd rhan mewn sgyrsiau, gwneud cyfeillion newydd, ac ehangu safbwyntiau bu effaith barhaol ar bawb oedd yno.