Sefydliad Confucius Yn Cynnal Ei Trydydd Ysgol Haf Mandarin Ar-Lein!
Cynhaliodd Sefydliad Confucius Prifysgol Âé¶¹Íø ysgol haf iaith a diwylliant Tsieineaidd wythnos o hyd ar-lein rhwng 24 a 28 Gorffennaf. Cynlluniwyd y rhaglen rithwir unigryw hon i drochi cyfranogwyr yn rhyfeddodau iaith, diwylliant a thraddodiadau Tsieina o’u cartrefi eu hunain.
Trwy gydol yr wythnos, cafodd myfyrwyr brofiad cyflawn a oedd yn cynnwys dwy wers Mandarin ddifyr bob dydd, ynghyd â gwers ddiddorol am ddiwylliant Tsieina. Yn ogystal, cafodd y cyfranogwyr gyfle i weithio ar brojectau unigol a oedd yn caniatáu iddynt ymchwilio'n ddyfnach i feysydd o ddiddordeb iddynt.
Ar ddiwrnod olaf yr ysgol haf, cafodd y cyfranogwyr y cyfle i arddangos eu gwaith caled a'u hymroddiad trwy gyflwyno eu projectau. Roedd y brwdfrydedd a’r creadigrwydd a ddangoswyd yn eu cyflwyniadau yn wirioneddol ganmoladwy. I ddathlu eu cyflawniadau, trefnwyd cwis tair rownd ryngweithiol, yn canolbwyntio ar y wybodaeth a'r sgiliau newydd a ddysgwyd gan y myfyrwyr yn ystod yr wythnos.
Roedd y projectau’n ymdrin ag amrywiaeth o bynciau difyr, megis cyfryngau Tsieina, celfyddyd gymhleth seremonïau te Tsieina, atyniad sinema Tsieina, a daearyddiaeth hynod ddiddorol Tsieina. Roedd pob project yn dangos lefel hynod o ymrwymiad a gloywder.
Ychwanegwyd at lwyddiant yr ysgol haf ymhellach gan yr adborth hynod gadarnhaol a gafwyd gan y cyfranogwyr. Roedd eu sylwadau yn dyst i ymroddiad y sefydliad i ddarparu profiad dysgu cyfoethog a difyr.
'Diolch am gwrs anhygoel; roedd yn wirioneddol ysbrydoledig. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at ymweld â Tsieina nawr.'
'Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle, ac rwy'n bwriadu astudio'r iaith a'r diwylliant ymhellach.'
'Diolch yn fawr iawn; Rwyf wedi ei fwynhau'n fawr ac yn edrych ymlaen at y digwyddiad nesaf.'
'Diolch yn fawr iawn am gyfle dysgu ardderchog - wnes i fwynhau pob munud ohono a byddaf yn bendant yn cadw llygad am ddigwyddiadau i ddod yn y dyfodol.'
'Diolch am gyflwyniad hyfryd i iaith a diwylliant Tsieina.'
'Roedd y dysgu yn rhagorol. Roedd Shan a Mengling, y prif diwtoriaid, yn ysbrydoliaeth.'
'Cefais wersi’r Ysgol Haf yn hynod ddiddorol ac roeddwn wrth fy modd â’r amrywiaeth o bynciau a gyflwynwyd dros yr wythnos gyfan. Yr unig welliant y gallaf ei gynnig ydi o ran hyd y cwrs; byddwn i’n mwynhau cwrs ychydig yn hirach.'
Dywedodd Dr Davitt, Cyfarwyddwr Sefydliad Confucius Prifysgol Âé¶¹Íø, pa mor falch a diolchgar oedd hi am ymrwymiad y myfyrwyr a'r gwaith caled a wnaed gan y staff i wneud yr ysgol haf yn llwyddiant ysgubol. "Rydym wedi ymroi i gyflwyno iaith a diwylliant Tsieina i bawb, ac mae'r ymateb gwych gan y cyfranogwyr yn cryfhau ein penderfyniad i barhau i feithrin dealltwriaeth trawsddiwylliannol," meddai Dr Davitt
Mae Sefydliad Confucius ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø yn parhau’n ddi-syfl yn ei ymdrechion i ddarparu addysg o’r radd flaenaf mewn iaith a diwylliant Tsieina, ac mae mentrau o’r fath yn chwarae rhan hanfodol yn yr ymgais i gyrraedd y nod hwnnw.
YnglÅ·n â Sefydliad Confucius Prifysgol Âé¶¹Íø Mae Sefydliad Confucius Prifysgol Âé¶¹Íø yn fenter gydweithredol rhwng Prifysgol Âé¶¹Íø a’r China University of Political Science and Law (CUPL) yn Beijing. Ei nod yw cynnig iaith, diwylliant ac addysg Tsieineaidd, meithrin cyd-ddealltwriaeth a phontio bylchau diwylliannol rhwng cenhedloedd.