Yngl天n 但r Cwrs Yma
Mae'r cwrs byr hwn wedi'i anelu at unrhyw un sy'n dymuno bod yn hyrwyddwr gweithle egn誰ol. Fel arfer, mae dysgwyr yn cynnwys staff y GIG, unigolion sy'n gweithio mewn mentrau bach, canolig a mawr, ac unigolion sy'n gweithio gydag elusennau a sefydliadau anllywodraethol.
Os hoffech drefnur hyfforddiant hwn yn benodol ar gyfer eich sefydliad neu fusnes, cysylltwch ag arweinydd y cwrs i drafod ymhellach.
Pam astudior cwrs?
Ar 担l cwblhau'r cwrs byr hwn yn llwyddiannus, dylai myfyrwyr allu gwneud y canlynol:
- Deall pam mae symudiad yn y gweithlen cynnig buddion i'r gweithiwr a'r cyflogwr;
- Deall ein perthynas 但 symudiad a gweithgarwch corfforol;
- Gallu myfyrio ar ddiwylliant eich gweithle a gwerthusoi effaith ar symudiad.
- Deall sut y gall fframweithiau cysyniadol Llythrennedd Corfforol ar model COM-B lywio eich strategaeth, eich ymddygiad ach dull o hyrwyddo diwylliant o symudiad a gweithgarwch corfforol yn y gweithle.
Pa mor hir mae'n ei gymryd i gwblhau'r cwrs?
Bydd y cwrs yn cael ei redeg dros ddau weithdy 3 awr, wedi'u trefnu tair wythnos ar wah但n, gyda thasg adfyfyriol iw wneud rhwng y ddau.
Tiwtoriaid
Yr Athro Jamie Macdonald, Arweinydd y Cwrs

Cwblhaodd Jamie PhD mewn ffisioleg ymarfer corff clinigol ac mae bellach yn Athro Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn y Sefydliad Ffisioleg Ddynol Gymhwysol ym Mhrifysgol 醍狭利. Mae Jamie yn arwain rhaglen o ymchwil gymhwysol gyda'r nod o helpu mwy o bobl i symud mwy, mwy o'r amser. Maen un o sylfaenwyr ac yn Arweinydd ac mae ganddo gontract anrhydeddus gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Hoff agwedd Jamie oi r担l yw cydweithio ag ymchwilwyr ac ymarferwyr cymhwysol, ar brosiectau fel cynhyrchu Pecyn Cymorth Gweithle Actif (iw gyhoeddin fuan gan BIPBC) ac ysgrifennu canllawiau ar weithgarwch corfforol ar gyfer C.
Pan nad yw'n gweithio, gellir dod o hyd i Jamie yn yr awyr agored, yn aml gyda'i ferch, yn ceisio ei orau i ddringo, beicio a sg誰o cystal ag y gwnaeth 20 mlynedd yn 担l.
Gethin Thomas

Mae Gethin yn cynnig amrywiaeth o hyfforddiant, a chefnogaeth ymgynghorol a chynghori ir sectorau addysg, iechyd a chwaraeon. Mae hefyd yn cefnogi sefydliadau gydau gwaith cynllunio strategol, yn ogystal a ysgrifennu adnoddau, canllawiau a dogfennau polisi. Mae arbenigeddau Gethin yn cynnwys y canlynol:
Addysg
-Cwricwlwm i Gymru
-Maes Dysgu a Phrofiad Iechyd a Lles Cwricwlwm i Gymru
-Dylunio a chynllunior cwricwlwm
-Datblygu athrawon-ymchwilwyr
-Addysgeg addysg gorfforol wedii llywio gan lythrennedd corfforol
Iechyd
-Datblygu diwylliant gweithle egn誰ol
-Ymarfer wedii lywio gan lythrennedd corfforol gan gynnwys cynllunio strategol i ysgogi -mwy o symudiad a ffyrdd mwy egn誰ol o fyw
Gwylio'r fideo - Hyfforddiant Hyrwyddwr Gweithle
"Felly rydym wedi datblygu'r cwrs Hyfforddi Hyrwyddwyr Gweithle Egn誰ol i geisio mynd i'r afael 但 rhai o'r problemau yr ydym yn eu gweld yn y gymdeithas nawr, sef diffyg lefelau gweithgarwch corfforol. Ac mae'r gweithle yn rhoi cyfle gwych i ni. Rydym yn treulio llawer o amser yn y gwaith, ac mae'n rhoi'r cyfle gwych hwn i ni allu mynd i'r afael 但'r her honno o gynyddu lefelau gweithgarwch corfforol a chael pobl i symud mwy fel rhan o'u bywydau bob dydd.
Ond yn hytrach, rhai sydd efor gallu i ddylanwadu ac i arwain ac i newid sefydliad o ran y diwylliant fel ein bod nin cael manteision ir sefydliad yna ac ir unigolion dros amser. Mae on rhywbeth da ni angen anelu tuag at arweinwyr o fewn sefydliadau neu fusnes a hefyd y gweithwyr.
Mae'r rhaglen hyfforddi hon yn addas i unrhyw un sy'n angerddol am geisio gwella gweithgarwch corfforol a symud yn eu gweithle. Felly gellid ei gyflwyno i weithiwr neu gyflogwr ar unrhyw lefel, ond y peth pwysicaf yw eu bod yn cael y cyfle i newid y diwylliant hwnnw a cheisio rhoi cyfle i bobl allu bod yn fwy egn誰ol yn y gweithle.
Mae newid ymddygiad yn heriol iawn, ac mae newid ymddygiad i ymddygiad iach yn arbennig o heriol oherwydd yn aml mae'n waith caled i gynyddu gweithgarwch corfforol. Mae'n gofyn am lawer o gymhelliant, ynghyd 但 llawer o ffactorau eraill o fewn y diwylliant yn eich sefydliad.
Maer hyfforddiant yn datblygu gweithwyr o fewn sefydliad i newid y diwylliant o fewn y sefydliad fel ein bod nin gwerthfawrogi symud a gweithgaredd corffol an bod ni wedyn yn gallu manteisio or gweithlu yn symud mwy. Hynny ydi, o ran manteision corfforol iw iechyd corfforol nhw, iw iechyd meddyliol nhw a hefyd iw iechyd au lles emosiynol a cymdeithasol nhw fel bod unigolion yn cael caniat但d ar cyfle i symud mwy yn y gwaith, au bod nhw wedyn yn gweld mantais ac yn fwy parod i symud yn y gwaith ai fod on iawn i sefyll wrth ddesg, i gymryd y grisiau, ac i fynd am dro wrth drafod mewn cyfarfod. Bod y newidiadau yn yr ymddygiadau yma wedyn dros amser yn arwain at nifer o fanteision dros y tymor canolig ir tymor hir nid yn unig i'r unigolyn ond hefyd ir sefydliad.
Dw i'n meddwl bod newid ymddygiad yn heriol, ac mae'n anodd cynnal ymddygiad iach. Mae'n gofyn am lawer o gymhelliant, a'r cyfle mae'r gweithle yn ei ddarparu yw y cewch wneud y newidiadau fel rhan o'ch diwrnod gwaith. Rydym yn defnyddio dull hyfforddi'r hyfforddwr, felly rydym yn ceisio helpu sefydliadau i ofalu amdanynt eu hunain, ac mae hynny'n ei gwneud hi'n llawer mwy cynaliadwy a realistig i sefydliadau allu mynd i'r afael 但'r newid ymddygiad heriol hwnnw sydd ei angen i gael y buddion hynny o weithgarwch corfforol a symud."
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chin ei astudio ar y cwrs yma?
R担l hyrwyddwr gweithle egn誰ol yw ysbrydoli a dylanwadu ar gydweithwyr i gyfrannu at ddiwylliant o symudiad a gweithgarwch corfforol yn y gweithle.
Cyflwynir y cwrs rhyngweithiol hwn mewn dwy ran gan arbenigwyr mewn gweithgarwch corfforol a bydd yn paratoi dysgwyr i ymgymryd 但 r担l hyrwyddwr gweithle o fewn eu sefydliad eu hunain.
Bydd y cwrs yn eich cefnogi i arwain trwy esiampl a hwyluso eraill i wella eu hymddygiad gweithgarwch corfforol. Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o lythrennedd corfforol ac egwyddorion newid ymddygiad, yn dysgu sut i gynllunio gweithgareddau gydag empathi ar gyfer anghenion cydweithwyr unigol, dod yn gyfathrebwr iechyd, a gwerthfawrogi sut i ddylanwadu ar reolaeth a diwylliant.
Bydd y cwrs yn cael ei redeg dros ddau weithdy 3 awr, wedi'u trefnu tair wythnos ar wah但n, gyda thasg adfyfyriol iw wneud rhwng y ddau. Ar 担l y cwrs, bydd dysgwyr yn cefnogi ei gilydd trwy eu rhwydwaith newydd o hyrwyddwyr gweithle egn誰ol, a gallant ofyn i arweinwyr y cwrs eu mentora.
Rhestr o unedau
Gweithdy 1:
- Cyflwyniad i r担l hyrwyddwr gweithle egn誰ol
- Dod i ddeall pam mae symudiad yn y gweithlen cynnig buddion i'r gweithiwr a'r cyflogwr
- Datblygu dealltwriaeth o'n perthynas 但 symudiad a
- gweithgarwch corfforol
- Myfyrio ar ddiwylliant eich gweithle a gwerthusoi effaith ar symudiad
- Dechrau datblygu dealltwriaeth o sut y gall COM-B lywior ffordd yr ydym yn dylanwadu ar gydweithwyr i symud mwy a herio diwylliant eisteddog yn y gweithle
Gweithdy 2:
- Ailymweld 但 negeseuon allweddol o weithdy 1.
- Datblygu r担l Hyrwyddwyr Gweithle Egn誰ol.
- Datblygu eich dealltwriaeth o sut y gall fframwaith cysyniadol Llythrennedd Corfforol ar model COM-B lywio eich strategaeth, eich ymddygiad ach dull o hyrwyddo diwylliant o symudiad a gweithgarwch corfforol yn y gweithle.
- Dod yn gyfarwydd 但'r adnoddau sydd ar gael.
Cost y Cwrs
Cost y gweithdy ar-lein hwn yw 贈225
Gwneud Cais
Nid oes dyddiad penodol ar gyfer y cwrs hwn eto. Cofrestrwch eich diddordeb trwy gwblhaur ffurflen isod a byddwn mewn cysylltiad yn fuan.