Croeso i’r Adran Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø. Fel Pennaeth dros dro, rwy'n falch iawn o'ch croesawu i Fangor ac yn credu'n wirioneddol y byddwch yn cael amser anhygoel yma. Rydym yn un o'r ysgolion pennaf yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd. Mae ein hymchwil sydd gyda’r gorau yn y byd yn cwmpasu perfformiad elît, lles seicolegol, a ffisioleg ddynol gymhwysol, ac yn parhau i gael effaith yn y byd go iawn. Rydym hefyd yn falch o'n rhagoriaeth mewn addysgu a dysgu, sy'n cael ei chydnabod yn yr un modd yn genedlaethol ac yn fyd-eang, ac rydym wrth ein bodd eich bod wedi ein dewis ni i ddatblygu eich hyfforddiant academaidd, proffesiynol a galwedigaethol.
Rydym yn ymwybodol bod hwn yn gyfnod hynod o bwysig i chi. Rydych chi'n dechrau ar gyfnod cyffrous yn eich taith bywyd ac yn dechrau cwrs astudio newydd a fydd yn cynnwys nifer o newidiadau a chyfnodau pontio. Mae'n eithaf normal gweld y posibilrwydd hwnnw’n gyffrous ac yn frawychus. Fodd bynnag, gallaf ddweud yn onest bod ein staff yn hynod gyfeillgar, ac rydym yn ymfalchïo yn ein gallu i gynnig pecyn cefnogaeth bugeiliol/personol helaeth i chi. Os oes gennych unrhyw bryderon neu broblemau, neu os ydych yn teimlo'n ansicr ynglŷn â'ch teimladau, yna cysylltwch â'ch tiwtor personol cyn gynted â phosibl. Rydym i gyd yma i'ch helpu i ymgartrefu yn y brifysgol.
Mae ein rhaglen Wythnos Groeso wedi ei chynllunio i roi cefnogaeth ac arweiniad ac mae’n cynnwys amrywiaeth o sesiynau a gweithgareddau gyda’r bwriad o’ch helpu i ymgyfarwyddo â’ch amgylchedd newydd. Byddwch yn cael sesiwn ragarweiniol, digwyddiadau cymdeithasol a chyfleoedd i gwrdd â'ch tiwtor personol a all ateb unrhyw gwestiynau fydd gennych am eich rhaglen astudio.
Fel adran rydym wedi ymrwymo i addysgu pobl a fydd yn cyfrannu at gymdeithas y dyfodol ac yn ei harwain. Rydym hefyd wedi ymrwymo i hyrwyddo a gwella cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod eich amser ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø yn bleserus ac yn drawsnewidiol. Rwy’n hyderus y bydd eich profiad yn dylanwadu ar eich bywyd ac yn eich galluogi i gael effaith gadarnhaol ar gymdeithas ac ar fywyd pobl eraill ar ôl i chi cwblhau eich astudiaethau.
Edrychaf ymlaen yn fawr iawn at eich cyfarfod chi yn yr wythnosau nesaf.
Dymuniadau gorau,
Yr Athro James Hardy
Pennaeth Dros Dro