Byddwn yn croesawu Caradoc Jones i Brifysgol Âé¶¹Íø i draddodi darlith gyhoeddus fel rhan o Å´yl Wyddoniaeth Âé¶¹Íø.
Bydd Caradoc Jones, sydd wedi graddio mewn Bioleg Môr / Eigioneg o Brifysgol Âé¶¹Íø, yn crynhoi ei deithiau a'i brofiadau hyd yn hyn. O weithio fel Harbwrfeistr cyntaf De Georgia ar ôl Rhyfel y Falklands i fod y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest. Bydd Caradoc Jones yn ceisio gwneud rhyw synnwyr o’r hyn sydd i’w ddisgwyl yn y dyfodol wrth drafod ei daith hir a throellog twy wyddor môr a mynydda a gychwynnodd ym Mangor.
Caradoc 'Crag' Jones oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd copa Everest ym mis Mai 1995 yn 33 oed. Graddiodd gyda gradd BSc ym Mioleg y Môr ac Eigioneg ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø ym 1982. Ar ôl y ddringfa fawr, daeth yn boblogaidd fel cyflwynydd rhaglenni teledu i ddringwyr ifanc ac wrth gefnogi grwpiau dringo a cherdded yng Nghymru. Ar hyn o bryd mae Crag yn gweithio fel ymgynghorydd pysgodfeydd. Mae’n parhau i ddringo a theithio ac mae hefyd yn mwynhau rasio beiciau mynydd i lawr allt.
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.
Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y ddarlith.
Ffordd y Coleg, Prifysgol Âé¶¹Íø, LL57 2DG