Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:
Myfyrwraig yn darllen llyfr yn y llyfrgell

Dulliau Lefel Uwch o Greu Diwylliant Dysgu GWEITHDY YM MAES Y GWYDDORAU IECHYD A MEDDYGAETH

Bydd y gweithy hwn yn eich cyflwyno i'r prif gysyniadau wrth greu diwylliant dysgu, ac yn rhoi cyfle i chi archwilio'r pwnc trwy ystyried astudiaethau achos o'r byd go iawn.

Dr. Loreli Jones

A headshot of Dr. Loreli

 

Rwy'n anthropolegydd meddygol ac yn Uwch Ddarlithydd mewn Trefniadaeth a Llywodraethiant Gofal Iechyd yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.

Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar drefniadaeth gofal iechyd, gwybodaeth, proffesiynau ac arferion gofal. Mae fy meysydd arbenigedd yn cynnwys ansawdd a diogelwch gofal ysbyty;

arweinyddiaeth feddygol, arloesi, a newid sefydliadol; arweinyddiaeth systemau, cydweithredu, a gofal integredig; a gweithredu polisi.  
Mae fy ymchwil yn amlddisgyblaethol a thrawsgymhwysol (rhoi theori ar waith). Rwy’n gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddatblygu gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

a gwasanaethau yng Ngogledd Cymru a chyfrannu at ddysgu rhyngwladol. Rwy’n Gymrawd y Sefydliad Anthropolegol Brenhinol, yn Gymrawd yr Academi Addysg Uwch,

yn Gymrawd Crwsibl Cymru, yn aelod o Fwrdd Ymgynghorol Golygyddol yr International Journal of Health Governance, yn aelod gweithredol o'r Gymdeithas Astudiaethau Trefnu Gofal Iechyd,

ac yn aelod o'r Pwyllgor Gwyddonol ar gyfer y gynhadledd ryngwladol ar Ymddygiad Sefydliadol mewn Gofal Iechyd.