Ysgrifennydd y Brifysgol
Gwenan Hine

Ysgrifennydd y Brifysgol
Main Arts, Âé¶¹Íø
Gwenan sydd â goruchwyliaeth strategol ar bob agwedd ar lywodraethu’r Brifysgol gan gynnwys y Cyngor, y Senedd, y Llys, y Bwrdd Gweithredol a holl Is-bwyllgorau’r Cyngor. Yn ogystal, mae’n arwain Swyddfa’r Bwrdd Gweithredol, darparu gwasanaethau cyfreithiol, cydymffurfio â chontractau a gwybodaeth, diogelu ac Atal, ymddygiad a chwynion myfyrwyr, Graddau er Anrhydedd, llywodraethu ymchwil, moeseg, ordinhadau, rheoliadau a pholisïau.

Sera Whitley
Cynorthwyydd Gweinyddol
Prif Adeilad, Prifysgol Âé¶¹Íø
Mae Sera yn darparu cefnogaeth weithredol a gweinyddol i bortffolio Swyddfa'r Is-ganghellor a Swyddfa'r Bwrdd Gweithredol. Mae hi'n arwain y gwaith o ddarparu cefnogaeth weinyddol i'r Uwch Grŵp Arweinyddiaeth ac yn cynorthwyo gyda’r cyfarfodydd lefel uchel eraill, gan gynnwys y Cyngor ac is-bwyllgorau'r Cyngor. Mae Sera yn cydlynu ac yn rheoli gweinyddiaeth amrywiaeth o brosesau gan gynnwys penodiadau er anrhydedd a chodi baner y brifysgol er cof. Mae hi'n rheoli ac yn cynnal meddalwedd rheoli byrddau’r brifysgol, Admincontrol, ac yn datblygu'r cynnwys ar gyfer gwe-dudalennau Swyddfa'r Is-ganghellor, y Swyddfa Lywodraethu, a’r Swyddfa Gyfreithiol a Chydymffurfio.
Mae Sera yn cynorthwyo Ysgrifennydd y Brifysgol gyda’r gwaith o gynllunio ac amserlennu dyddiadur y brifysgol ac yn gweithio ochr yn ochr ag Ysgrifennydd y Brifysgol i gydlynu trefn y graddedigion er anrhydedd. Mae Sera yn cynorthwyo Pennaeth y Gwasanaethau Cyfreithiol gyda dyletswyddau gweinyddol eraill ar ran y Gwasanaethau Cyfreithiol a Chydymffurfio a hefyd yn darparu cefnogaeth weinyddol benodol i Uwch Gynorthwyydd Gweithredol yr Is-ganghellor.
Ymunodd Sera â’r brifysgol yn 2022, a hithau newydd raddio o Brifysgol Âé¶¹Íø gyda gradd dosbarth cyntaf mewn Llenyddiaeth Saesneg gydag Iaith Saesneg.
Gwasanaethau Gyfreithiol, Cydymffurffiaeth, a Chontractau
**Mae Sarah ar gyfnod mamolaeth ar hyn o bryd, cyfeiriwch eich ymholiad at contracts@bangor.ac.uk / legalservices@bangor.ac.uk fel sy’n briodol**
Sarah Riley

Pennaeth Gwasanaethau Gyfreithiol
01248 382277
Reichel, Prifysgol Âé¶¹Íø
Sarah yw’r pwynt cyswllt cyntaf i’r holl staff sydd angen cyngor cyfreithiol. Mae'n gyfrifol am roi cyngor cyfreithiol i'r brifysgol a'i his-gwmnïau, gan roi cyngor ar amrywiaeth eang o faterion sy'n rhychwantu holl weithgareddau'r brifysgol.
Mae Sarah yn gweithio'n agos gyda’r Gwasanaethau Proffesiynol eraill, yn enwedig y Gwasanaeth Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig, e.e. i sicrhau yswiriant cytundebol priodol ar gyfer gweithgareddau'r brifysgol.
Yn ogystal, Sarah yw Swyddog Diogelu Data’r brifysgol ac mae’n rheoli’r broses gydymffurfio ar wybodaeth.
Lynette Williams

Cynorthwywr Cyfreithiol a Cydymffurfio
Reichel, Prifysgol Âé¶¹Íø
Mae Lynette yn cefnogi’r Gwasanaethau Llywodraethu gyda phob agwedd ar weithgareddau sy’n ymwneud â chydymffurfio. Yn benodol, mae Lynette yn rheoli ymatebion y Brifysgol i geisiadau sy’n ymwneud â’r ddeddfwriaeth wybodaeth (gan gynnwys Rhyddid Gwybodaeth (FOI), Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol (EIR) a cheisiadau ynghylch diogelu data (SAR))) i sicrhau yr ymdrinnir â hwy’n effeithlon ac yn effeithiol yn unol â’r ddeddfwriaeth a’r canllawiau sy’n ymwneud â’r ymarfer gorau. Fel rhan o'r rôl, mae hi hefyd yn cynorthwyo'r Rheolwr Cyfreithiol a Chydymffurfio gydag achosion o dor-amodau Diogelu Data.
Mae Lynette yn goruchwylio'r gwaith o reoli a chadw cofnodion busnes priodol yn feunyddiol, gan gysylltu â staff y Brifysgol i lunio polisïau priodol i ddal gafael ar fyfyrwyr. Mae'n rhoi cyngor ac arweiniad i bob aelod o’r staff ar bob agwedd ar reoli cofnodion, eu creu a’u gwaredu, gan sicrhau bod sensitifrwydd parthed rheoli cofnodion craidd yn elfen hanfodol o’r gweithgareddau beunyddiol yn ogystal â gwarchod cof corfforaethol a threftadaeth y Brifysgol.
Mae Lynette hefyd yn rheoli gweithrediad gwasanaeth y Ganolfan Gofnodion ar gyfer cofnodion craidd y Brifysgol fel y gall y staff ddod o hyd i’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn gyflym ac yn hawdd, a bod yr adran yn gwybod pa wybodaeth sydd ganddi a ble y mae, ei bod yn cadw’r wybodaeth sydd ei hangen arni yn unig, ac yn storio ei gwybodaeth yn effeithlon ac yn ddiogel.
Mae Lynette yn gweithio'n rhan-amser i'r Swyddfa ac mae ar gael ar foreau Llun, Mawrth a Mercher. Hi hefyd yw Uwch Archifydd y Brifysgol.
Sinead Owen
Swyddog Contractau
Reichel, Prifysgol Âé¶¹Íø
Mae Sinead yn cynnig cefnogaeth i ymchwilwyr a staff eraill yn y brifysgol sydd angen ystod eang o gytundebau contractol, a all gynnwys Cytundebau Cydweithio, Cytundebau Cyfrinachedd, Cytundebau Trosglwyddo Deunydd, Cytundebau Rhannu Data, Cytundebau Efrydiaeth, a chytundebau eraill sy’n ymwneud â gweithgareddau masnacheiddio, ymchwil ac arloesi’r Brifysgol. Gall Sinead gynorthwyo gyda drafftio, adolygu, negodi, yn ogystal â'r broses weithredu derfynol. Mae Sinead yn cysylltu’n rheolaidd â thîm Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig y Brifysgol, yn ogystal â’r academyddion, i sicrhau bod pob cytundeb contractol yn adlewyrchu cost y project yn gywir, yn ogystal â chynghori ar fudd a risg i’r Brifysgol.
Ar hyn o bryd, mae Sinead yn aelod o CILEX ar lefel ACILEX (Paragyfreithiol).
Llywodraethu Ymchwil a Moeseg:
Colin Ridyard

Uwch Swyddog Polisi a Llywodraethu Ymchwil
Reichel, Prifysgol Âé¶¹Íø
Mae Colin yn arwain y Brifysgol o ran moderneiddio a diweddaru llywodraethu ymchwil a phrosesau moesegol, gan ddarparu cyngor a datblygu arweiniad i golegau ar foeseg, moeseg ymchwil, llywodraethu ymchwil a materion uniondeb. Gan reoli trwyddedau perthnasol i ymchwil y Brifysgol mewn perthynas â'r Ddeddf Meinweoedd Dynol a'r Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol), mae Colin hefyd yn gyfrifol am reoli fframwaith polisi corfforaethol y Brifysgol a sicrhau bod pob polisi'n cwrdd ag anghenion nodau ac amcanion strategol y Brifysgol a bod pob un yn cyd-fynd â Chynllun Strategol y Brifysgol. Mae Colin hefyd yn rheoli'r rheoliadau academaidd, codau ymarfer, a threfnau'r Brifysgol. Mae'n Ysgrifennydd Pwyllgor Rheoliadau ac Achosion Arbennig y Senedd.