Llongyfarchiadau ar eich cynnig o le ym Mhrifysgol 鶹
Croeso i'n hyb deiliad cynigion Fferylliaeth a Ffarmacoleg.
Rydyn ni wedi creu'r tudalennau hyn i rannu gwybodaeth fanylach am yr hyn sy'n gwneud astudio ym Mangor yn unigryw ac i'ch helpu chi i wneud y penderfyniad pwysig o ble rydych chi'n mynd i astudio.
Os ydych wedi derbyn eich cynnig rydym yn gyffrous iawn i obeithio eich croesawu i Fangor ym mis Medi a dymuno pob lwc i chi gydag unrhyw arholiadau a gwaith cwrs yr ydych yn astudio ar eu cyfer.
Os ydych chi'n dal i ystyried eich opsiynau gwnewch yn siŵr eich bod chi'n edrych ar ein holl gynnwys ar y dudalen hon i'ch helpu chi i benderfynu ai 鶹 yw'r lle i chi ac mae croeso i chi gysylltu os oes gennych chi unrhyw gwestiynau.
Oeddech chi'n gwybod?
O ddarganfyddiadau cyffuriau newydd i ofal cleifion, byddwch yn astudio beth sy'n gyfredol ac yn cael effaith.
Bydd eu cefnogaeth a’u mentoriaeth yn eich helpu i lywio eich astudiaethau a pharatoi ar gyfer eich gyrfa mewn fferylliaeth, ffarmacoleg neu feysydd eraill.
Mae'r amgylchedd hwn yn helpu i ddod â dysgu yn yr ystafell ddosbarth yn fyw ac yn datblygu sgiliau y gallwch eu defnyddio yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Peidiwch â Methu - Digwyddiadau Holi ac Ateb Byw
Croeso, Cofrestru a Chefnogi Myfyrwyr – Sesiwn Holi ac Ateb Byw
Ddydd Iau Awst 28 am 2pm
Ymunwch â ni yn y digwyddiad arbennig hwn sy'n canolbwyntio ar Groeso, Cofrestru a Chefnogi Myfyrwyr ym Mangor. Mae'r sesiwn Cwestiwn ac Ateb byw hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i staff a myfyrwyr cyfredol am ddechrau yn y brifysgol, y broses gofrestru a pha gefnogaeth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol 鶹. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi am 2yp ddydd Iau, 28 Awst i gymryd rhan.
Llety - Sesiwn Holi ac Ateb Byw
Dydd Iau, 4 Medi am 10am
Ymunwch â ni yn y digwyddiad arbennig hwn sy'n canolbwyntio ar Lety ym Mangor. Mae'r sesiwn Cwestiwn ac Ateb byw hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i staff a myfyrwyr cyfredol am symud i mewn i a byw mewn Llety Prifysgol 鶹. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi am 10yb ar ddydd Iau, 4 Medi i gymryd rhan.
Neges gan yr Athro Dyfrig Hughes
Dyfrig Hughes ydw i, dwi'n athro yma yn Prifysgol 鶹 a dwi'n dysgu ar y cyrsiau Fferylliaeth a Ffarmacoleg.
Dwi'n hynod falch eich bod wedi cael cynnig, lle yma i astudio ym Mhrifysgol 鶹 a dwi'n fawr obeithio y byddwch yn derbyn y cynnig, a pob llongyfarchiadau mawr i chi a pob dymuniadau da ar eich arholiadau i ddod.
Cwrdd â'r Darlithwyr
Os dewiswch astudio gyda ni ym Mangor byddwch yn cael eich dysgu gan bobl sy'n angerddol am eu pynciau. Isod gallwch ddod i adnabod rhai o'r darlithwyr allweddol a fydd yn rhan o flynyddoedd cyntaf eich gradd.
Ydych chi'n ymuno â ni drwy Glirio neu Extra?
Rydych chi mewn cwmni da. Mae llawer o fyfyrwyr yn ymuno â ni fel hyn bob blwyddyn ac yn mynd ymlaen i gael profiad anhygoel. Gall clirio ddigwydd yn gyflym, ond nid yw hynny'n golygu y cewch eich gadael ar ôl. Mae gennych chi ddigon o amser o hyd i gael trefn ar bopeth, o archebu llety i wneud ffrindiau a hyd yn oed ymweld â'r campws.
Er bod ein diwrnodau ymgeisio wedi digwydd yn y Gwanwyn, mae cyfle o hyd i chi ddod i ymweld â ni ym Mangor. Mae gennym ddiwrnod agored ddydd Sul yr 17eg o Awst lle mae croeso i ymgeiswyr hwyr ymweld ymhlith ymwelwyr ar gyfer y cylch nesaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn rhoi gwybod i'n staff eich bod yn gwneud cais ar gyfer y mis Medi hwn fel y gallant roi'r wybodaeth fwyaf perthnasol i chi.
Unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig yn UCAS gallwch ymuno ag ymgeiswyr eraill a bod yn rhan o'n cymuned myfyrwyr 鶹 hyd yn oed cyn cyrraedd! Cofrestrwch ar gyfer ein ap Campus Connect lle gallwch ofyn cwestiynau, sgwrsio â myfyrwyr presennol a gwneud ffrindiau gydag ymgeiswyr eraill ar eich cwrs ac yn eich llety dewisol. Gwiriwch eich negeseuon e-bost am eich rhif cyfeirnod Prifysgol 鶹, bydd ei angen pan fyddwch chi'n cofrestru.
Po gyntaf y gellwch gadarnhau eich bod yn derbyn eich lle Clirio ym Mangor, cyntaf i gyd y gellwch wneud eich cais am lety. Os ydych ym ymgeisio drwy Clirio am gwrs sydd wedi ei lleoli ar ein campws ym Mangor, rydym yn sicrhau y cewch chi ystafell yn ein neuaddau preswyl cyn belled a'ch bod chi'n dewis Prifysgol 鶹 ar UCAS erbyn Dydd Iau, 28 Awst ac yn archebu eich ystafell erbyn Dydd Llun, 1 Medi. Pan fyddwch wedi dewis Prifysgol 鶹 ar UCAS, a rydym wedi prosesu a chadarnhau eich lle yn swyddogol trwy UCAS, anfonir e-bost* atoch gyda manylion ar sut i wneud cais am lety. Fel arfer, anfonir yr e-bost atoch 24-48 awr ar ôl i chi ddewis Prifysgol 鶹 ar UCAS.
Sgwrsio â Myfyrwyr a Staff
Oes gennych chi gwestiynau mwy penodol neu eisiau sgwrsio â'n myfyrwyr presennol? Gofynnwch unrhyw beth iddynt am y cwrs, bywyd campws, neu ymgartrefu. Maen nhw wedi bod yn eich esgidiau ac yn hapus i helpu ar Unibuddy.
Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Dilynwch ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael cipolwg ar fywyd ym Mangor - straeon myfyrwyr, digwyddiadau campws, a phopeth sy'n gwneud astudio yma yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru yn unigryw!
Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw ymarferol labordy? 🥼 Cyfle i gael cipolwg ar ein myfyrwyr blwyddyn gyntaf o'r Gwyddorau Meddygol, Gwyddor Biofeddygol a Ffarmacoleg yn cynnal ymchwiliad ymarferol gan ddefnyddio madarch 🍄 Ever wondered what a lab practical is ACTUALLY like? 🥼 Have a peek at our first year students from Medical Sciences, Biomedical Science and Pharmacology undertaking an investigation practical using mushrooms 🍄