





Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Gwleidyddiaeth yma ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Yn yr ysgol rydym yn cynnal nosweithiau pitsa, cwis a mynd ar dripiau allan i lefydd gwahanol, yn ddiweddar aethom ar drip i farchnad Nadolig Manceinion.
Ddydd Iau Awst 28 am 2pm
Ymunwch â ni yn y digwyddiad arbennig hwn sy'n canolbwyntio ar Groeso, Cofrestru a Chefnogi Myfyrwyr ym Mangor. Mae'r sesiwn Cwestiwn ac Ateb byw hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i staff a myfyrwyr cyfredol am ddechrau yn y brifysgol, y broses gofrestru a pha gefnogaeth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi am 2yp ddydd Iau, 28 Awst i gymryd rhan.
Dydd Iau, 4 Medi am 10am
Ymunwch â ni yn y digwyddiad arbennig hwn sy'n canolbwyntio ar Lety ym Mangor. Mae'r sesiwn Cwestiwn ac Ateb byw hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i staff a myfyrwyr cyfredol am symud i mewn i a byw mewn Llety Prifysgol Âé¶¹Íø. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi am 10yb ar ddydd Iau, 4 Medi i gymryd rhan.
Helo Llongyfarchiadau mawr i chi, fy enw i ydi Dr Mari Wiliam ac rwy'n ddarlithydd Hanes Modern yma ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.
Fel rhan o hyn rwy'n cyfrannu at nifer o fodiwlau Gwleidyddiaeth ni'r modiwlau sydd ar gael ar ein cwrs gradd Gwleidyddiaeth, a dwi'n meddwl rhan nodedig o'n cwrs gradd Gwleidyddiaeth ni ydi pa mor rhyngddisgyblaethol ydi o, rydym ni'n ffeindio synthesis rhwng gwahanol feysydd fel Hanes, Cymdeithaseg, Athroniaeth, Astudiaethau Cyfryngau a'r Gyfraith.
Felly mae yna ddarpariaeth eang iawn i chi sydd yn eich gwreiddio chi mewn dealltwriaeth o wahanol fathau o Wleidyddiaeth, achos mae Gwleidyddiaeth yn derm eang mae o yn gallu golygu lot o bethau ond beth sydd yn bwysig ydi eich bod yn cael eich yn y cwrs Gwleidyddiaeth yma ym Mangor efo dealltwriaeth o gymdeithas gyfredol a digwyddiadau cyfredol yn y newyddion ac mewn Gwleidyddiaeth byd eang.
Bydd wythnos arferol yn cynnwys mynychu’r darlithoedd a’r seminarau ar gyfer pob un o’r 3 modiwl y byddwch yn eu hastudio ym mhob semester. Bydd darlithoedd yn cyflwyno pynciau tra bod seminarau’n rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod gwaith darllen gosod a gweithgareddau ymchwil. Byddwch hefyd yn treulio amser yn y llyfrgell neu fannau astudio, yn paratoi at ddosbarth neu'n gweithio ar aseiniadau.
Tua 6-10 awr yr wythnos yn dibynnu ar y modiwl a ddewiswch. Mae rhai wedi eu strwythuro'n wahanol felly efallai y bydd dosbarthiadau’n wythnosol.
Byddwch yn siapio'ch gradd trwy'r modiwlau a ddewiswch. Mae modd canolbwyntio ar hanes gwleidyddol, athroniaeth wleidyddol a syniadau, neu gymryd diddordeb penodol mewn materion polisi cymdeithasol.
Byddwch hefyd yn datblygu nifer o sgiliau yn y modiwlau y byddwch yn eu hastudio. Byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a sgiliau dadansoddi ffynonellau’n feirniadol, ochr yn ochr â chyfathrebu ysgrifenedig a chyfathrebu llafar trwy gyflwyno asesiadau a chymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth. Yn bwysicach na dim, byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a'ch ymwybyddiaeth o faterion gwleidyddol ac yn gwerthuso'n feirniadol sut mae'r llywodraeth a sefydliadau eraill yn gweithredu.
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor? Mae ein llysgenhadon yn barod i’ch helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?