Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø
Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i astudio ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø! Rydym wrth ein bodd eich croesawu i'n cymuned. Cadwch mewn cysylltiad trwy'r cyfryngau cymdeithasol lle cewch y newyddion a'r digwyddiadau diweddaraf. Edrychwn ymlaen at eich cyfarfod yn fuan ac rydym yn dymuno'r gorau wrth i chi baratoi am ddod yma.
Peidiwch â Methu - Digwyddiadau Holi ac Ateb Byw
Croeso, Cofrestru a Chefnogi Myfyrwyr – Sesiwn Holi ac Ateb Byw
Ddydd Iau Awst 28 am 2pm
Ymunwch â ni yn y digwyddiad arbennig hwn sy'n canolbwyntio ar Groeso, Cofrestru a Chefnogi Myfyrwyr ym Mangor. Mae'r sesiwn Cwestiwn ac Ateb byw hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i staff a myfyrwyr cyfredol am ddechrau yn y brifysgol, y broses gofrestru a pha gefnogaeth sydd ar gael i chi fel myfyriwr ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi am 2yp ddydd Iau, 28 Awst i gymryd rhan.
Llety - Sesiwn Holi ac Ateb Byw
Dydd Iau, 4 Medi am 10am
Ymunwch â ni yn y digwyddiad arbennig hwn sy'n canolbwyntio ar Lety ym Mangor. Mae'r sesiwn Cwestiwn ac Ateb byw hwn yn gyfle i chi ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i staff a myfyrwyr cyfredol am symud i mewn i a byw mewn Llety Prifysgol Âé¶¹Íø. Gwnewch yn siŵr eich bod yn mewngofnodi am 10yb ar ddydd Iau, 4 Medi i gymryd rhan.
Gwyliwch ein fideo
Rhestr Ddarllen Gwyddorau'r Eigion
Cymerwch olwg ar y rhestr ddarllen a argymhellir a thestunau craidd ar gyfer myfyrwyr sy'n astudio gradd gydag Ysgol Gwyddorau'r Eigion, Prifysgol Âé¶¹Íø.