Mae Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas yn falch iawn o ddathlu llwyddiant nodedig yng Ngwobrau Llais y Myfyrwyr a Gwobrau Addysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr eleni, a gynhaliwyd nos Iau, 8 Mai 2025, yn Neuadd Powis. Mae’r gwobrau hyn, a drefnir gan Undeb y Myfyrwyr ac sy’n seiliedig ar enwebiadau gan fyfyrwyr, ymhlith yr anrhydeddau uchaf i staff a myfyrwyr ledled y brifysgol – gan gydnabod addysgu eithriadol, cefnogaeth ragorol, a chyfraniadau cadarnhaol i brofiad ehangach y myfyrwyr.

Mewn blwyddyn arbennig i'r Ysgol, cafwyd llwyddiannau niferus, gan amlygu’r effaith, y gofal, a’r dyfeisgarwch sydd wrth galon ein cymuned academaidd.
Derbyniodd Lily Williams-Shannon, myfyrwraig trydedd flwyddyn ar y rhaglen BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, Wobr Dewis y Staff – anrhydedd arbennig a roddir gan staff academaidd i fyfyriwr sy’n cyfrannu’n eithriadol at fywyd academaidd a chymunedol yr Ysgol. Canmolwyd Lily am ei hymroddiad, ei mewnwelediad beirniadol, a’i harweinyddiaeth ysbrydoledig.
Yn y categorïau addysgu, enillodd Rachel Healand-Sloan (PhD mewn Athroniaeth) Wobr Myfyriwr Ôl-radd sy’n Addysgu, yn gydnabyddiaeth am ei dull ysbrydoledig sy’n canolbwyntio ar y myfyriwr wrth addysgu athroniaeth. Derbyniodd Dr Leona Huey Wobr Cefnogaeth Bugeiliol Eithriadol, yn dyst i’w gofal dosturiol a’i chefnogaeth ddiwyro i fyfyrwyr sy’n wynebu heriau.
Roedd Dr Joshua Andrews yn arbennig o nodedig eleni, gan gipio dwy wobr: Gwobr Llais y Myfyrwyr, am ei ymrwymiad i wrando ar fyfyrwyr, eu grymuso, a gweithredu ar eu hadborth; a Goruchwyliwr Traethawd Hir y Flwyddyn, am ei arweiniad ysbrydoledig sy’n galluogi myfyrwyr i gyflawni eu potensial llawn yn academaidd.
Roedd eraill o'r Ysgol hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer – tystiolaeth bellach o'r gwaith rhagorol sy'n digwydd ar draws ein hadrannau. Ymhlith y rhai a gafodd eu henwebu roedd::
- Daniel Awuku-Asare (LLB y Gyfraith), am Wobr Rhwydwaith, a oedd yn cydnabod ei gyfraniad gwych at adeiladu cymuned ac arloesedd ymhlith myfyrwyr.
- Duncan McLeod (PhD mewn Athroniaeth), a gyrhaeddodd y rhestr fer ar gyfer Gwobr Myfyriwr Ôl-radd sy’n Addysgu, a hynny am ei ddull rhagorol o feithrin chwilfrydedd deallusol.
- Cyrhaeddodd Dr Gareth Evans-Jones restr fer Athro’r Flwyddyn a Gwobr Addysg Gymraeg, yn gydnabyddiaeth am ei gyfraniad a’i ddull tuag at addysg ddwyieithog a chefnogaeth i fyfyrwyr.
- Roedd Dr Joshua Andrews hefyd ar y rhestr fer ar gyfer Athro’r Flwyddyn, gan ategu’r gydnabyddiaeth eang o’i ragoriaeth.
Dywedodd Yr Athro Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas: "Rwy’n hynod falch o lwyddiannau nodedig ein staff a’n myfyrwyr yng Ngwobrau Llais y Myfyrwyr a Gwobrau Dysgu Dan Arweiniad Myfyrwyr eleni. Mae’r gwobrau a’r enwebiadau hyn yn dyst i’r angerdd, yr ymroddiad a’r gofal sy’n diffinio ein Hysgol. Mae’n galonogol iawn gweld ein myfyrwyr nid yn unig yn derbyn cefnogaeth ond hefyd yn cael eu cydnabod am eu cyfraniadau eithriadol i addysgu, cymuned, rhwydweithio a bywyd academaidd. Yn yr un modd, mae ein staff wedi cael eu cydnabod yn briodol am eu haddysgu ysbrydoledig, eu cefnogaeth bersonol, a’u hymrwymiad i lais y myfyrwyr ac addysg drwy’r Gymraeg. Mae’r llwyddiannau hyn gyda’i gilydd yn adlewyrchu’r gymuned ddysgu fywiog, gynhwysol a chydweithredol rydym yn ceisio’i chynnal yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas. Llongyfarchiadau i bawb a enillodd ac a gyrhaeddodd y rhestr fer – rydych chi’n glod i’ch disgyblaethau ac i’r Ysgol yn ei chyfanrwydd."
Llongyfarchiadau mawr i bawb a gafodd eu henwebu ac a enillodd. Mae eich llwyddiannau’n ysbrydoledig ac yn haeddiannol iawn.