Mae Jason Bray, gweinidog ymwared a ordeiniwyd yn arbennig ar gyfe esgobaeth Llandaf, yn gweithio gyda phobl sy’n cael eu cystuddio gan aflonyddwch paranormal ac yn delio â phob math o gyfarfyddiadau goruwchnaturiol, o helbulon, ysbrydion, a melltithion i feddiannau cythreulig posibl. Mae wedi trafod ei brofiadau trawiadol o weithio ar y rheng flaen yn ei lyfr, Deliverance (Coronet 2021) – sydd wrthi’n cael ei addasu’n gyfres deledu – ac ar soffa rhaglen ITV, This Morning. Efallai eich bod wedi gweld ei ymddangosiad cameo yn y gyfres Netflix, Welcome to Wrexham, pan ymwelodd Ryan Reynolds a Rob McElhenney â San Silyn, Eglwys Blwyf hanesyddol Wrecsam, lle bu’r Parch Bray yn gwasanaethu nes dod yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Llandaf ym mis Medi eleni. Gadawodd y ddwy seren Hollywood gyda chopïau o lyfr y gweinidog wedi’u llofnodi.
Cafodd myfyrwyr ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø gyfle i ddysgu am ei brofiadau yn uniongyrchol fel rhan o’u hastudiaethau ysgolheigaidd ar y pwnc, a bydd y Parch Bray yn dychwelyd i siarad â’r garfan nesaf o fyfyrwyr ar y modiwl, ‘Exorcism’.
Dywedodd yr Athro Lucy Huskinson, sy’n goruchwylio’r modiwl, ‘Exorcism’:
“Mae adroddiadau am ysbrydion a chythreuliaid wedi swyno’r dychymyg poblogaidd ar hyd yr oesoedd, ac nid yw'n ymddangos bod ein diddordeb yn lleihau. Mae’r modiwl a addysgir, ‘Exorcism’, yn denu myfyrwyr o bob math o gefndiroedd a disgyblaethau pwnc, y tu hwnt i Athroniaeth, Moeseg, a Chrefydd. Er bod rhai yn awgrymu bod ymwared oddi wrth ysbrydion drwg ar gynnydd, mae eraill yn honni bod endidau demonig yn fynegiant symptomatig o salwch meddwl a dylid eu trin felly. Ond a yw mor hawdd gwahaniaethu rhwng ysbrydion trafferthus a thrallod seicolegol? A ydym yn ddoeth i dybio y dylai pob ‘ysbryd’ gael ei ddileu? A pham bod pobl yn cael eu swyno cymaint gan enghreifftiau posib o ysbrydion a chythreuliaid? Mae ein myfyrwyr yn mwynhau’r cyfle i archwilio’r mathau hyn o gwestiynau, a hwythau’n tueddu i wneud hynny gyda meddwl agored wrth archwilio damcaniaethau ac astudiaethau achos o ysbryd meddiant ar draws traddodiadau seciwlar a chrefyddol. I’r perwyl hwnnw, yr ydym yn hynod ffodus i gael y Parch. Ganon Dr Jason Bray yn siaradwr gwadd ar ein modiwl poblogaidd, ‘Exorcism’, er mwyn trafod rhai o’r mythau am y pwnc, gan adael myfyrwyr â’u llygaid yn lled agored. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â Jason eto, ar gyfer y garfan nesaf o fyfyrwyr brwd sydd eisiau darganfod mwy am y pwnc hynod ddiddorol a real hwn.â€

Ychwanegodd yr Athro Peter Shapely, Pennaeth Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas:
“Rydym bob amser yn awyddus i wahodd siaradwyr gwadd o’r safon hon i’n modiwlau a addysgir gan y gall eu profiadau fod yn amhrisiadwy a chyfoethog i addysg y myfyrwyr. Mae’r Parch. Dr Jason Bray yn un o’r siaradwyr mwyaf cyffrous a deniadol y gallem ei gael. Mae ein myfyrwyr yn mwynhau’r modiwl hwn yn fawr ac mae sgyrsiau Jason Bray yn rhoi deunydd gwych iddynt ei ystyried a’i ddadansoddi yn eu hastudiaethau.â€
Wrth fyfyrio ar y sgwrs wadd, dywedodd Millie Carman, myfyrwraig BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, yn ei hail flwyddyn:
“Roedd sgwrs yr exorcist yn gyfle anhygoel. Roedd clywed adroddiadau uniongyrchol nid yn unig yn cefnogi’r hyn yr oeddem wedi’i ddysgu yn y dosbarth, ond hefyd yn herio fy nealltwriaeth o’r byd anweledig, yn enwedig pan soniodd am ei brofiadau ei hun o weithgarwch poltergeist! Roedd yn brofiad unigryw a bythgofiadwy.â€
Ac roedd ein myfyrwraig BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd sydd yn ei thrydedd flwyddyn, Gemma Waite, o farn debyg:
“Roedd gwrando ar sgwrs y gweinidog ymwared yn brofiad cyfareddol a chythryblus. Roedd ei sgwrs yn llawn o'i brofiadau ei hun, ond yn dangos agwedd ag iddi fymryn o amheuon a oedd yn ddiddorol i mi, gan ei fod yn gwneud y cyfan yn realistig wrth iddo ddangos nad oedd pob profiad yn brofiad y byd ysbrydol mewn gwirionedd! Roedd pob naratif yn teimlo fel cipolwg ar y tiroedd anweledig, ac fe’m gadawodd yn chwilfrydig! Y rhan fwyaf diddorol oedd ei brofiad yn sôn am y teimlad oer pan fo’r ysbryd yn bresennol a’r ystafell yr oeddem ynddi’n hollol rynllyd, er efallai mai felly roedd pethau am ei bod yn fis Rhagfyr!â€
Am ragor o wybodaeth ynghylch y sgwrs neu’r modiwl arbennig yma, cysylltwch ag: Yr Athro Lucy Huskinson (l.huskinson:bangor.ac.uk).