Y Barnwr Dr Zhen TangÂ
Bydd rhai ohonom yn adnabod Dr Tang ers iddo fod yn Ysgolor Chevenaidd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, gan astudio ein LLM arbenigol mewn Deddfwriaeth Eiddo Deallusol (a llwyddo â Rhagoriaeth). Rydym yn falch i gyhoeddi bod Dr Tang yn awyddus i barhau ei gysylltiad a’i ymchwil gyda ni, a bydd yn dod yn Gydymaith Ymchwil er Anrhydedd.

Bu Dr Tang yn Farnwr Llywyddol (Adran Eiddo Deallusol) ar Lys Canolog y Bobl yn Shanghai o 2010; ac ers Ionawr 2018, mae wedi bod yn Ddirprwy Brif Farnwr (Adran Eiddo Deallusol) ar Uchel Lys Pobl yn Shanghai.
Astudiodd Dr Tang y Gyfraith ym Mhrifysgol Shanghai, Prifysgol Gwyddoniaeth Wleidyddol a’r Gyfraith Dwyrain Tsieina, ac enillodd ei PhD gan Brifysgol Zheijang. Ers 2016, mae wedi bod yn Diwtor y Gyfraith Rhan-amser ym Mhrifysgol Jiatong, Prifysgol Tongji, a Phrifysgol Gwyddoniaeth Wleidyddol a’r Gyfraith Dwyrain Tsieina. Mae hefyd yn oruchwyliwr yng Nghanolfan Hyfforddi Barnwyr Shanghai.
Mae Dr Tang yn gyfrifol am bob math o achosion cyfraith eiddo deallusol, gan gynnwys patentau, hawlfraint, nodau masnachu, ac anghydfodau cystadleuaeth annheg. Mae wrthi’n ymchwilio amddiffyniad cyfrinachau masnach a monopolïau platfform rhwydweithiol yn Tsieina. Drwy ei ymchwil, mae’n gobeithio cryfhau ei gyfnewidia â’i wrthrannau Prydeinig, ynghyd â hyrwyddo cyfnewidiad diwylliant barnwrol Tsieineaidd a Phrydeinig. Gweler wrth y neges hon lun o Dr Tang ac un ohono gyda’r Arglwydd Farnwr Hacon, Barnwr Llywyddol Llys Menter Eiddo Deallusol yn Adeilad Rolls Llundain.
Gellir cysylltu â Dr Tang drwy ebostio t.zhen@bangor.ac.uk.