Ar y cyd â CBAC, cynhaliom Gynhadledd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch rhad ac am ddim i gefnogi athrawon a chynghorwyr o ysgolion a cholegau ledled Cymru. Mae adnoddau o'r digwyddiad hwn bellach ar gael i'w lawr lwytho, llenwch y ffurflen hon i gael mynediad i'r ddolen os gwelwch yn dda. Gweler isod hefyd ganllawiau ychwanegol gan CBAC ar ddefnyddio'r adnoddau hyn.
“Yn y gynhadledd Bagloriaeth Sgiliau Cymru Uwch a gynhaliwyd gan Brifysgol Âé¶¹Íø ar y 5ed o Orffennaf, rhoddwyd cyflwyniadau a dangoswyd adnoddau yr ydym y teimlwn y gallai Cydlynwyr AdvSBW elwa ohonynt. Mae’r Brifysgol a’r cyflwynwyr wedi bod mor garedig â rhannu’r rhain gyda ni ac maent i’w cael yma.
Darperir y cyflwyniadau hyn yn eu cyfanrwydd, ond isod ceir rhagarweiniad cyflym o'r hyn y mae pob un yn ei gwmpasu ac uchafbwyntiau penodol y credwn a allai fod fwyaf o fudd yn yr ystafell ddosbarth fel rhan o raglen Addysgu a Dysgu. Rydym yn gobeithio y byddwch yn eu cael yn ddefnyddiol.â€
Cyflwyniad a chyflwynydd |
Crynodeb o'r Cynnwys |
Uchafbwyntiau ar gyfer yr Ystafell Ddosbarth |
Pam mae prifysgolion a chyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau? Sut i argyhoeddi dysgwyr. Claire Brass |
Mae Rheolwr Cyflogadwyedd y Brifysgol yn disgrifio sut maen nhw'n pwysleisio i fyfyrwyr sut mae cyflogwyr yn gwerthfawrogi sgiliau ochr yn ochr â gwybodaeth. Sut y bydd sgiliau yn rhan uniongyrchol o'r broses recriwtio graddedigion, gan gynnwys Canolfannau Asesu.
Gweithgareddau y maent yn eu defnyddio gyda myfyrwyr i'w hargyhoeddi o bwysigrwydd sgiliau.
Arolwg Sgiliau a Recriwtio i Raddedigion sy'n cynnwys data diweddar, gan ddangos yn uniongyrchol bwysigrwydd sgiliau i ystod eang o ddiwydiannau. |
·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Gweithgareddau posibl i'w defnyddio gyda dysgwyr wrth drafod pwysigrwydd sgiliau (sleidiau 6 + 7) ·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Enghraifft o Ganolfannau Asesu sy'n mesur sgiliau (sleid 5) ·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Safbwynt y Brifysgol ar bwysigrwydd sgiliau (sleid 4) ·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Arolwg diweddar iawn i ddyfynnu barn cyflogwyr ar bwysigrwydd sgiliau graddedigion |
Creadigedd ac Arloesi yn y Project Unigol. Deallusrwydd Artiffisial - Ffrind neu Elyn? Peredur Williams |
Mae Darlithydd mewn Dylunio Cynnyrch yn ein tywys drwy'r diffiniadau a'r theori y tu ôl i Greadigedd ac Arloesi ac yna'n darparu pecyn cymorth i'w ddefnyddio gyda dysgwyr i ddatblygu ac arddangos C ac A.
Sut y gellid defnyddio Deallusrwydd Artiffisial, ei gyfyngiadau a'i gryfder. Ail-bwysleisio i ganolfannau fod yn ymwybodol o reoleiddio JCQ |
·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Ffeithiau dal llygaid, sgwrs TED, cartwnau ac ati i gyflwyno'r cysyniadau a'r prosesau y tu ôl i greadigedd ·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Pecyn cymorth i'w ddefnyddio yn ystod addysgu C+A, datblygu a gan y dysgwyr yn ystod asesiad ·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Profforma i ddysgwyr ei ddefnyddio i ddangos sut y gallai DA fod wedi cael ei ddefnyddio'n gyfreithlon |
Dulliau ymchwil i'w defnyddio yn y Project Unigol Elen Bonner |
Mae myfyriwr PhD o'r Ysgol Hanes, y Gyfraith a'r Gwyddorau Cymdeithasol yn mynd â chi drwy'r gwahanol ddulliau ymchwil y gallai dysgwr eu defnyddio i gwblhau eu Project Unigol |
·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Goleuni ar adnoddau cyfrwng Cymraeg a Saesneg ar gyfer y pwnc hwn ·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Yn atgyfnerthu neges ac yn rhoi syniadau ar gyfer addysgu pwysigrwydd dulliau casglu data priodol, hygrededd ffynonellau, dadansoddi data, moeseg a chyfeirio |
Rôl y Goruchwyliwr. Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig a Nodau Llesiant Cymru Prysor Williams |
Mae Uwch-ddarlithydd yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol yn cyflwyno sut mae'r brifysgol yn rheoli eu fersiwn o gyfarfodydd Goruchwylwyr a sut maent yn wahanol i rôl addysgu.
Sut mae NDCCU a NLlC wrth wraidd holl ymchwil yr Ysgol |
·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Sut y byddai prifysgol yn gwerthfawrogi dysgwyr yn deall y gwahaniaeth ac yn profi'r cymhelliant y tu ôl i'r traethawd hir yn dod oddi wrthyn nhw ac nid y goruchwyliwr. ·&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è;&²Ô²ú²õ±è; Gwerthfawrogiad o’r ffaith bod gan lawer o gyrsiau gradd NDCCU a NLlC wrth eu gwraidd. |