Âé¶¹Íø

Fy ngwlad:
Prif Adeilad y Celfyddydau a Pontio, Prifysgol Âé¶¹Íø

Iechyd a Lles Pobl Fyddar yng Nghymru

Project a ariennir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC):  Mynd i'r Afael ag Anghydraddoldebau Iechyd er Budd ac ar y Cyd â Chymunedau Byddar sy'n Defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) yng Nghymru.

 

Mae dros 4000 o bobl yng Nghymru’n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL) fel iaith gyntaf neu ddewis iaith, ond maent yn wynebu problemau niferus gydag annhegwch ac anghydraddoldebau iechyd o’u cymharu â siaradwyr Cymraeg a Saesneg.

 

  • Gwasanaethau dehongli anghyson.
  • Cyfathrebu gwael a all arwain at ddiffygion o ran diagnosis a thriniaeth. 
  • Mae pobl Fyddar mewn mwy o berygl o gael diagnosis a thriniaeth annigonol ar gyfer glefydau cronig ac maent yn dueddol o fod ag iechyd gwaeth na’r boblogaeth gyffredinol.
  • Mae pobl Fyddar hefyd ddwywaith yn fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl na’r boblogaeth gyffredinol.
  • Methu â chael mynediad llawn at y Parciau Cenedlaethol a defnyddio llwybrau’r arfordir oherwydd nad oes deunyddiau ar gael mewn BSL. 

Cyflwyniad i Brosiect Iechyd Byddar Cymru mewn BSL

Llun o berson yn gwneud iaith arwyddion
Fideo: Cyflwyniad i Brosiect Iechyd Byddar Cymru mewn BSL

Cefndir y project

Mae’r project tair blynedd hwn, sydd werth £1.04 miliwn, yn dod â thîm rhyngddisgyblaethol ynghyd sy’n cynnwys pobl sy’n defnyddio BSL a phobl sy’n gallu clywed. Daw cydweithwyr o Brifysgol Âé¶¹Íø, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Gorllewin Lloegr, Prifysgol Graz yn Awstria, Cymdeithas Pobl Fyddar Prydain, Iechyd Cyhoeddus Cymru yng Nghaerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Canolfan Sain Golwg Arwyddion ym Mae Colwyn a Chyngor Cymru i Bobl Fyddar.

Mae’r tîm yn cynnwys arbenigwyr yn y meysydd canlynol: iaith a chyfathrebu, iechyd meddwl pobl Fyddar, iechyd a lles pobl Fyddar, gwasanaethau dehongli, y gyfraith, a mynediad a lles amgylcheddol. Gan weithio gydag aelodau o’r gymuned Fyddar, byddant yn cyd-ddylunio, cyd-adeiladu a gweithredu a gwerthuso atebion sy’n cael eu harwain gan y gymuned ar gyfer eu cymunedau yng Nghymru. 

Nod y project yw gwella gwasanaethau gofal iechyd drwyddi draw trwy weithio gyda phobl Fyddar, y GIG, byrddau iechyd a darparwyr gwasanaethau eraill. Yn ogystal, byddwn hefyd yn datblygu geiriadur ac adnoddau ar-lein i helpu dehonglwyr, darparwyr gwasanaethau a'r rhai sydd â diddordeb mewn ieithoedd arwyddion ac ymchwil sy’n ymwneud ag iaith arwyddion. Rydym hefyd yn datblygu apiau canllawiau fideo i wella mynediad at Barc Cenedlaethol Eryri, Llwybr Arfordir Penfro a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

I gael rhagor o wybodaeth am y project ac ar gyfer ymholiadau gan y wasg, cysylltwch â:

Dr Christopher Shank

Sylwch fod y dudalen hon yn cael ei datblygu a bydd rhagor o wybodaeth am y project, y tîm, a’r cynlluniau estyn allan ac ymgysylltu cymunedol yn cael eu cyhoeddi yn y dyfodol agos.