Mae Swyddfa'r Bwrdd Gweithredol yn darparu cefnogaeth i holl aelodau'r Bwrdd Gweithredol. Rheolir y Swyddfa gan Ysgrifennydd y Brifysgol ac fe'i cefnogir gan dîm o Gynorthwywyr Gweithredol ac Uwch Gynorthwywyr Gweithredol.

Mae Kelly yn cefnogi’r Is-ganghellor ym mhob agwedd ar ei swyddogaeth. Mae Kelly yn gweithredu fel pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer pob ymholiad sy’n ymwneud â’r Is-ganghellor dros y ffôn a thrwy ohebiaeth ysgrifenedig/e-bost. Daw Kelly â chyfoeth o brofiad i Swyddfa’r Bwrdd Gweithredol ar ôl gweithio mewn sawl ysgol ar draws y brifysgol, gan gynnwys Ysgol Busnes Âé¶¹Íø a’r Ganolfan Prosesu Signalau Digidol. Cyn hyn, bu Kelly yn gweithio fel Cynorthwyydd Personol i’r Pennaeth yng Ngholeg Llandrillo, yn Ysgrifenyddiaeth Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ac yng Ngwasanaethau Proffesiynol y Gwasanaeth Tân.

Mae Karen yn cefnogi’r Dirprwy Is-ganghellor
), yr Athro Andrew Edwards a’r Ysgrifennydd y Brifysgol, Gwenan Hine. Dechreuodd Karen weithio ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø am y tro cyntaf yn 1996 fel Cynorthwyydd Swyddfa yn yr Ysgol Cyfrifeg, Bancio ac Economeg. Bu’n Gynorthwyydd Personol i uwch-aelodau staff y brifysgol ers dros ugain mlynedd, ar ôl gweithio i wahanol Benaethiaid Ysgolion, Penaethiaid Colegau ac yn fwy diweddar i Ddirprwy Is-gangellorion.
Cynorthwyydd Gweithredol i'r Prif Swyddog Cyllid, Prif Swyddog Gweithredu a’r Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio.
Mae Bethan yn cefnogi’r Prif Swyddog Cyllid, Mr Martyn Riddleston, Prif Swyddog Gweithredu, Mr Michael Flanagan, a'r Prif Swyddog Strategaeth a Chynllunio, Mike Wilson. Mae Bethan wedi gweithio i Brifysgol Âé¶¹Íø ers 2005, yn gweithio’n gyntaf yn y Gwasanaethau Ystadau a Champws ac yna fel Cynorthwyydd Personol i Is-gangellorion blaenorol.

Mae Donna yn cefnogi’r Dirprwy Is-ganghellor (Addysg a Phrofiad Myfyrwyr), yr Athro Nichola Callow, Diprwy Is-Ganghellor (Ymchwil), yr Athro Paul Spencer, a'r Prif Swyddog Marchnata, Mrs Patrcia Murchie. Cyn ei swydd bresennol, roedd Donna yn weinyddwr i’r GIG tra'n astudio HNC rhan-amser mewn Gweinyddu Busnes; Cynorthwyydd Personal am 20 mlynadd yn darparu cymorth cynorthwyydd personol mewn Marchnata, Celfyddydau Pontio; a Chynorthwyydd Gweithredol Cymorth i Ddeon Coleg y Gwyddorau Dynol ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, tra astudio gradd rhan-asmer.