Mae Dr Alec Moore, darlithydd mewn cadwraeth ysglyfaethwyr mwyaf y môr yn Ysgol Gwyddorau’r Eigion ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, wedi ennill cyllid gan UK Research and Innovation (UKRI) trwy gynllun peilot dull ymatebol newydd y cynghorau ymchwil (CRCRM). Mae project Dr Moore yn un o 36 o brojectau sy'n rhannu £32.4 miliwn o rownd gyntaf y cynllun, sydd wedi ei gynllunio i gefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol arloesol.
Mae'r project, dan arweiniad Dr Moore, gyda’i gyd-ymchwilwyr Jan-Geert Hiddink, Athro Bioleg y Môr a Dr Shaun Evans, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru, yn integreiddio adroddiadau hanesyddol gyda gwyddor y môr fodern fel sail i reolaeth gynaliadwy o ecosystemau’r môr. Mae’r project yn canolbwyntio ar benwaig yr Iwerydd, rhywogaeth allweddol yn ecosystem gogledd-ddwyrain yr Iwerydd y mae’r boblogaeth wedi gostwng ers canol yr 20fed ganrif. Nod y project yw defnyddio data hanesyddol i nodi ardaloedd pwysig i silio penwaig a deall tueddiadau hirdymor silio sy’n gysylltiedig â newidiadau yn yr hinsawdd.
Bydd yr ymchwil yn dadansoddi ffynonellau hanesyddol o'r 17eg ganrif tan ddechrau'r 20fed ganrif yn bennaf, gan gynnwys ysgrifau gan naturiaethwyr a theithwyr modern cynnar, archifau papurau newydd, ymholiadau gan y llywodraeth, ac atgofion pysgotwyr heddiw.
Meddai Dr Moore, "Bydd y dull rhyngddisgyblaethol hwn yn ein helpu i ddeall amgylcheddau hanesyddol y môr a chymhwyso'r wybodaeth honno i reolaeth ecosystem gyfoes."
Mae’r cynllun peilot CRCRM, a gyflwynwyd gan UKRI, yn cefnogi ymchwil rhyngddisgyblaethol newydd ac arloesol sy'n herio ffiniau academaidd confensiynol. Trwy annog dulliau trawsnewidiol, nod y cynllun yw galluogi ymchwil a allai arwain at greu disgyblaethau newydd neu ddatblygiadau sylweddol yn y meysydd presennol. Lansiwyd ail rownd cyllid CRCRM, gyda £32.5 miliwn ar gael, y mis hwn hefyd i gefnogi projectau ymchwil rhyngddisgyblaethol eraill.
Mae hyn yn adeiladu ar gyllid blaenorol a gafodd y brifysgol yn 2021 gan gronfa Discipline Hopping for Environmental Solutions Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC), a oedd yn annog academyddion i ystyried cyfleoedd cydweithio trawsddisgyblaethol. Daeth un o’r projectau a ariannwyd, dan arweiniad Alec a Shaun, â gwyddonwyr amgylcheddol o Ysgol Gwyddorau’r Eigion a haneswyr o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas at ei gilydd. Trwy weithdai ac ymweliadau archifol, hyfforddodd arbenigwyr o’r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas y gwyddonwyr i ddefnyddio data hanesyddol i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol. Gosododd y cydweithio hwn y sylfaen ar gyfer project presennol Alec a ariennir gan UKRI, gan dynnu sylw at werth integreiddio meysydd arbenigol amrywiol.
Meddai Dr Saskia Pagella, Pennaeth Gwasanaeth Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig Prifysgol Âé¶¹Íø, “Mae’r cronfeydd arian bach hyn sy’n arwain at grant mwy wedi gwireddu nod NERC gyda’r cyllid hwn i feithrin y dalent ryngddisgyblaethol orau a chreu arweinwyr sydd â’r rhagwelediad a’r gallu i fynd i’r afael â heriau rhyngddisgyblaethol.â€