Llwyddiannau myfyrwyr Prifysgol Âé¶¹Íø yn Eisteddfod yr Urdd rithiol gyntaf erioed!
Eleni, yn hytrach na'r Eisteddfod yr Urdd arferol, bu'n rhaid addasu ychydig ar y cynllun oherwydd y sefyllfa Covid-19 a chynnal yr Eisteddfod rithiol gyntaf erioed - Eisteddfod T.
Fe wnaeth yr Eisteddfod ddenu dros 6,000 o gystadleuwyr mewn mwy nag 80 o gystadlaethau, gyda myfyrwyr Prifysgol Âé¶¹Íø yn cipio sawl gwobr.
Cafodd Cai ¹óô²Ô Davies, myfyriwr yn ei ail flwyddyn ²õ²â‵µ astudio Cymraeg a Hanes, sawl llwyddiant. Daeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth Llefaru dan 25 oed, yn drydydd yn y gystadleuaeth Cerdd Dant dan 25 oed, ac enillodd gwobr y Prif Gyfansoddwr. Mae Cai yn enw cyfarwydd i fudiad yr Urdd, yn ³¦²â²õ³Ù²¹»å±ô³Ü‵µ llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd ers yn ifanc. Mae hefyd yn un ´Ç’r chwech a ´Ú³Ü‵µ cystadlu am Ysgoloriaeth yr Urdd Bryn Terfel y llynedd, wedi iddo gipi´Ç’r wobr gyntaf ym mhrif gystadleuaeth llefaru Eisteddfod yr Urdd Caerdydd ²¹â€™r Fro 2019.
Daeth Lleucu Arfon, myfyrwraig yn ei thrydedd flwyddyn ²õ²â‵µ astudio Cymraeg a Cherddoriaeth yn gyntaf yn y gystadleuaeth Cerdd Dant dan 25 oed. Mae Lleucu hefyd wedi bod yn ³¦²â²õ³Ù²¹»å±ô³Ü‵µ llwyddiannus mewn Eisteddfodau ers sawl blwyddyn.
Cipiwyd y wobr gyntaf yn y gystadleuaeth Theatr, Sioe Gerdd a Parodi 19-25 oed gan Mali Elwy, myfyrwraig ar ei blwyddyn gyntaf yn Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, gydag Ioan Rees, myfyriwr trydedd flwyddyn yn yr Ysgol Cerddoriaeth ²¹â€™r Cyfryngau yn ennill yr ail wobr.
Daeth Ioan hefyd yn drydydd yn y gystadleuaeth Theatr, Sioe Gerdd a Parodi Bl 7 a dan 25 ²µ²â»å²¹â€™i chwaer, Gwen Rees.
Cafodd Aelwyd Urdd JMJ, sef aelwyd neuadd Gymraeg Prifysgol Âé¶¹Íø, yr ail wobr yng nghystadleuaeth Corau 14-25 oed gyda pherfformiad mesmeraidd o ‘Yn Llygad y Llew’ gan Robat Arwyn a chyfeiliant gan Elain Rhys.
Mared Fflur Jones sydd ar ei hail flwyddyn yn astudi´Ç’r Gymraeg oedd enillydd Prif Lenor Eisteddfod T, gyda darn o waith “llawn cariad a gwewyr†yn ô±ô y beirniad, Manon Steffan Ros. ²Ñ²¹±ð‵µ hen law ar ennill eisteddfodol – wedi ennill cadair Eisteddfod Ysgol y Gader ac wedi dod yn ail a thrydydd am gadair Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Meirionnydd.
Prifardd Eisteddfod T oedd Osian Wyn Owen, cyn-fyfyriwr sydd wedi derbyn ei radd israddedig o Ysgol y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, dylai hefyd fod yn graddio gyda gradd MA ym mis Gorffennaf. ²Ñ²¹±ð‵µ wyneb cyfarwydd ¾±â€™r Urdd gan mae fo oedd enillydd Cadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, Brycheiniog a Maesyfed yn 2018. Daeth Osian hefyd yn drydydd yng nghystadleuaeth y Prif Lenor.
Wrth ymateb ¾±â€™r llwyddiant diweddaraf yma i fyfyrwyr Prifysgol Âé¶¹Íø, meddai Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Âé¶¹Íø, Lleucu Myrddin:
“Roedd yn wych gweld fod yr Urdd wedi llwyddo i ²¹»å»å²¹²õ³Ü’r Eisteddfod yr Urdd gyffredin yr ydym ni wedi arfer ag o i weithio cystal ar-lein ar ffurf Eisteddfod T. Gwell fyth oedd gweld fod ein myfyrwyr wedi ymgymryd â’r her o gystadlu o dan amgylchiadau gwahanol iawn heb lawer o gyfle i baratoi, ac wedi bod mor llwyddiannus yn gwneud hynny. Cafwyd buddugoliaethau mewn sawl cystadleuaeth, o unawdau i ²µÃ´°ù Aelwyd JMJ heb anghofio am y prif wobrau gwaith cartref. Does dim amheuaeth fod ein myfyrwyr wedi amddiffyn ein henw da ar blatfform cenedlaethol yr Urdd unwaith eto eleni. Llongyfarchiadau mawr i bawb ´Ú³Ü‵µ cystadlu!â€
Dyma ddolenni ¾±â€™r cystadlaethau ar YouTube S4C:
(1af)