Y dewis gwyrdd
Mae nifer gynyddol o bobl ifanc yn awyddus i leihau eu hôl troed amgylcheddol, a gall y fyfyrwyr hynny sy’n chwilio am brifysgol werdd fod yn sicr eu bod yn astudio mewn prifysgol sydd ar y , drwy ddewis astudio ym Mhrifysgol 鶹.
Mae Prifysgol 鶹 yn seithfed yn y byd am ailgylchu a chynaliadwyedd, yn ôl llinyn mesur Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig, ac mae’r coleg ar y bryn yn 10fed yn fyd eang am ei gwaith yn ôl y.
Ond beth mae hynny’n ei olygu’n ymarferol? Yn ogystal â gwybod bod y Brifysgol yn gweithio hyd yr eithaf i leihau gwastraff a lleihau ei defnydd ar ynni, a’i bod yn cyflawni ac yn gweithio tuag at nodau cynaliadwyedd eraill, gall myfyrwyr gymryd rhan yn amryw o fentrau’r Brifysgol ac Undeb y Myfyrwyr. Gallent gyfrannu at bolisïau Prifysgol drwy gymryd rhan mewn Melin Drafod Cynaliadwyedd a drefnir gan Lab Cynaliadwyedd y Brifysgol, a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd a gweithgareddau cynaliadwyedd gan , neu gyfleoedd i arddio, hel sbwriel neu weithgareddau ymarferol eraill gan y Brifysgol.
Dyma beth mae rhai o fyfyrwyr y Brifysgol wedi bod yn ei wneud:
Jolie MoonMae Jolie Moon, myfyrwraig Seicoleg yn ei thrydedd flwyddyn, ac sy’n dod o Preston, Sir Gaerhirfryn, yn arweinydd project Gwirfoddoli Glanhau Traethau Undeb y Myfyrwyr. Maent yn teithio i draethau lleol yng Ngwynedd a Môn i hel sbwriel sydd wedi ei adael yno neu a ddaeth ar y llanw.
Dywed Jolie:
“Mae’r project yn boblogaidd iawn, ac mae dros 400 o fyfyrwyr y Brifysgol wedi ymrwymo i gymryd rhan a llond bysus yn teithio i’r digwyddiadau misol. Mae’r project yn gyfle i’r myfyrwyr gwrdd â phobl o’r un anian, darganfod traethau hardd yr ardal a chydweithio efo’r gymuned leol, hyn oll ac effaith bositif ar yr amgylchedd!”
Daw Patrycja Bialecka, myfyrwraig ail flwyddyn sy’n astudio Sŵoleg ac Ymddygiad Anifeiliaid o Eastleigh, Hampshire, a dywed:
“Rwyf wedi cymryd rhan mewn glanhau traethau, bûm yn cyfrannu at ffeirio dillad a drefnwyd a bellach cefais fy mhenodi’n swyddog cynaliadwyedd yr Ardd Iachau, lle mae gennym ddeunyddiau cynaliadwy i blannu gardd ar gyfer y synhwyrau. Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at gael parhau â’r gwaith y flwyddyn nesaf!
Mae cymryd rhan yn y gweithgareddau’n bwysig imi, gan fy mod yn ceisio creu cyn lleied o wastraff â phosib a lleihau fy effaith ar yr amgylchedd.
Mae’r Brifysgol wedi fy nghynorthwyo yn hyn o beth, nid yn unig drwy’r digwyddiadau ond hefyd drwy’r adnoddau sy’n cael eu darparu fel y biniau teracycle yn yr Undeb, biniau gwastraff bwyd yn nifer o adeiladau’r Brifysgol a’r ffynhonnau dŵr. Ni fyddai hyn yn bosib oni bai bod y Brifysgol yn rhoi llais i’r myfyrwyr dros weithgareddau sy’n digwydd yn y Brifysgol.”
Emily DaviesDywedodd Emily Davies, o Ashford, Sir Gaint, myfyrwraig Sŵoleg ac Ymddygiad Anifeiliaid yn ei thrydedd flwyddyn:
“Cefais y pleser o ymgymryd â sawl project cynaliadwyedd ac amgylcheddol gan fyfyrwyr tra oeddwn yn y Brifysgol, gan gynnwys cefnogi cadwraeth gyda’r Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt yn lleol, a chynnal Gardd Fotaneg y Brifysgol a rhandir y myfyrwyr. Cefais brofiadau da gydag ymgyrch 鶹 Ddi-blastig (Plastic Free 鶹) yn yr Ysgolion academaidd ac Undeb y Myfyrwyr, yn ogystal â chynllun lleihau defnydd bwyd gyda’r Lab Cynaliadwyedd. Enillodd yr Ardd Iachau Wobr CLAS Green Impact, am ein blwyddyn o arddio cynaliadwy ystyrlon o fywyd gwyllt. Rydym wedi compostio bwyd gwastraff Banc Bwyd Plaid Cymru yn ogystal â chyfrannu ein cynaeafau! Rwy’n graddio eleni, ond yn ddiolchgar am bob cyfle y mae’r Brifysgol wedi ei roi imi i gyfrannu at fyd mwy gwyrdd.”
Daeth Virginie Rouillard Le Court de Billot i’r Brifysgol o Grand Bay, Mauritius i astudio PhD mewn Cyfreithiau Newid Hinsawdd a dywed:
“Rwyf wedi bod a chonsyrn am faterion amgylcheddol a byw mewn modd cynaliadwy ers yn ifanc, gan fy mod yn hanu o Fauritius, lle gallwn eisoes weld effeithiau’r newid yn yr hinsawdd.
Virginie Rouillard Le Court de Billot Trwy’r projectau sydd yn cael eu cefnogi gan Undeb y Myfyrwyr, rwyf wedi cymryd rhan mewn hybu cynaliadwyedd bwyd drwy broject Gwirfoddoli Draig Newynog (Hungry Dragon). Mae Undeb y Myfyrwyr wedi helpu’r project ymledu tu hwnt i’r Brifysgol i’r gymuned leol, gan godi ymwybyddiaeth am wastraff bwyd a hybu defnydd cynaliadwy o fwyd, sy’n allweddol i broblemau amgylcheddol cyfredol.
Rwy’n teimlo bod yr Undeb a’r Brifysgol yn ein hannog ac yn darparu’r modd i fyfyrwyr gymryd rhan mewn mentrau positif ac i greu projectau sy’n berthnasol i gadwraeth amgylcheddol a dewisiadau amgen i orddibyniaeth ar brynwriaeth. Byddaf yn aros ychydig mwy o flynyddoedd i ddilyn PhD mewn Cyfreithiau Newid Hinsawdd ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio efo Undeb y Myfyrwyr!”
Mae Lucy Wiltshire, o Plympton, Plymouth sy’n fyfyrwraig Daearyddiaeth Ddynol yn ei phedwaredd flwyddyn, wedi bod yn gweithredu fel arweinydd project Gwirfoddoli’r Myfyrwyr, yn rheoli ei mewnbwn i ddwy warchodfa natur ar ffiniau’r Parc Cenedlaethol, fel rhan o dîm brwdfrydig sy’n cynnal y mannau gwyrdd er lles y cyhoedd ac er cadwraeth y cynefinoedd cynhenid mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd.
Dywed Lucy:
“Mae cymryd rhan mor ymarferol mewn projectau cadwraethol yn brofiad hynod bositif. Yn ogystal â chynnal yr amgylchedd lleol, mae hefyd yn meithrin cysylltiadau ymysg myfyrwyr a chyda’r gymuned leol. Drwy weithgareddau fel hyn mae Undeb y Myfyrwyr yn medru meithrin gweithgareddau cynaliadwy a chynhwysol.”
Bu Tom Price, myfyriwr y Gwyddorau Naturiol yn ei drydedd flwyddyn yn gweithredu fel arweinydd project ar gyfer project Gwarchodfa Natur Gwirfoddoli 鶹 yr Undeb. Bu’n ymwneud ag amrywiol waith amgylcheddol fel cynnal llwybrau troed, hel sbwriel a rheoli cynefinoedd. Dywed Tom:
“Wnes i wir fwynhau gweithio ar broject amgylcheddol yn y Brifysgol a chael y cyfle i gyfrannu at ethos cynaliadwyedd y Brifysgol. Mae’n wych bod Undeb y Myfyrwyr mor gydwybodol a gweithgar.”