Mae pensetiau rhithrealiti a graffeg gemau fideo chwyldroadol yn cael eu defnyddio gan Brifysgol Âé¶¹Íø i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o radiograffwyr diagnostig yng Ngogledd Cymru.
Campws Wrecsam Prifysgol Âé¶¹Íø oedd y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i archebu rhaglen gyfrifiadurol newydd sy'n galluogi myfyrwyr i ddefnyddio rhithrealiti i ddysgu sut i wneud profion pelydr-X heb orfod dod i gysylltiad â phelydrau gama niweidiol sy'n achosi canser.

Mae'r system feddalwedd sy’n werth £15,000 ac a ddatblygwyd yn Christchurch, Seland Newydd, bellach yn cael ei defnyddio ar gampws Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd y Brifysgol yn Wrecsam a bellach gall y genhedlaeth nesaf o radiograffwyr ddysgu eu crefft yn gyflymach ac yn haws er mwyn helpu i leihau prinder difrifol o radiograffwyr medrus yn y GIG.
Mae'n ail-greu’r peiriant pelydr-X newydd yn rhithiol gan gynnig arbediad ariannol sylweddol - byddai cyfleuster newydd yn costio chwarter miliwn o bunnoedd i’w osod.
Dywedodd Delyth Hughes, Arweinydd Cwrs Radiograffeg Ddiagnostig Prifysgol Âé¶¹Íø: “Fel pob cwrs radiograffeg rydym wedi ein cyfyngu gan faint o brofion pelydr-X gwirioneddol y gall myfyrwyr eu cynnal oherwydd y risg o ddod i gysylltiad ag ymbelydredd ïoneiddio.
“Ond mae’r system rhithrealiti newydd hon yn golygu nad yw’r cyfyngiadau hynny’n berthnasol mwyach oherwydd nad ydym yn gwneud profion pelydr-X go iawn er ein bod dal yn gallu gweld y canlyniadau o hyd.
“Un o’r pethau pwysicaf y mae’n rhaid i fyfyrwyr ei ddysgu yw sut i leoli’r peiriant fel y bydd y pelydr-X yn cael ei gymryd ar yr ongl gywir i ddangos unrhyw broblemau posib sydd gan y claf.
“Trwy ddefnyddio rhithrealiti, gall y myfyriwr leoli claf rhithiol ac yna gweld a yw wedi llwyddo heb i hynny olygu cost nac amlygiad i ymbelydredd.â€
Tra bod Prifysgol Âé¶¹Íø ymhlith y cyntaf yn y Deyrnas Unedig i ddefnyddio'r system i hyfforddi radiograffwyr, rydym mewn cwmni da ochr yn ochr â sefydliadau megis Harvard, y brifysgol Ivy League yn yr Unol Daleithiau.
James Hayes, darlithydd mewn delweddu meddygol yn yr Ara Institue yn Canterbury, Seland Newydd, sydd wrth wraidd y syniad ar ôl gofyn i arbenigwyr rhaglennu’r sefydliad ddatblygu’r feddalwedd.
Ef fu’n goruchwylio’r gwaith a dywedodd: “Fe ofynnais iddynt ei wneud i edrych fel ystafell pelydr-X rhithrealiti yn hytrach nag fel gêm rithrealiti. Fe ddwedon nhw 'o fewn rheswm' ac fe ddwedais innau 'wel, peidiwch â dweud o fewn rheswm, beth am i ni ddweud ein bod am ei wneud yn union yr un fath.
“Bydd yn golygu y bydd gan fyfyrwyr lawer mwy o brofiad clinigol wrth gyrraedd yr ysbyty nag y bydd unrhyw un arall yn y byd wedi’i gael o’r blaen.â€
Yn y cyfamser mae Prifysgol Âé¶¹Íø wedi cynyddu faint o fyfyrwyr blwyddyn gyntaf y mae yn eu derbyn ar y cwrs radiograffeg gan 25 y cant, i 35, er mwyn helpu i gwrdd â’r prinder radiograffwyr yn y GIG.
Ychwanegodd Delyth Hughes: “Fel arfer, byddai'n rhy beryglus i gynnal profion pelydr-X yn ddiangen, felly mae'r system yn defnyddio cleifion rhithiol.
“Mae Rhithrealiti’n cynnig ffordd ddiddorol a diogel i’n myfyrwyr ddysgu ac ymarfer oherwydd bod popeth yn union yr un fath ag y mae yn y byd go iawn o ran maint, pellter a gweithdrefnau.
“Os oes angen addasu’r tiwb radiograffeg gall y myfyrwyr gerdded ato, gafael ynddo, pwyso’r botymau priodol, a’i symud.
“Mae rhithrealiti’n cynnig adborth clywedol, gweledol a synhwyraidd felly bydd y myfyrwyr yn gallu gweld a theimlo, yn union fel petaent yn gweithio gyda chlaf go iawn.
“Bydd yn golygu y bydd ein myfyrwyr wedi cael llawer mwy o brofiad o gyflawni’r gweithdrefnau hyn a chan mai dim ond 23 o brifysgolion sy’n darparu cyrsiau radiograffeg mae Âé¶¹Íø yn arwain y ffordd.â€
Mae Ysgol Gwyddorau Meddygol ac Iechyd Prifysgol Âé¶¹Íø yn darparu ystod o gyrsiau a chymwysterau iechyd a gofal ar ei champws ym Mangor a’i champws yn Wrecsam ac yn gweithio'n agos gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ledled Gogledd Cymru.
Mae Prifysgol Âé¶¹Íø yn cynnig rhaglenni ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol mewn ystod o sgiliau a gwasanaethau ar gyfer y GIG ac ar gyfer gwasanaethau gofal preifat.
I gael rhagor o wybodaeth am astudio Gwyddorau Meddygol ac Iechyd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø ewch i www.bangor.ac.uk/health-sciences/index.php.cy