Academydd yn ennill gwobr association of european operational research societies
Mae academydd o Brifysgol Âé¶¹Íø, Dr Chrysovalantis Vasilakis, sy’n uwch ddarlithydd mewn economeg, wedi ennill gwobr yr Association of European Operational Research Societies (EURO) am bapur gorau’r European Journal of Operational Research (EJOR) yn y categori Theori a Methodoleg.
Meddai Chrysovalantis, "Mae’n anrhydedd i dderbyn y wobr hon ac rwy'n falch iawn. Mae'n braf cael cydnabyddiaeth i'n hymdrechion. Mae fy nghyd-awduron a minnau'n ymfalchïo yn y papur hwn gan ei fod nid yn unig yn gwneud cyfraniad sylweddol i lenyddiaeth academaidd ond hefyd yn rhoi mewnwelediadau i lunwyr polisi ar sut y dylent ddelio â digwyddiadau annisgwyl fel COVID-19 yn y dyfodol. Ar ben hynny, mae'r wobr hon yn nodi dechrau ymdrech ar y cyd gan yr Ysgol Fusnes i symud ymlaen ymhellach ym maes dadansoddi data trwy gyflwyno a chefnogi rhaglenni academaidd newydd."