Neges gan yr Is-ganghellor, Yr Athro Edmund Burke, mewn ymateb i'r gwrthdaro parhaus yn Israel a Gaza
Mae cymuned Prifysgol Âé¶¹Íø yn parhau i brofi sioc a thristwch o ganlyniad i’r marwolaethau cwbl drasig a geir yn y brwydro yn Gaza, Palesteina ac Israel. Rydym ninnau yma yn rhannu dyheadau ein staff a’n myfyrwyr am ddatrysiad heddychlon a pharhaus i’r sefyllfa cyn gynted â phosib.
Ym mis Mai, codwyd gwersyll o blaid Palesteina ar y lawnt o flaen Pontio gan grŵp o bobl yn protestio yn erbyn y gwrthdaro. Gwelwyd nifer o brotestiadau tebyg yn y Deyrnas Unedig, yr UDA a’r byd yn ehangach.
Rydym wastad wedi ymdrechu i gynnal deialog mewn modd adeiladol gyda’n myfyrwyr. Mae aelodau Bwrdd Gweithredu’r Brifysgol wedi cyfarfod â’r protestwyr ar fwy nag un achlysur er mwyn deall eu gofynion, ymateb iddynt ac i ateb eu cwestiynau. Rydym yn gweithio’n agos ag Undeb y Myfyrwyr sy’n ymweld â’r wersyllfa yn rheolaidd. Roedd ein Prif Swyddog Cyllid, Martyn Riddleston a’n Prif Swyddog Gweithredu, Michael Flanagan, yn falch o gael cyfarfod â Swyddogion Sabothol bythefnos yn ôl er mwyn parhau â’r sgyrsiau hyn.
Mae Prifysgolion yn darparu cyfleoedd a gofodau diogel ar gyfer trafod. Mae amddiffyn hawliau mynegiant rhydd yn hollbwysig ac mae’r Brifysgol yn cefnogi yn llawn hawliau myfyrwyr i drafod a phrotestio’n heddychlon. Yn ogystal, rydym yn ddieithriad yn condemnio hiliaeth, gwrth-semitiaeth, Islamoffobia, gwahaniaethu, aflonyddu, sarhau neu ymddygiad troseddol, gan nad oes unrhyw le i’r rhain yn ein cymuned.
Diogelwch, sicrwydd a lles ein holl gymuned fu ein prif bryder o’r cychwyn cyntaf. Mae gennym ddyletswydd i sicrhau bod ein holl staff a myfyrwyr yn gallu byw, gweithio, astudio a chymdeithasu heb ofn neu drallod. Mae nifer o staff a myfyrwyr wedi cysylltu â mi i ddweud bod rhai o’r deunyddiau sy’n cael eu harddangos yn y wersyllfa ac ar gyfryngau cymdeithasol yn achosi trallod iddynt. Rydym yn cymryd y cwynion hyn o ddifrif gan ein bod yn gwybod bod presenoldeb y wersyllfa yn peri gofid i rai aelodau o’n cymuned.
Buddsoddiadau Prifysgol Âé¶¹Íø
Mae gan Brifysgol Âé¶¹Íø Bolisi Buddsoddiadau moesegol a chynaliadwy. Mae ein Polisi yn nodi ein bod yn disgwyl i lefel uchel o fesurau Amgylcheddol, Cynaliadwyedd a Llywodraethu (ACLl) fod yn eu lle ar gyfer unrhyw fuddsoddiad posibl. Mae'r Brifysgol hefyd yn cynnal ymchwiliadau gyda buddsoddiadau posibl er mwyn peidio â buddsoddi ym meysydd arfau, arfau milwrol, alcohol, gamblo, tybaco, adloniant oedolion a chwmnïau tanwydd ffosil.
Mewn ymgynghoriad â’n cymuned myfyrwyr, mae Pwyllgor Buddsoddi Prifysgol Âé¶¹Íø wedi cyfarfod ac yn adolygu ei bortffolio buddsoddi. Ymhellach at hyn, mae cais wedi ei gyflwyno i’n Rheolwyr Buddsoddiadau, UBS, iddynt wneud rhagor o ymchwil diwydrwydd dyladwy er mwyn sicrhau bod ein portffolio buddsoddi presennol yn wirioneddol yn cydymffurfio â’n Polisi Buddsoddi Moesegol. Gellir gweld y sefyllfa ddiweddaraf yma.
Yn ogystal, rydym yn ailategu ein cefnogaeth i’r Council for At-Risk Academics (CARA), sy’n darparu cymorth brys i academyddion sydd mewn perygl uniongyrchol.
Sut i godi pryderon
Rydym yn cydnabod yn llwyr y rhan sylweddol y mae protest yn ei chwarae mewn cymdeithas ddemocrataidd a bod rhyddid mynegiant yn golygu bod gan unigolion hawl i leisio barn a allai dramgwyddo eraill. Ond rwy'n ymwybodol bod y digwyddiadau cyfredol hyn yn effeithio ar iechyd meddwl a lles myfyrwyr a staff. Os ydych chi neu rywun yr ydych yn ei adnabod wedi dod ar draws neu wedi gweld unrhyw achos o wahaniaethu, neu os oes gennych unrhyw bryder diogelu, rwyf yn annog myfyrwyr yn gryf i gysylltu gyda Thîm Cymorth a Lles Myfyrwyr Prifysgol Âé¶¹Íø neu Undeb y Myfyrwyr.
- Cysylltu gyda thîm diogelwch y campws ar 01248 382795 neu ymweld â lefel 3 yn Pontio.
- Cefnogaeth llesiant
- I roi gwybod am bryder diogelu, e-bostiwch diogelu@bangor.ac.uk
- I roi gwybod am unrhyw achos o wahaniaethu yn erbyn myfyrwyr, cysylltwch â’r Swyddog Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Myfyrwyr: cynhwysol@bangor.ac.uk
Os ydi staff yn profi, mewn unrhyw fodd, drais, aflonyddu neu unrhyw drosedd gasineb, yn cynnwys o natur rywiol neu hiliol, rwyf yn eich annog i roi gwybod inni (manylion isod).
Rwy’n gobeithio y bydd y datganiad hwn yn gymorth i chi ddeall ein safbwynt. Rydym yn meddwl am bawb y mae'r amgylchiadau cymhleth, heriol ac emosiynol hyn wedi effeithio arnynt a byddwn yn parhau i ddarparu cymorth i'r rhai yr effeithir arnynt gan y digwyddiadau trasig hyn.