Prifysgol Âé¶¹Íø yn ymchwilio i therapi newydd i ddynion gydag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol sy’n troseddu
Mae Prifysgol Âé¶¹Íø wedi gwneud cyfraniad pwysig at ymchwil i therapi newydd i ddynion gydag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol (ASPD) sy’n troseddu.
Roedd yr astudiaeth, a gyhoeddwyd yn ac a ariannwyd gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal (NIHR) yn gweld a ellid gwella ymddygiad ymosodol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol trwy addasiad o driniaeth ar sail ymenyddu (MBT).
Cefnogwyd y gwaith o dreialu’r driniaeth, y canfuwyd ei fod yn lleihau cyfraddau trais ac ymddygiad ymosodol yn sylweddol ymhlith dynion sydd â’r cyflwr ac sy’n troseddu, gan Sefydliad Hap-dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru (NWORTH) - uned treialon clinigol achrededig UKCRC ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.
Dywedodd Dr Zoe Hoare, Cyfarwyddwr a Phrif Ystadegydd Sefydliad Hap-dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru “Darparodd Uned Treialon Clinigol Sefydliad Hap-dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru yr agwedd rheoli data ar y project hwn a oedd yn cynnwys data o ffynonellau a systemau lluosog.
“Bu i ni lanhau a sicrhau ansawdd y data cyn ei gloi a’i ddarparu i’r dadansoddwr. Roedd y tîm hefyd yn gallu defnyddio ein system ddethol ar hap bwrpasol sy’n defnyddio algorithm dethol ar hap addasol deinamig sy’n unigryw i Sefydliad Hap-dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru.
“Mae Sefydliad Hap-dreialon Iechyd a Gofal Cymdeithasol Gogledd Cymru yn falch o allu cefnogi gwerthusiadau o ymyriadau cymhleth mewn lleoliadau cymhleth fel carchardai. Gallwn gynnig y systemau a’r arbenigedd i sicrhau bod astudiaethau pwysig fel y rhain yn cael eu gwneud i’r safon uchaf.â€
Mae triniaeth ar sail ymenyddu yn therapi sy'n helpu pobl i ddeall eu meddyliau a'u teimladau eu hunain, yn ogystal â rhai pobl eraill.
Cynlluniwyd y driniaeth newydd, a elwir yn MBT-ASPD, gan dîm o ymchwilwyr dan arweiniad UCL. Ei nod oedd gwella gallu dynion ag Anhwylder Personoliaeth Gwrthgymdeithasol sy’n troseddu i adnabod a myfyrio ar eu meddyliau a'u teimladau eu hunain ac eraill, gan helpu i wella eu rhyngweithio rhyngbersonol a’u proses o wneud penderfyniadau.
Mae Anhwylder Personoliaeth Gwrthgymdeithasol yn gyflwr iechyd meddwl a nodweddir gan batrwm parhaus o ddiystyru neu darfu ar hawliau pobl eraill. Ymhlith y symptomau mae dichellgarwch, byrbwylltra, ymddygiad ymosodol, dihidrwydd a diffyg edifeirwch. Mae'n aml yn cynnwys troseddoldeb.
Yn yr astudiaeth fwyaf o’i bath, bu 157 o ddynion gydag ASPD ar brawf yng Nghymru a Lloegr ar gwrs MBT-ASPD am flwyddyn ochr yn ochr â’r ddarpariaeth safonol gan y gwasanaeth prawf safonol. Cafodd grŵp rheolydd o 156 o gyfranogwyr y ddarpariaeth safonol gan y gwasanaeth prawf heb MBT-ASPD.
Roedd y driniaeth yn cynnwys sesiynau therapi grŵp 75 munud bob wythnos dan arweiniad dau glinigwr MBT hyfforddedig, yn aml gyda chefnogaeth gan arbenigwr trwy brofiad. Galluogodd y grŵp y cyfranogwyr i ystyried rhyngweithiadau cymdeithasol gan gynnwys eu gwerthoedd personol, arsylwi sut roedd eraill yn meddwl am faterion oedd yn eu pryderu, sut roedd eraill yn gweld eu gweithredoedd a sut roedd eu canfyddiadau ohonynt eu hunain yn cyfateb i ganfyddiadau pobl eraill ohonynt.
Roedd y cyfranogwyr hefyd yn cael sesiynau therapi unigol 50 munud bob mis. Roedd y sesiynau hyn yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau meddwl (fel hunanymwybyddiaeth, empathi at eraill, ystyried safbwyntiau a meddwl myfyriol), yn enwedig mewn sefyllfaoedd o wrthdaro rhyngbersonol.
Datgelodd y canlyniadau fod gan ddynion a gafodd MBT-ASPD lefelau ymddygiad ymosodol oedd tua 50% yn is na'r rhai a gafodd ddarpariaeth safonol gan y gwasanaeth prawf.
Er bod y ddau grŵp yn dangos gostyngiad mewn symptomau anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol, dangosodd y grŵp MBT-ASPD ostyngiad sylweddol uwch, sef 63%, yn nifer y symptomau yn y flwyddyn ddilynol.
Yn ogystal, cyflawnodd y dynion yn y grŵp MBT-ASPD 46% yn llai o droseddau na'r rhai yn y grŵp a gafodd y ddarpariaeth safonol gan y gwasanaeth prawf dros gyfnod dilynol o dair blynedd.
Pwysleisiodd y prif ymchwilydd yr Athro Peter Fonagy (UCL Psychology & Language) effaith ehangach y canfyddiadau: “O ystyried costau personol a chymdeithasol enfawr anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol - gan gynnwys cymryd mwy o risgiau, canlyniadau iechyd gwaeth, mwy o ddiweithdra ac amcangyfrif o £16.7 biliwn o faich economaidd blynyddol yn y Deyrnas Unedig - mae'r astudiaeth hon yn gam mawr ymlaen.
“Mae anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol wedi bod yn anodd ei drin yn hanesyddol, ond mae ein canfyddiadau’n dangos y gall ymyriad seicolegol sy’n gofyn am hyfforddiant cymharol gyfyngedig gan therapydd wella’r canlyniadau mewn modd ystyrlon i unigolion â’r cyflwr hwn gan hefyd leihau eu heffaith ar gymdeithas.â€
Er gwaethaf canlyniadau cymysg blaenorol o driniaethau seicolegol eraill megis Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT), mae MBT-ASPD yn ddull newydd addawol o drin dynion sy’n troseddu. Mae'r astudiaeth yn darparu tystiolaeth gref bod therapi strwythuredig yn gallu bod yn effeithiol a lleihau ymddygiad ymosodol ac ymddygiad troseddol ymhlith unigolion ag anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol.
Cynhaliwyd yr astudiaeth ar y cyd ag ymchwilwyr yn Anna Freud, Prifysgol Newcastle, King’s College Llundain, Royal Holloway, National Probation Service London Division, University of Prince Edward Island, Prifysgol Âé¶¹Íø, Prifysgol Nottingham ac Imperial College Llundain.
Cyfyngiadau’r Astudiaeth
Er bod y canlyniadau'n addawol, roedd gan yr astudiaeth rai cyfyngiadau. Roedd y cynllun yn ei gwneud hi'n heriol ynysu effeithiau penodol MBT-ASPD o'r sylw ychwanegol a gafodd y cyfranogwyr.
Gall problemau casglu data a data coll - a waethygwyd gan oedi oherwydd COVID-19 - hefyd fod wedi effeithio ar y canfyddiadau.
Ymhellach, gan fod yr astudiaeth yn canolbwyntio ar ddynion 21 oed a hŷn oedd wedi troseddu ac a oedd dan oruchwyliaeth y gwasanaeth prawf, efallai na fydd modd cyffredinoli’r canlyniadau’n uniongyrchol i boblogaethau eraill, fel troseddwyr iau neu droseddwyr sydd y tu allan i’r system brawf.