Myfyrwyr ffilm a’r cyfryngau yn ennill Gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol

Mae myfyrwyr ffilm a'r cyfryngau Prifysgol 鶹 wedi ennill gwobr fawreddog gan Gymdeithas Deledu Frenhinol Cymru mewn seremoni yng Nghaerdydd.
Enillodd Tape 15, ffilm fer arswydus, wobr yn y categori myfyrwyr ar gyfer Adloniant a Drama Gomedi. Dyma’r 17eg fuddugoliaeth i Tape 15, sydd eisoes wedi’i dangos mewn gwyliau ffilm rhyngwladol. Cynhyrchwyd y ffilm gan Danny Redondo San Jose, Adele Zogota, Evie Pattison, Madalin Mathewson a Rhys Green.
Cafodd ffilm arall gan fyfyrywr, y ffilm gomedi fer Down N’ Out, gan Cameron Jones, Kieran Samuel, Chris Collings, Lucas Sheridan ac Isaac Sheridan, ei henwebu yn yr un categori hefyd.
Wrth drafod y profiad o fynychu’r seremoni wobrwyo, dyweddodd Adele Zogota o dîm cynhyrchu Tape 15, “Roedd yn swreal bod yn yr un ystafell â’r gweithwyr proffesiynol hyn o’r diwydiant, i gael siarad â nhw, ac ennill gwobr yn yr un seremoni. Rwy’n dal i fethu credu ei fod wedi digwydd, ac fe wnaeth fy ysgogi hyd yn oed yn fwy. Mae ennill gwobr RTS am brosiect 2il flwyddyn yn y Brifysgol wedi gwneud i mi sylweddoli efallai nad yw torri i mewn i’r diwydiant yn swnio mor anodd ag oedd o’n wreiddiol.”
Cynhyrchwyd y ddwy ffilm yn y modiwl Cynhyrchu’r Ffilm Fer, dan arweiniad Stephanie Steventon, Darlithydd Cynhyrchu Ffilm a Chyfryngau, a oedd yn falch iawn o lwyddiant ei myfyrwyr. Dywedodd, “Mae’r fuddugoliaeth hon yn amlygu creadigrwydd a dawn ein myfyrwyr ac yn adlewyrchu safon uchel y ffilmiau a gynhyrchir o fewn y modiwl Cynhyrchu’r Ffilm Fer. Mae’r ddau enwebiad yn dyst i waith caled y myfyrwyr, ac rwy’n hynod o falch o beth maen nhw wedi ei gyflawni. Cynlluniwyd y modiwl er mwyn dysgu myfyrwyr sut i ddatblygu cynhyrchiad, creu ffilm, a’i dosbarthu a’i marchnata. Mae’r enwebiad a’r fuddugoliaeth hon yn adlewyrchu’n wirioneddol y meddylfryd fod ffilmiau a gynhyrchir ar gyfer Cynhyrchu’r Ffilm Fer yn cael eu creu er mwyn cyrraedd cynulleidfa a chanfod llwyddiant tu hwnt i’r Brifysgol.”
Llongyfarchiadau i bawb a gymerodd ran, ac edrychwn ymlaen at weld mwy o’u ffilmiau sydd ar y gweill a chefnogi eu gyrfaoedd yn y diwydiannau creadigol yn y dyfodol! Cadwch lygad am gyhoeddiad am yr Arddangosfa Ddiwedd Blwyddyn er mwyn gweld rhagor o ffilmiau byrion gan fyfyrwyr yn ystod y cyfnod graddio.