Prifysgolion yn cydweithio i lansio canolfan ar gyfer datblygiad proffesiynol sy'n seiliedig ar ymchwil ym maes addysg
Mae dwy brifysgol yng Ngogledd Cymru wedi ymuno i lansio canolfan newydd cyffrous ar gyfer datblygiad proffesiynol sy’n seiliedig ar ymchwil yn y sector addysg a gofal plant.
Mae'r Ganolfan Ymarfer a Dysgu Proffesiynol Addysg ar sail Ymchwil (RiPPLE) yn dwyn ynghyd arbenigedd, adnoddau a gwerthoedd cyffredin Prifysgol 鶹 a Phrifysgol Wrecsam i ddiwallu anghenion Cymru a thu hwnt.
Bydd yn cefnogi cydweithio rhwng addysgwyr ac ymchwilwyr i feithrin dull dysgu proffesiynol sy’n seiliedig ar ymchwil o ansawdd uchel, yn ogystal â datblygu a rhannu adnoddau a hyfforddiant sy'n ddefnyddiol ac yn hygyrch.
Bydd y Ganolfan yn cefnogi datblygiad gyrfa addysgwyr ac yn cefnogi ysgolion i gyflwyno profiadau dysgu arloesol, cynhwysol, dwyieithog i blant.
Meddai Tricia Sterling, Pennaeth Ysgol Addysg Prifysgol 鶹 “Mae’r Ganolfan yn cadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi addysgwyr ar bob cam o’u gyrfa gyda mynediad at ddysgu proffesiynol sy’n seiliedig ar ymchwil. Mae gweithio mewn partneriaeth â Phrifysgol Wrecsam yn caniatáu i ni ddod â’r goreuon o’n harbenigedd at ei gilydd i gyd-greu cefnogaeth ddefnyddiol gydag ysgolion ledled Cymru ac ar eu cyfer.”
Ychwanegodd Sue Horder, Deon Cysylltiol ym Mhrifysgol Wrecsam “Mae’r cydweithio hwn yn ymgorfforiad cyffrous o’n gweledigaeth ar y cyd ar gyfer addysg yng Nghymru – un sy’n gynhwysol, yn flaengar, ac sydd wedi’i chysylltu’n ddwfn ag anghenion ymarferwyr a dysgwyr. Bydd y Ganolfan yn darparu cyfrwng hanfodol ar gyfer deialog broffesiynol, ymholiad a thwf.”
Bydd y Ganolfan yn lansio gydag wythnos o ddigwyddiadau Dysgu Proffesiynol i addysgwyr yn dechrau ar 30 Mehefin 2025.
Yn ganolog i waith y Ganolfan bydd sicrhau ei bod yn diwallu anghenion ymarferwyr. I sicrhau hynny, byddai’r Ganolfan yn falch iawn o glywed gan unrhyw ymarferwyr a hoffai fod yn rhan o Grŵp Llywio'r Ganolfan.
Am ragor o wybodaeth neu i wirfoddoli i'r Grŵp Llywio, e-bostiwch Dr Nia Young ar nia.young@bangor.ac.uk