“Wrth edrych yn ôl, dewis Prifysgol Âé¶¹Íø oedd un o’r penderfyniadau gorau i mi ei wneud. Fe ddes i am y cwrs sŵoleg gyda herpetoleg, ond fe arhosais i am y bobl, y mynyddoedd, a'r môr. Mae'n lle arbennig lle nad ydych chi byth ymhell o antur, boed hynny ar draws Y Fenai neu ym mynyddoedd Eryri!
Roeddwn i'n rhan o sawl cymdeithas yn ystod fy amser ym Mangor, y rhai mwyaf nodedig i mi oedd y Gymdeithas Wyddelig, y Clwb Rhwyfo, a'r Gymdeithas Herpetolegol, lle bu imi gyfarfod â phobl a oedd yn rhannu fy niddordebau ac a helpodd i lunio fy mhrofiad. Dechreuais sglefrfyrddio ym Mhrifysgol hefyd a chanfod cymuned sglefrio leol wych a groesawodd fi. Boed yn waith maes cyffrous, rhwyfo wrth i'r haul godi, neu fynd allan am sesiwn sglefrio ar ôl darlithoedd, fy atgofion hoffusaf yw bod yn yr awyr agored yng nghanol byd natur.
Wrth i mi agosáu at raddio, gwirfoddolais gyda The Siku Project, menter cadwraeth rhew môr dan arweiniad cyn-fyfyriwr o Fangor, Nick Penny. Drwy ymdrechion y fenter wirfoddoli, ceisiodd fy nghyd-sylfaenydd a minnau ddatblygu'r project, ac felly fe sefydlon ni Real Ice yn 2022 gyda'r genhadaeth o adfer a chadw rhew môr yr Arctig drwy ddatblygu technolegau di-garbon i gynorthwyo yn y frwydr i gadw rhew’r môr rhag toddi’n ormodol.
Rhoddodd Âé¶¹Íø nid yn unig sylfaen academaidd i mi, ond hefyd y chwilfrydedd i freuddwydio a gweithredu ar hynny. Roedd fy amser ym Mangor yn ffurfiannol. Dysgais i fynd ati i wneud pethau newydd, rhoi cynnig ar bethau newydd, a bod yn ddi-ofn wrth gymryd y llwybr sy'n mynd â’ch bryd; dydych chi byth yn gwybod i ble y gallai arwain.â€