
Glenn Swain
PRIF HYFFORDDWR YR ACADEMI YN ADRAN FUTSAL Y BLOOMSBURY FOOTBALL FOUNDATION

A allwch ddisgrifio eich swydd bresennol a sut y cawsoch y swydd ar ôl graddio?
Ar hyn o bryd, rwy’n gweithio fel Prif Hyfforddwr yr Academi yn adran Futsal y Bloomsbury Football Foundation, sef sefydliad elusennol sy’n gweithio o amgylch Llundain Fwyaf yn hyrwyddo buddion corfforol, meddyliol a chymdeithasol chwaraeon a phêl-droed, yn enwedig i bobl ifanc. Ar ôl graddio, gwnes fanteisio ar y cyfle i fynd allan i America a gweithio’n llawn amser fel hyfforddwr pêl-droed i Academi Ryngwladol CPD Lerpwl yn Ne Califfornia. Roedd hwn yn gyfle gwych i ennill profiad o fyw a gweithio mewn diwylliant newydd ac i ddatblygu fy annibyniaeth. Yn dilyn hyn, dychwelais i’r Deyrnas Unedig a dilynais radd Meistr mewn Arweinyddiaeth mewn Chwaraeon ym Mhrifysgol De Cymru. Yn ystod fy ngradd Meistr, cawsom ein hannog i ddilyn datblygiad proffesiynol yn y byd go iawn, felly dechreuais chwilio am gyfle i ddatblygu fy sgiliau arwain ymhellach, o fewn sector yr oeddwn yn ei fwynhau ac yn angerddol amdano, wrth weithio gyda mentor ac o fewn tîm yr oeddwn yn teimlo y gallwn ddysgu llawer ohono, a dyna sut y cyrhaeddais Bloomsbury Football Foundation,
Sut mae eich gradd wedi cyfrannu at ddatblygiad eich gyrfa?
Astudiais Wyddorau Chwaraeon a Ffrangeg fel Cydanrhydedd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, felly datblygais ddealltwriaeth dda o elfennau theori a phroffesiynol chwaraeon, yn arbennig datblygiad, wrth ddysgu mwy am wahanol ddiwylliannau a chael amrywiaeth o brofiadau trwy ochr Ffrangeg fy nghwrs.
Beth oedd yr her fwyaf ichi ei hwynebu wrth ddechrau eich gyrfa, a sut wnaethoch ei goresgyn?
Yr her fwyaf yr wyf wedi’i hwynebu hyd yn hyn yn fy ngyrfa oedd penderfynu a ddylwn barhau yn fy rôl lawn amser gyntaf, neu gamu’n ôl ar ôl graddio. Gall fod yn anodd gadael swydd yr ydych yn teimlo eich bod wedi gweithio mor galed amdani, ac wedi gwneud gwahaniaeth drwyddi, yn ôl i'r ansicrwydd o beidio â gwybod y cam nesaf. Fodd bynnag, gall parhau â’r gwaith caled ac ychwanegu’n gyson at eich profiadau eich arwain at lwybr newydd, a all fod hyd yn oed yn well.
A oes unrhyw sgiliau penodol o'ch cwrs yr ydych yn eu defnyddio'n rheolaidd yn eich swydd?
Rwyf wedi defnyddio llawer o’r sgiliau a ddysgais o’r cwrs yn rheolaidd yn fy swydd, megis gwybodaeth am gaffael sgiliau wrth hyfforddi chwaraewyr, cyfnodoli a chynllunio i arwain cynnydd dros gyfnodau amser penodol, a sgiliau cyfathrebu, boed gyda chyfoedion neu reolwyr yn y gwaith, chwaraewyr, neu randdeiliaid eraill.
Pa mor bwysig fu rhwydweithio yn nilyniant eich gyrfa?
Mae rhwydweithio yn rhywbeth rwy'n parhau i geisio ei ddatblygu'n weithredol, ac er nad yw rhwydweithio wedi cael effaith sylweddol ar fy natblygiad gyrfa hyd yn hyn, rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y gall ei wneud i bobl eraill.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i raddedigion newydd sy'n ymuno â'r farchnad swyddi?
Byddwch yn amyneddgar wrth chwilio am rywbeth sy'n addas i chi, ond ceisiwch fanteisio ar gyfleoedd yn barhaus er mwyn parhau i ddatblygu eich hun, boed hynny trwy addysg bellach, cyrsiau, gwirfoddoli neu swyddi y gallwch ddysgu oddi wrthynt sy'n ymwneud â'ch maes dymunol.
A oes unrhyw gymwysterau proffesiynol neu dystysgrifau y byddech yn argymell i rywun eu cael?
Byddwn yn argymell ceisio sicrhau cymaint o gymwysterau ag y gallwch. Rwyf wedi dod o hyd i lawer o gymwysterau rhad ac am ddim, neu gymharol rad, y gallwch gofrestru i'w gwneud i helpu'ch datblygiad. Wrth gwrs, bydd rhai cymwysterau gofynnol amlwg a drytach o fewn eich taith dilyniant gyrfa, ond gall cymwysterau cysylltiedig, nad ydynt o reidrwydd yn hanfodol, helpu i'ch rhoi ar y blaen. Er enghraifft, wrth sicrhau fy mathodynnau hyfforddi pêl-droed pellach, es hefyd ati i sicrhau rhai bathodynnau hyfforddi Futsal, ac mae hyn wedi fy arwain at fy swydd bresennol.
Ble mae’r cyfleoedd gyrfa mwyaf ym maes chwaraeon ac ymarfer ar hyn o bryd?
Mae byd Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn newid ac yn datblygu’n barhaus, felly mae’n anodd rhagweld y cyfleoedd gyrfa mwyaf. Rwy’n ceisio dilyn pethau rwy’n eu mwynhau ac yn gweld budd ohonynt, datblygu fy nghryfderau a’m sgiliau unigryw fy hun i’r lefel uchaf bosibl, a manteisio ar y cyfleoedd gyrfa sy’n codi o ganlyniad i hyn.
Beth fyddech chi’n ei ddweud wrth rywun sy’n ystyried dilyn gradd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø?
Byddwn yn dweud bod Prifysgol Âé¶¹Íø yn brifysgol anhygoel o ran cydbwyso Chwaraeon, Addysg a Chymdeithasu, wrth sicrhau’r gorau o'r tair elfen. Mae’r amrywiaeth sydd ar gael yn golygu bod ystod enfawr o bosibiliadau ar gael ichi, heb eich llethu. Llwyddais i gael profiadau anhygoel o ganlyniad i’m hamser ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø, o’r pethau yr oeddwn yn eu disgwyl ac yn eu ceisio, i gyfleoedd na fyddwn erioed wedi’u rhagweld cyn dechrau yn y brifysgol.