
Jemima Letts
Graddiodd Jemima Letts yn 2019 gyda gradd BSc mewn Coedwigaeth. Mae Jemima bellach yn gweitho fel Coedwigwr Cynorthwyol yn Ystâd Chatsworth.

Pam wnaethoch chi ddewis astudio ym Mangor?
Pan ddes i Fangor ar Ddiwrnod Agored, syrthiais mewn cariad â’r campws a’r lleoliad ar unwaith. Dyma'r prif reswm i mi ddewis astudio ym Mangor ac nid prifysgol arall a oedd yn cynnig cwrs coedwigaeth. Bu gan Fangor raglen gradd coedwigaeth ers amser maith ac roedd maint yr ymchwil a wnaed yn y Brifysgol yn golygu fy mod yn dysgu gan bobl sydd ar flaen y gad ym meysydd ymchwil newydd a datblygol ym maes coedwigaeth. Mae Âé¶¹Íø ei hun yn lleoliad gwych, gyda chysylltiadau trafnidiaeth anhygoel ac yn agos i Barc Cenedlaethol Eryri. Roedd gan y cwrs coedwigaeth y dewis o ychwanegu blwyddyn lleoliad rhyngosod, sy'n golygu fy mod yn gallu cymryd blwyddyn i ffwrdd o astudio i roi'r hyn yr oeddwn yn ei ddysgu mewn cyd-destun ymarferol.
Pam ddewisoch chi eich cwrs penodol?
Yn y diwedd fe wnes i astudio coedwigaeth trwy gamgymeriad! Pan ddes i i orffen fy amser yn yr ysgol, roeddwn i'n gwybod fy mod eisiau swydd a oedd yn cynnwys gweithio y tu allan ac roedd gen i ddiddordeb gwirioneddol mewn rheoli amgylcheddau naturiol. Ar ôl gwneud rhywfaint o ymchwil i gyrsiau rheoli cefn gwlad ehangach, deuthum ar draws y radd coedwigaeth ym Mangor ar UCAS drwy hap a damwain. Penderfynais fynd i ddiwrnod agored a dechreuais ymddiddori mewn coedwigaeth ar unwaith - roedd y syniad o dreulio pedair blynedd yn byw oddi cartref yng Nghymru, yn dysgu popeth am goed, yn swnio'n anhygoel i mi ac fe wnes i gais i Fangor ar gyfer ei chwrs coedwigaeth a chadwraeth gyda choedwigaeth. Ar ôl cael fy nerbyn i astudio coedwigaeth, darganfyddais yn fuan fod llawer mwy i reoli coed a choetiroedd nag y mae pobl yn sylweddoli!
Beth wnaethoch chi ei fwynhau fwyaf am eich amser ym Mangor?
Mae cymaint o bethau yn aros yn fy nghof o fy nghyfnod yn astudio ym Mangor. Fel rhan o fy nghwrs, fe aethom ni ar nifer enfawr o deithiau maes, yn lleol o amgylch gogledd Cymru, ac ymhellach i ffwrdd, ac roedd yn brofiad gwych cwrdd â choedwigwyr yn y byd go iawn a dysgu am yr heriau roedden nhw’n eu hwynebu a beth oedd swm a sylwedd eu swyddi.
Roedd y gweithgareddau allgyrsiol oedd ar gael ym Mangor mor amrywiol - cefais gyfle i ddechrau dringo fel rhan o Gymdeithas Ddringo Âé¶¹Íø a hefyd ymwneud â Gerddi Botaneg y Brifysgol yn Nhreborth. Yn ystod fy ail flwyddyn, deuthum yn arweinydd cyfoed i helpu i groesawu myfyrwyr coedwigaeth newydd a mwynheais fy amser yn helpu pobl i ymgartrefu a threulio amser gydag arweinwyr cyfoed o feysydd pwnc eraill. Mae'r bobl y gwnes i gyfarfod â nhw ar fy nghwrs yn bobl rydw i'n dal i gadw mewn cysylltiad â nhw nawr. Mae coedwigaeth yn broffesiwn mor glos fel y dof ar draws bobl a astudiodd ym Mangor ym mhob man, gan gynnwys fy mhennaeth!
Sut wnaeth Âé¶¹Íø eich helpu i gael y swydd/gyrfa sydd gennych chi nawr?
Cefnogodd Prifysgol Âé¶¹Íø fi i gyflawni fy ngradd israddedig mewn coedwigaeth a alluogodd i mi wneud cais am swyddi reoli yn y proffesiwn coedwigaeth. Mae'r enw da sydd gan y radd goedwigaeth ym Mangor hefyd yn help mawr! Roedd y gefnogaeth a gefais yn ystod fy astudiaethau yn ddi-fai ac rwy'n amau y byddwn wedi cael marc mor dda yn fy ngradd hebddi. Yn ystod fy amser yn astudio, roeddwn yn dioddef o broblemau iechyd eithaf difrifol, ond fe wnaeth cefnogaeth fy narlithwyr a staff cymorth o bob rhan o’r Brifysgol fy ngalluogi i barhau â’m gradd a gwneud newidiadau i’m galluogi i raddio!
Dechreuais fy musnes fy hun hefyd pan oeddwn yn astudio, a rhoddodd y timau Cyflogadwyedd a Byddwch Fentrus ym Mangor gefnogaeth ac anogaeth aruthrol i mi - rhywbeth y byddwn wedi bod ar goll hebddo!
Beth ydy’ch gwaith yn eich swydd bresennol?
Ar hyn o bryd fi yw'r Coedwigwr Cynorthwyol ar Ystâd Chatsworth yn Swydd Derby. Rwy'n gweithio fel rhan o'r tîm Coedwigaeth a Choedyddiaeth i reoli'r bron i 4,000 erw o goetir ar yr ystâd. Rydym yn cynnal rhaglen dorri coed flynyddol, gan gynaeafu tua 7,000 tunnell o goed bob blwyddyn gyda'n busnes cynaeafu mewnol. Rydym yn plannu tua 90,000 o goed bob blwyddyn ar gyfartaledd, i ddisodli’r rhai a dorrwyd, a thros y 10 mlynedd diwethaf rydym ni hefyd wedi creu 96 hectar o goetir newydd. Rwy’n gyfrifol am reoli busnes coed tân yr ystâd, gan gynhyrchu a dosbarthu coed tân i denantiaid, trigolion lleol a busnesau drwy gydol y flwyddyn. Mae fy ngwaith hefyd yn cynnwys llawer o waith allgymorth, gan greu adnoddau i esbonio coedwigaeth i ymwelwyr, trigolion a grwpiau lleol. Rwy’n wirioneddol angerddol am dechnoleg mapio a Systemau Gwybodaeth Ddaearyddol, ac mae hyn yn rhywbeth rwy’n gwneud llawer ohono fel rhan o’m swydd, gan gwblhau arolwg coedwigoedd a gwaith mesur, gan fapio fy nghanlyniadau i greu data coedwigaeth cywir.
Beth fyddech chi'n ei ddweud wrth rywun sy'n ystyried astudio ym Mangor?
Ewch amdani! Roedd astudio ym Mangor yn brofiad gwych ac yn rhywbeth y byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sy'n ei ystyried. Mae'r cyfleusterau academaidd a'r addysgu yn wych, yn enwedig mewn Coedwigaeth a Gwyddorau Naturiol. Mae'r lleoliad yn ysblennydd ac mae'r amrywiaeth o glybiau a chymdeithasau i gymryd rhan ynddynt yn aruthrol! Mae’r rhwydweithiau cymorth sydd ar gael yn golygu os aiff unrhyw beth o’i le, mae wastad rhywun i helpu, ac mae’r ffrindiau rydw i wedi’u gwneud ym Mangor yn ffrindiau oes.