
Jessica Hughes
ARWEINYDD TÃŽM ANTUR - ZIP WORLD

A allwch ddisgrifio eich swydd bresennol a sut y cawsoch y swydd ar ôl graddio?
Ar ôl cwblhau fy ngradd Meistr yn 2021, llwyddais i sicrhau swydd 'Swyddog Hyb Rygbi' gydag Undeb Rygbi Cymru yng Ngogledd Ddwyrain Cymru. Yno, roeddwn yn gyfrifol am hyrwyddo a datblygu rygbi o fewn lleoliad addysgol, gan gyflwyno sesiynau rygbi allgyrsiol sy’n seiliedig ar y cwricwlwm ar draws pum coleg yng Nghambria. Roedd y swydd yn cynnwys cefnogi clybiau lleol a'r garfan ranbarthol dan 15 oed wrth weithio i uno ysgolion, clybiau a chymunedau. Roedd y prif amcanion yn cynnwys y canlynol: cynyddu cyfranogiad, annog mwynhad, a sicrhau cyfleoedd cynhwysol i bawb, yn unol â gweledigaeth Undeb Rygbi Cymru o gael mwy o bobl i ymwneud â rygbi.
Ar ôl chwe mis, roedd y gofynion o ran teithio dwy awr i fod ar y safle erbyn 8:30am, sesiynau hyfforddi gyda'r nos a oedd yn aml yn golygu dychwelyd adref ar ôl 10pm 5 diwrnod yr wythnos, ac ymrwymiad i gemau rhanbarthol ar benwythnosau yn cael effaith sylweddol ar fy iechyd a'm harian. Gyda chalon drom, gwnes y penderfyniad anodd i adael Undeb Rygbi Cymru er mwyn blaenoriaethu fy lles. Er i mi gamu i ffwrdd o'r swydd, roedd fy angerdd dros ddatblygu talent yn parhau'n ddiwyro. Roeddwn eisiau dod o hyd i swydd ar unwaith ac ar yr un adeg bodloni fy nghariad tuag at weithio gyda phobl yn yr awyr agored, ac o ganlyniad i hynny cefais swydd yn Zip World fel aelod o’r tîm antur.
3 mis i mewn i'm swydd newydd yn Zip World daeth cyfle cyffrous i ddatblygu fy rôl o fewn y cwmni — 3 blynedd yn ddiweddarach rydw i wedi parhau i ddatblygu fel unigolyn yn y rôl arweinydd y tîm antur. Rwy'n goruchwylio rhedeg y safle o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod popeth yn gweithredu'n effeithlon. Rwy'n rheoli, hyfforddi a datblygu’r timau. Rwy'n sicrhau bod adnoddau, boed yn staff, offer neu gyflenwadau, yn cael eu defnyddio'n effeithiol. Mae rhan allweddol o’m swydd yn cynnwys datrys problemau, boed hynny'n datrys heriau gweithredol neu'n dod o hyd i ffyrdd o wella prosesau. Rwyf hefyd yn monitro ac yn dadansoddi metrigau perfformio, ac yn gweithredu strategaethau gyda'r rheolwr safle i hybu cynhyrchiant wrth gadw costau dan reolaeth. Mae cydymffurfiaeth a diogelwch yn flaenoriaeth, gan sicrhau ein bod yn cadw at yr holl reoliadau ac yn cynnal amgylchedd gwaith diogel. Yn y pen draw, fy nod yw symleiddio gweithrediadau, cefnogi'r tîm, ac ysgogi gwelliant parhaus i gadw Zip World yn perfformio fel y parc antur gorau.

Sut gwnaeth eich gradd gyfrannu at ddatblygiad eich gyrfa?
y gwersi bach a ddysgir drwy arsylwi a sgwrsio sy'n cael yr effaith fwyaf — Julian Owen ac Eleri Jones oedd fy nhiwtoriaid ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø ac ni fyddai fy mhrofiad yn y brifysgol a'm datblygiad gyrfa wedi bod yr un peth hebddyn nhw. Gwnaethant chwarae rhan allweddol wrth lywio fy natblygiad personol a phroffesiynol. Helpodd eu harweiniad a'u mentora amhrisiadwy i bontio'r bwlch rhwng damcaniaeth academaidd a’i defnydd yn y byd go iawn. Cael tiwtoriaid sy'n eich cynnwys mewn cydweithrediadau rhyngddisgyblaethol, sy'n eich arwain trwy’r broses o ddadansoddi data, ac yn eich annog i feddwl yn feirniadol; meithrin sgiliau datrys problemau hanfodol. O’u herwydd nhw, cefais brofiad ymarferol iawn wrth astudio, gan gymryd rhan mewn gwaith labordai a phrojectau ymchwil ac arwain y gwaith hwnnw, bod yn rhan o hyfforddi cymunedol, cymryd rhan weithredol yn yr Academi Rygbi Ranbarthol, bod yn llysgennad i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn Brif Arweinydd Cyfoed i’r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon. Er bod darlithoedd a gwerslyfrau yn darparu'r sylfaen, mae profiad ymarferol go iawn wrth astudio yn datblygu'r sgiliau y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi fwyaf, sef datrys problemau, gweithio mewn tîm, arweinyddiaeth a’r gallu i addasu. Rwyf nawr yn datblygu fy nhîm fy hun gan ddefnyddio’r un egwyddorion.
Beth oedd yr her fwyaf y gwnaethoch ei hwynebu wrth ddechrau eich gyrfa, a sut wnaethoch ei goresgyn?
Yr her fwyaf a wynebais wrth ddechrau fy ngyrfa oedd dod o hyd i fy nhroedle a sicrhau cyfle. Bu imi gwblhau fy ngradd meistr yn ystod cyfnod clo COVID-19, ar adeg pan roedd yr ansicrwydd o ymuno â'r farchnad swyddi, ynghyd â chystadleuaeth gynyddol rhwng graddedigion newydd a gweithwyr proffesiynol profiadol a oedd wedi colli swyddi, yn llethol. Roedd y pandemig wedi cyflymu arferion gweithio o bell a thrawsnewid digidol, ond roeddwn i'n gwybod fy mod yn ffynnu mewn amgylcheddau ymarferol sy'n canolbwyntio ar dimau.
Ar adegau roeddwn yn petruso cyn mentro, fodd bynnag, chwaraeodd sgyrsiau dros Zoom gyda fy nhiwtor, Julian, ran hanfodol wrth adfer fy hunan-gred. Helpodd ei arweiniad i fireinio fy nodau o ran gyrfa a llywio'r broses o chwilio am swydd yn fwy strategol. O ganlyniad i’w gyngor, dysgais fod rhwydweithio ac adeiladu perthnasoedd yr un mor bwysig â sgiliau a chymwysterau. Y peth pwysicaf i mi ei ddysgu, a’r cyngor y byddwn yn ei roi i fyfyrwyr nawr, yw mynd ati i rwydweithio. Cysylltwch â gweithwyr proffesiynol, meithrin cysylltiadau ystyrlon, a chwilio am gyfleoedd mentora. Weithiau, mae'r cyfle cywir yn dod nid yn unig o wneud cais am swyddi ond o'r perthnasoedd yr ydych yn eu datblygu ar hyd y ffordd.
A oes unrhyw sgiliau penodol o'ch cwrs yr ydych yn eu defnyddio'n rheolaidd yn eich swydd?
Mae’r agweddau gweithredol a’r agweddau arweinyddiaeth ar fy rôl yn gofyn am y gallu i ddadansoddi data a'i droi’n fewnwelediadau ymarferol. Boed yn asesu metrigau perfformio, ystadegau diogelwch neu adborth gan gwsmeriaid, mae fy mhrofiad o ddadansoddi data yn fy ngalluogi i ddehongli adroddiadau data yn effeithiol. Gallaf esbonio'r canfyddiadau mewn termau clir a syml i'm tîm, gan ganiatáu iddynt wneud penderfyniadau gwybodus sy'n gwella ein gweithrediadau. Sgil hanfodol arall yw'r gallu i siarad a chyflwyno gyda hyder a phwrpas. Mae'r cyfuniad o ddadansoddi data a chyfathrebu yn fy ngalluogi i arwain yn effeithiol, gan sicrhau bod y tîm yn wybodus, yn frwdfrydig, ac yn ymdrechu'n barhaus i wella ein gweithrediadau antur.
Pa mor bwysig fu rhwydweithio yn nilyniant eich gyrfa?
Yn aml, mae'r cyfleoedd cywir yn codi nid yn unig o wneud cais am swyddi, ond o'r perthnasoedd a'r cysylltiadau yr ydych yn eu meithrin dros amser. Yn ogystal â chwblhau fy ngradd a fy ngradd meistr, cefais y fraint o weithio gydag Undeb Rygbi Cymru, lle bûm yn gwasanaethu fel hyfforddwr cymunedol a chynorthwyydd cryfder a chyflyru i’r academi rygbi ranbarthol. Fe wnaeth y profiadau hynny ganiatáu i mi gwrdd â rhai unigolion gwirioneddol dalentog ac angerddol sydd wedi bod yn ffynhonnell ysbrydoliaeth wych drwy gydol fy ngyrfa. Mae'r perthnasoedd yr wyf wedi'u meithrin dros y 5 mlynedd wedi bod yn amhrisiadwy. Rwyf wedi cael nifer o fentoriaid a chydweithwyr a oedd yno bob amser i gynnig cefnogaeth ac arweiniad, yn enwedig pan wnes i ddechrau yn fy swydd fel Swyddog Hyb Rygbi. Rwy’n parhau i fod yn agos gyda llawer o'r cysylltiadau hyn, ac yn parhau i elwa o'u dealltwriaeth a'u hanogaeth.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i raddedigion diweddar sy'n ymuno â'r farchnad swyddi?
Fy mhrif ddarn o gyngor i raddedigion diweddar sy'n ymuno â'r farchnad swyddi yw cofio bod yr hyn yr ydych yn ei wneud ochr yn ochr â'ch gradd yr un mor bwysig, os nad yn bwysicach. Er bod gallu ysgrifennu papurau ymchwil cryf yn hanfodol, gall datblygu sgiliau megis cydweithio, rhwydweithio ac ymgysylltu'n weithredol â chymuned eich prifysgol ddarparu gwerth llawer mwy. Mae'n hanfodol cymryd rhan, cyfrannu at brojectau, a gwneud i chi'ch hun sefyll allan o'r dorf. Os ydych chi eisiau rhywbeth, mae angen i chi fod yn ddi-baid wrth fynd ar ei drywydd. Manteisiwch ar bob cyfle a ddaw i’ch rhan. Gall y farchnad swyddi fod yn gystadleuol, ond bydd y rhai sy'n rhagweithiol, yn dyfalbarhau, ac yn barod i ddysgu bob amser yn dod o hyd i ffordd i lwyddo.
A oes unrhyw gymwysterau proffesiynol neu dystysgrifau y byddech yn argymell i rywun eu cael?
Ar ôl bod i ffwrdd o’r byd ymchwil a gwyddorau chwaraeon proffesiynol am ychydig flynyddoedd, fy argymhelliad mwyaf fyddai mynychu cwrs Microsoft Excel a dod yn hyfedr mewn rheoli data. Mewn astudiaethau ymchwil a'ch gyrfa broffesiynol, bydd meistroli Excel yn arbed oriau di-rif i chi. Mae'r gallu i drefnu, dadansoddi a chyflwyno data yn effeithlon yn amhrisiadwy, gan ei fod nid yn unig yn symleiddio llif gwaith ond hefyd yn gwella eich cynhyrchiant a'ch prosesau gwneud penderfyniadau cyffredinol.