
Charles Vogt Economeg Ariannol
Cafodd Charles radd israddedig mewn Economeg Ariannol gydag Ysgol Busnes Âé¶¹Íø cyn symud yn ei flaen i wneud gradd ôl-raddedig mewn Bancio a Chyfraith ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø.

Sut mae eich gyrfa wedi datblygu ers i chi raddio o Brifysgol Âé¶¹Íø, a beth yw eich cyfrifoldebau chi yn y gwaith ar hyn o bryd?
Cefais swydd fel Dadansoddwr Buddsoddiadau gyda chwmni Arrow Global Ltd ar ôl graddio. Mae’r cwmni, sydd wedi ei leoli ym Manceinion, yn un o’r prif gwmnïau buddsoddi a rheoli asedau yn Ewrop. Roeddwn i’n ffodus iawn o gael gweithio fel aelod o’r tîm canolog sy’n dyrannu cyfalaf, ac yno cefais gyfle i adeiladu ar y sgiliau academaidd a gefais yn ystod fy nghyfnod ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø. Buan iawn y sylwais i mor gyflym y mae’r byd rheoli cronfeydd a buddsoddiadau yn symud. Yn fy ngwaith o ddydd i ddydd rwy’n rhoi cymorth i’r tîm Rheoli Portffolio ac yn monitro ein perfformiad mewn ystod eang o gyfryngau buddsoddi er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein targedau ac yn manteisio ar gyfleoedd buddsoddi newydd. Rwyf i’n gweithio i’r cwmni ers dwy flynedd bellach ac yn datblygu gyda’r busnes.
Pam dewis astudio yn Ysgol Busnes Âé¶¹Íø?
Dewisais Ysgol Busnes Âé¶¹Íø am fod ganddi enw da am sicrhau canlyniadau rhagorol ar gyfer myfyrwyr sy’n astudio gradd mewn Cyfrifeg, Bancio neu Gyllid. Fe ddarllenais i fod nifer o raddedigion yr ysgol wedi mynd yn eu blaen i weithio i sefydliadau yn y farchnad ariannol rhyngwladol.
Sut mae eich gradd a'r profiadau a gawsoch yn Ysgol Busnes Âé¶¹Íø wedi dylanwadu ar eich gyrfa/bywyd?
Mae astudio gradd israddedig mewn Economeg Ariannol ac yna gradd mewn Bancio a Chyfraith fel myfyriwr ôl-raddedig ym Mangor wedi fy ngalluogi i ddysgu am sbectrwm eang o ddisgyblaethau ariannol. Roedd cael yr hyblygrwydd i ddewis o blith llawer o fodiwlau yn fy ngalluogi i ddysgu rhagor am y meysydd astudio a oedd yn mynd â’m bryd, ac fe wnaeth hynny fy helpu i ddeall sut yrfa fyddai yn gweddu i mi. Dydw i ddim yn credu y byddwn i yn fy sefyllfa i heddiw oni bai am yr holl ddewis o feysydd astudio y mae Ysgol Busnes Âé¶¹Íø yn eu cynnig; mae’r ddwy radd wedi agor llawer o ddrysau i mi ac wedi fy nhywys at yr yrfa rwyf i ynddi nawr.
Pa gyngor fyddech chi'n ei roi i fyfyrwyr sy'n astudio yn Ysgol Busnes Âé¶¹Íø?
Dydi’r un cwestiwn yn gwestiwn gwirion - peidiwch â bod ofn cymryd rhan ac ymgysylltu â'ch darlithwyr!
Beth oedd y peth gorau am astudio yn Ysgol Busnes Âé¶¹Íø?
Yn fuan iawn, rydych chi’n cael eich trwytho â nifer o ddeunyddiau ac adnoddau dysgu. Mae’r darlithwyr wastad yn barod i helpu a rhoi cefnogaeth, ac mae rhai ohonynt yn gyn-fyfyrwyr yn Ysgol Busnes Âé¶¹Íø eu hunain! Rhaid cyfaddef fod y golygfeydd trawiadol o’r Fenai sydd i’w gweld o’r Hen Goleg yn fantais fawr hefyd!
Ym mha ffyrdd mae astudio yn yr Ysgol Fusnes wedi gwella eich cyflogadwyedd?
Cefais gefnogaeth, gofal ac anogaeth gan fy narlithwyr, ac fe roddodd hynny hyder i mi lwyddo a dod o hyd i waith. Mae darlithwyr yn poeni am eich perfformiad yn yr ystafell ddosbarth, ond maen nhw hefyd yn poeni am sut y byddwch chi'n llwyddo yn y dyfodol. Fe wnaeth y ffeiriau gyrfaoedd a chymorth cyflogaeth sy’n cael eu trefnu gan yr ysgol busnes fy helpu i gysylltu â phobl oedd yn arbenigo y meysydd y mae gen i ddiddordeb ynddyn nhw. Fe wnaeth hyn ehangu fy rhwydwaith a fy helpu i gael swydd ar ôl graddio. A dweud y gwir, pe na bawn i wedi mynd i un o ffeirau gyrfaoedd Prifysgol Âé¶¹Íø, fyddwn i ddim wedi cwrdd â fy nghyflogwr i heddiw.