Mae ymgyrch newydd yn mynd rhagddi oddi ar arfordir gogledd-ddwyreiniol yr Alban yr haf hwn i weld a allai’r genhedlaeth nesaf o ffermydd gwynt alltraeth arnofiol gynyddu cynhyrchedd y moroedd o amgylch y Deyrnas Unedig. Mae'r ymgyrch yn dwyn ynghyd wyddonwyr morol blaenllaw o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig gan gynnwys prifysgolion Lerpwl, Âé¶¹Íø, East Anglia, Southampton a Hull; Marine Scotland, sef Cymdeithas Gwyddor Môr yr Alban; a'r Ganolfan Eigioneg Genedlaethol.
Bydd dwy long ymchwil, sef y Llong Ymchwil Frenhinol Discovery a Llong Ymchwil Prifysgol Âé¶¹Íø Prince Madog, ynghyd â fflyd o gerbydau tanddwr, yn cynnal arolwg o’r dyfroedd o amgylch dwy fferm wynt arnofiol, a ddatblygwyd fel prototeipiau, oddi ar arfordir dwyrain yr Alban, sef: Kincardine, sy'n eiddo i Dragados ac sy’n cael ei weithredu gan Grupo Cobra; a Hywind, sy'n cael ei weithredu gan Equinor. Bydd y gwyddonwyr yn edrych i weld a all tyrfedd a chymysgu ychwanegol, wrth i geryntau’r llanw lifo trwy’r ffermydd gwynt arnofiol hyn, ddod â maetholion i fyny o'r dyfnderoedd ar gyfer y plancton sy’n byw yn y dyfroedd cynnes sy’n nes at yr wyneb. Plancton yw sylfaen y gadwyn fwyd forol, felly gallai cynyddu cynhyrchiant plancton fod o fudd i fioamrywiaeth moroedd a physgodfeydd y Deyrnas Unedig.
Dros y degawd diwethaf, mae ynni gwynt alltraeth wedi dod yn rhan fawr o gyflenwad ynni'r Deyrnas Unedig, ac yn stori o lwyddiant diwydiannol i’r Deyrnas Unedig. Yn 2024, roedd gwynt yn cyfrif am 30% o gynhyrchiant trydan y Deyrnas Unedig, gyda mwy na hanner y cynhyrchiant hwnnw'n digwydd ar y môr. Ond wrth i'r moroedd bas, sy'n addas ar gyfer ffermydd gwynt, ddechrau llenwi, mae'r diwydiant yn edrych ymhellach o’r lan er mwyn diwallu anghenion ynni'r Deyrnas Unedig a helpu i gyrraedd sero net.
Mae'r symud ymhellach o’r lan yn heriol o safbwynt peirianegol oherwydd bod y dŵr yn ddyfnach, gan olygu fod angen datblygu technoleg gwynt arnofiol newydd, a bellach mae'r Deyrnas Unedig yn arwain yn fyd-eang yn y maes hwnnw.
Mae symud i ddŵr dyfnach hefyd yn golygu y bydd y ffermydd gwynt yn gweithredu mewn amgylchedd eigionegol gwahanol iawn - moroedd arfordirol lle mae'r haenau dŵr yn newid gyda'r tymhorau. Mae'r moroedd hyn ymhlith y rhai mwyaf biolegol-gynhyrchiol ac amrywiol ar y blaned, fel yr eglurwyd gan David Attenborough yn y gyfres deledu Blue Planet. .
Dros yr haf, mae'r dyfroedd dyfnach hyn yn ffurfio haenau, gyda dŵr cynnes yn gorwedd uwch ben dŵr oerach oddi tanodd. Mewn dŵr dwfn y ceir y maetholion y mae ar blancton eu hangen, ond mae’r plancton yn byw yn yr haen uchaf. Wrth i’r llanw lifo heibio i'r ffermydd gwynt mae’n cynhyrchu tyrfedd a all ddod â rhai o'r maetholion hynny i fyny i'r dŵr wyneb gan hyrwyddo twf plancton.

Meddai’r Athro Jonathan Sharples o Brifysgol Lerpwl, arweinydd y project a’r prif wyddonydd ar fwrdd y Llong Ymchwil Frenhinol Discovery:
“Mae’r ymchwil yma’n gyfle gwych i asesu effeithiau technoleg y ffermydd gwynt arnofiol newydd yma ar gynhyrchedd y cefnforoedd. Mae damcaniaethau presennol yn awgrymu oherwydd bod y cefnfor yn cynhesu'n gyflym y bydd yn dod yn llai cynhyrchiol, gan effeithio ar fioamrywiaeth ac ar bysgodfeydd. Bydd yn ddefnyddiol iawn gwybod a fydd y maetholion sy'n cael eu cymysgu tua’r wyneb gan ffermydd gwynt alltraeth arnofiol yn gallu gwrthbwyso rhywfaint o'r gostyngiad hwnnw.
Meddai Dr Ben Lincoln, sef yr eigionegydd ym Mhrifysgol Âé¶¹Íø sy'n arwain y gwaith ar y Llong Ymchwil Prince Madog:
“Yn ystod y don wres yn haf 2023, fe wnaethon ni sylwi ar rywbeth anarferol yn digwydd o amgylch ffermydd gwynt arnofiol. Er bod tymereddau dŵr wyneb tua 4-5 °C yn uwch na'r arfer ar draws y rhan fwyaf o'r rhanbarth a oedd yn profi ton wres, roedd y dŵr wyneb yn llawer oerach yr ochr bellaf i ffermydd gwynt. Y rheswm dros hynny ydy bod tyrfedd yn dod â dŵr dwfn, oerach i'r wyneb. Os ydy dŵr oerach yn dod i'r wyneb fel hyn, bydd maetholion y gallai'r plancton eu defnyddio hefyd yn dod i’r wyneb. Bydd yr arsylwadau newydd yma’n ein galluogi ni i fesur faint o hynny sy’n digwydd.â€
Ochr yn ochr â'r gwaith a fydd yn digwydd ar fwrdd y llongau, bydd tîm rhyngddisgyblaethol o wyddonwyr daear, eigionegwyr a pheirianwyr trydanol o Brifysgol Southampton yn cynnal dadansoddiad newydd i fesur tymheredd y môr gan ddefnyddio'r ceblau morol foltedd uchel sy'n cysylltu'r ffermydd gwynt â'r grid pŵer cenedlaethol.
Meddai’r Athro Justin Dix: “Bydd gallu canfod tymheredd y dŵr o’r ceblau trosglwyddo yn gyfle i olrhain newidiadau yn nhymheredd ac yn haeniad y cefnfor yn ystod oes y ffermydd gwynt.â€
Bydd y rhaglen sydd wedi ei chynllunio ar gyfer yr haf hwn yn asesu effaith ffermydd gwynt alltraeth arnofiol er mwyn llywio datblygiadau yn y dyfodol i gyfrannu at dargedau sero net ond hefyd i amddiffyn iechyd y cefnforoedd mewn hinsawdd sy'n cynhesu.
Ariennir y gwaith gan y .