Ariannu
Yn ogystal â NWCR, rydym yn ddiolchgar i UK Research and Innovation (UKRI), Ymchwil Canser Cymru (CRW) a KESS2, am ariannu ein hymchwil ar hyn o bryd, ac i’r Cyngor Ymchwil Biotechnoleg Gwyddorau Biolegol, MRC, Ymddiriedolaeth Wellcome, Cancer Research UK, Awyr Las a Tenovus am ein cefnogi’n flaenorol.

Sut gallwch chi ein cefnogi?
Er mwyn gallu mynd ymhellach gyda’n hymchwil, mae'n rhaid i ni fuddsoddi yn y cyfarpar, y dechnoleg a’r arbenigedd diweddaraf yn gyson. Gallwch hefyd gefnogi ymchwil yn sefydliad North West Cancer Research Âé¶¹Íø yn uniongyrchol trwy roi rhodd. Mae rhoddion fel rheol yn mynd tuag at brynu'r offer diweddaraf. I sicrhau gwneud y defnydd gorau o’ch rhoddion, bydd unrhyw beth a brynir yn cael ei gymeradwyo gan bwyllgor gwyddonol NWCR, sy’n cynnwys panel o ymchwilwyr canser arbenigol annibynnol.
Os hoffech ein cefnogi, cysylltwch â Dr Edgar Hartsuiker:
Rhodd hael gan Ms Mair Roberts
Mae cymynrodd hael, a dderbyniwyd gan Ms Mair Roberts, cyfaill i Brifysgol Âé¶¹Íø, wedi cael ei ddefnyddio i brynu offer i gefnogi ymchwil yr ysgol yn y maes bioleg celloedd canser a ffarmacoleg.