Arwain y ffordd - Entrepreneuriaid yn mentora merched yn Ysgol Busnes 鶹
Fel rhan o agenda Athena SWAN Ysgol Busnes 鶹, sef ymrwymiad i gydraddoldeb rhywedd a hybu gyrfaoedd merched yn yr ysgol, mae tair myfyrwraig Ysgol Busnes 鶹 wedi cymryd rhan mewn rhaglen fentora gyda thair merch fusnes lwyddiannus lleol. Roedd yr entrepreneuriaid yn cynnwys Jess Lea-Wilson o Halen Môn, Sally Bowyer, perchennog Brynteg Glamping a Julie Williams, perchennog The Coaching Den 4 Life.
Cafodd y myfyrwyr brofiadau ac arweiniad gwerthfawr gan yr entrepreneuriaid, gydag un yn dweud ei bod nid yn unig wedi cael profiad gwaith ymarferol, ond wedi gweithio’n agos gyda’r entrepreneur drwy gydol y cyfnod ac wedi cael cyngor gyrfaol. “Mae Jess wedi fy helpu i osod nodau ar gyfer y cyfnod mentora a thu hwnt, cefais gyfle i ddysgu a gweithio gyda hi i ddatblygu cynnyrch y cwmni, a gwneud gwaith ymchwil i ddeall eu cystadleuwyr. Roedd yn brofiad gwych”.
Roedd un entrepreneur hyd yn oed wedi ysbrydoli a chefnogi un o’n myfyrwyr i sefydlu ei busnes ei hun. “Trwy’r rhaglen fentora hon, rwyf wedi magu’r hyder i rwydweithio ac rwy’n teimlo’n fwy hyderus am fy ngalluoedd fy hun. Rwyf wedi dechrau cwmni o’r enw Be Heard, gyda’r nod o godi ymwybyddiaeth o gyflyrau niwroamrywiol. Y nod yw cefnogi pobl ifanc â chyflyrau niwroamrywiol mewn addysg ac i gyflogaeth. Yn ogystal â gweithio i ddatblygu cyrsiau hyfforddi i sefydliadau fel y gallant gefnogi unigolion yn y gweithlu. Rwy'n teimlo bod gen i lwybr gyrfa o'm blaen yn awr".
Mae Rebecca Bowyer, sydd wedi sefydlu Be Heard hefyd yn bwriadu mynd i ddigwyddiad Women in Business & Tech Expo Karren Brady.
