Cyflwyniad
Mae Ysgol Busnes Âé¶¹Íø wedi ymrwymo i ddarparu addysg o safon uchel trwy gyfrwng y Gymraeg, ac i fynd y tu hwnt i’r disgwyliadau o fewn Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Âé¶¹Íø. Tra’n cyflawni’r ymrwymiad yma mae YBB yn cydnabod y gefnogaeth sydd ar gael gan y Brifysgol, yn bennaf trwy Ganolfan Bedwyr a chan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ac mae wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i ddarparu’r addysg cyfrwng Cymraeg orau bosib i’n myfyrwyr.
Mae Ysgol Busnes Âé¶¹Íø yn cydnabod mai ni yw’r darparwr penna yng Nghymru ym maes Busnes trwy gyfrwng y Gymraeg. O ran cyflogadwyedd rydym yn nodi bod dwyieithrwydd ym maes busnes yn gaffaeliad yn y byd sy’n gynyddol gystadleuol.
Amgylchedd yr Ysgol
Mae’r ysgol yn cydnabod pwysigrwydd meithrin amgylchedd sy’n cefnogi ac yn annog astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Er mwyn hyrwyddo hyn bydd yr ysgol yn sicrhau:
- cyd-weithio i hyrwyddo astudio cyfrwng Cymraeg trwy drefnu digwyddiadau yn ystod gweithgareddau’r Wythnos Groeso
- bydd pob myfyriwr sy’n siarad Cymraeg yn cael tiwtor sy’n siarad Cymraeg
- y drefn arferol o fyfyrwyr sy’n siarad Cymraeg yn cofrestru ar gyfer modiwlau Cymraeg neu ddwyieithog oni bai eu bod yn dewis fel arall
- lle amlwg i’r Gymraeg ar wefan, rhwydweithiau cymdeithasol a hysbysfyrddau yr Ysgol
- anogaeth i staff roi lle amlwg i’r Gymraeg yng ngwaith beunyddiol yr Ysgol trwy, er enghraifft, gwneud hi’n glir i fyfyrwyr ac eraill bod modd, lle bo’n berthnasol, cynnal sgwrs yn y Gymraeg
- bod staff Ysgol Busnes Âé¶¹Íø yn cael cyfle i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle trwy ddarparu cyfleusterau cyfieithu ar-y-pryd mewn pwyllgorau megis Bwrdd Astudiaethau’r Ysgol
Ansawdd, Amrediad a Modelau Darpariaeth
Er mwyn sicrhau safon a chysondeb darpariaeth cyfrwng Cymraeg Ysgol Busnes Âé¶¹Íø, mae staff yn addysgu o fewn eu maes arbenigedd, ac mae modiwlau Cymraeg / Saesneg cyfatebol yn cael yr un arweinydd modiwl, maes llafur cyffredin ac asesiadau sydd yr un peth yn union. Ar hyn o bryd mae Ysgol Busnes Âé¶¹Íø wedi ymrwymo i ddarparu addysgu cyfrwng Cymraeg ar holl fodiwlau’r flwyddyn gynta, ac ar unrhyw fodiwlau yn yr ail a thrydedd flwyddyn lle mae cryn alw am y ddarpariaeth (ac yn amodol ar gyfyngiadau staffio).
Rydym ar hyn o bryd yn darparu pedwar cwrs gradd lle mae modd astudio modiwlau cyfrwng Cymraeg. Rydym yn anelu i gynyddu y nifer o fodylau sydd ar gael yn y Gymraeg, ynghyd â’r nifer o raglenni gradd lle mae’n bosib astudio modylau cyfrwng Cymraeg. I’r perwyl hwn byddwn yn cyd-weithio â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i hyrwyddo a datblygu ein darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy recriwtio mwy o ddarlithwyr Cymraeg eu hiaith.
Mae’r ddarpariaeth Cymraeg yn cael ei chyflwyno trwy fodiwlau cyfrwng Cymraeg, lle bydd yr holl addysgu ac asesiadau trwy gyfrwng y Gymraeg, a thrwy fodiwlau dwyieithog, lle cynhelir darlithoedd trwy gyfrwng y Saesneg a seminarau, tiwtorialau ac asesiadau trwy gyfrwng y Gymraeg. Lle bo’n ymarferol, darperir deunyddiau cefnogol (nodiadau darlith, setiau problemau, cwestiynau trafod ayyb) yn y ddwy iaith. Cyflwynir terminoleg yn y ddwy iaith er mwyn rhoi hyder i fyfyrwyr weithio yn y dyfodol yn y Gymraeg a’r Saesneg fel ei gilydd.
Sicrheir yn ogystal bod y ddarpariaeth yma yn cael lle amlwg tu fewn Ysgol Busnes Âé¶¹Íø ac ar wefannau perthnasol.
Gweithrediad
Er mwyn gweithredu’r polisi mae Ysgol Busnes Âé¶¹Íø wedi creu swydd Cydlynydd Astudiaethau Cyfrwng Cymraeg, fydd yn cael cefnogaeth gan dîm gweinyddol Ysgol Busnes Âé¶¹Íø. Mae’r cydlynydd yn gyfrifol am weithredu’r polisi ac yn gyfrifol am lunio Cynllun Darpariaeth Blynyddol er mwyn sicrhau bod y polisi yn cael ei weithredu’n llawn ac yn effeithiol dros y flwyddyn ganlynol. Dylai’r cynllun gael ei gytuno gyda Chyfarwyddwr Addysgu a Dysgu Ysgol Busnes Âé¶¹Íø erbyn diwedd Ionawr, fel bod modd ei ymgorffori yn y cynllun dosrannu adnoddau cyn y cyfnod rhag-gofrestru. Mae cyfrifoldebau eraill y Cydlynydd yn cynnwys:
- cynrychioli Ysgol Busnes Âé¶¹Íø ar yr holl bwyllgorau allanol perthnasol e.e. TASIG, Panel Busnes Coleg Cymraeg Cenedlaethol
- cydlynu perthynas Ysgol Busnes Âé¶¹Íø â Chanolfan Bedwyr, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac unrhyw sefydliad perthnasol arall
- cynnull a chadeirio Pwyllgor Addysgu a Dysgu cyfrwng Cymraeg Ysgol Busnes Âé¶¹Íø sydd yn cyfarfod unwaith y semester er mwyn trafod materion perthnasol ynghyd ag unrhyw bryder cyfredol a helpu rhagweld problemau allai godi wrth ddarparu addysg cyfrwng Cymraeg Ysgol Busnes Âé¶¹Íø
- trefnu ymdrechion recriwtio cyfrwng Cymraeg Ysgol Busnes Âé¶¹Íø (mewn cydweithrediad gydag adrannau marchnata’r Coleg a’r Brifysgol) gan dargedu y rhai sydd wedi derbyn addysg uwchradd cyfrwng Cymraeg /dwyieithog
- sicrhau llais i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith trwy gynnull a chadeirio pwyllgor staff-myfyrwyr cyfrwng Cymraeg
- cynnal a chefnogi staff, o ran addysgu a gweinyddu, trwy eu cyfeirio at wasanaethau Canolfan Bedwyr, y Tiwtor Cymraeg ayyb
Bydd Ysgol Busnes Âé¶¹Íø yn cydweithio â Chanolfan Bedwyr, yr Ysgol Astudiaethau trwy’r Gymraeg, TASIG ynghyd â chyrff eraill o fewn y brifysgol er hyrwyddo’r uchod.